Catrin Finch ar ei ffordd i Lorient
Yr un pryd ag y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llanelli wythnos nesa, bydd gwyl arall yn cael ei chynnal yn Llydaw.

Mae Gwyl Rhyng-geltaidd Lorient yn cael ei chynnal yn flynyddol ac mae tua 700,000 yn mynd yno pob blwyddyn.

Eleni, mae’r wyl yn cael ei chynnal am y 44fed gwaith a nod yr ŵyl yw cadw’r traddodiadau a’r cyfeillgarwch rhwng y gwledydd Celtaidd yn fyw.

Mae Cymru wedi bod a thraddodiad hir o berfformio yn Lorient ac bydd eleni’n ddim gwahanol.

Perfformwyr

Eleni, bydd Catrin Finch yno fel rhan o brosiect gyda’r cerddor Senegalaidd, Seckou Keita. Bydd Rag Foundation o Abertawe yno’n perfformio’u cerddoriaeth werin Gymreig gyda thro cyfoes a bydd y triawd, Alaw, hefyd yn perfformio.

Bydd Robin Huw Bowen, meistr y Delyn Deires, yno ac fe fydd Eleanor Whiteman yn cynrychioli’r celfyddydau gweledol wrth iddi arddangos ei ffotograffau o Bwll Glo’r Twr yn yr Arddangosfa Gelf Geltaidd-Ewropeaidd.

Bydd Côr Meibion y Fflint yn diddannu cynulleidfaoedd wrth wneud amryw o sioeau gwahanol ac ym mhabell Cymru, sy’n cael ei drefnu gan y Cyngor Cyeflyddydau, bydd y storïwr a chanwr Guto Dafis, y band dawns Bethlehem Village Band a’r band gwerin Olion Byw yn perfformio.

Bydd yr wyl yn cael ei chynnal rhwn 1 a 10 Awst eleni yn nhref Lorient.