Owain Llwyd
Darlithydd o Fangor sy’n canu’r piano ar hysbyseb Cwpan y Byd McDonald’s, sydd erbyn hyn wedi cael ei wylio gan bron i chwe miliwn o bobol.

Mae Owain Llwyd, sy’n enedigol o Lyn Dyfrdwy, yn ddarlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, ac fe fu’n gweithio fel pianydd sesiwn i’r hysbyseb a gafodd ei recordio yn Stiwdio Air Edel, Llundain.

Yno, bu’n canu’r piano ar ail recordiad o gân o’r 1940au, ‘Oh By Jingo’, ac a recordiwyd yn fyw gan ddefnyddio meicroffonau o’r cyfnod.

“Fel un sy’n cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu, roedd yn gyfle gwych i mi fedru cyfuno fy nghyfansoddi a darlithio gyda gweithio â cherddorion a cherddorfeydd yn y stiwdio recordio,” meddai Owain Llwyd.

“Mae’r profiadau hyn yn bwydo i mewn i’w gilydd, gan sicrhau fy mod yn cyfansoddi’r math o gerddoriaeth y mae pobol eisiau ei chlywed a rhannu’r ddealltwriaeth honno gyda chyfansoddwyr a cherddorion y dyfodol yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.”

Profiadol

Nid dyma’r tro cyntaf i Owain gamu i faes recordio hysbysebion. Mae wedi canu’r piano a ‘dyblu’ fel dwylo’r actor Jan Ctvrtnik  yn hysbyseb  diweddaraf  y gwneuthurwyr ffônau symudol, Huawei. A bu hefyd yn cydweithio gyda Tom Player ar gyfer hysbyseb Nadolig TK Maxx.

Fe fydd yn cynnal gweithdai cyfansoddi ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor yn ystod yr haf.

Dyma’r hysbyseb McDonald’s gyda chyfeiliant Owain Llwyd: