Y grwp Plu
Mae aelod o’r band gwerin Plu wedi bod mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty ar ôl damwain car yng Ngwlad y Basg.

Roedd y tri aelod – Elan, Gwilym a Marged – yn teithio ar y draffordd bnawn dydd Iau pan fu i’r car droi drosodd sawl gwaith.

Mae’r teulu wedi cadarnhau fod y tri brawd a chwaer yn “iawn” ond bod Marged, y ferch ieuengaf, wedi dioddef anaf i’w phen.

Mae hi’n gwella ar ôl derbyn triniaeth yn uned gofal dwys Ysbyty Victoria, ond fe fydd hi’n treulio ychydig o ddyddiau yn yr ysbyty fel rhagofal.

Fe wnaeth Elan a Gwilym dreulio un noson yn yr ysbyty ond maen nhw bellach ar eu ffordd adref.

Roedd Plu wedi hedfan i’r wlad er mwyn cymryd rhan yng ngŵyl Euskal Herria Zuzenean sy’n cael ei chynnal ar y ffin rhwng Ffrainc a Gwlad y Basg. Fe lwyddodd Elan a Gwilym i berfformio  yn yr wŷl.