Cân i Gymru
Steve Balsamo ac Ynyr Roberts yw’r cyfansoddwyr enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru 2011, gyda’r gân Rhywun yn Rhywle.

Enillodd Steve ac Ynyr wobr gwerth £7,500 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon eleni. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol.

Yn yr ail safle ac yn ennill £2,000 oedd Osian Rhys Roberts gyda’r gân Cofia am y Cariad. Gai Toms ddaeth yn drydydd gan gipio’r wobr o £1,000 gyda’r gân, Clywch.

Elin Fflur a Dafydd Du oedd yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw o  Bafiliwn Pontrhydfendigaid neithiwr.