Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Fe fydd band Explosions In The Sky yn chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ar nos Wener yr ŵyl yr haf yma, cyhoeddwyd heddiw.

Grŵp offerynnol roc o Texas yw  Explosions In The Sky, sefydlodd yn 1999.

Mae’r trefnwyr eisoes wedi cyhoeddi y bydd band Fleet Foxes hefyd yn chwarae yn yr ŵyl.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 19, 20 a 21 o  Awst ac fe fydd Explosions In The Sky yn rhyddhau eu halbwm diweddaraf Take Care, Take Care, Take Care ar 18 Ebrill.

Sefydlwyd gŵyl gerddorol y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog nôl yn 2003. Bryd hynny, digwyddiad cymharol fach ydoedd gyda chynulleidfa o ddim ond 300.

Ers hynny mae wedi tyfu’n flynyddol ac erbyn hyn mae wedi’i sefydlu fel un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru.

Ymhlith yr artistiaid eraill sydd wedi ei cyhoeddi hyd yn hyn mae The Low Anthem, Bellowhead, Polar Bear, Villagers, Wild Nothing, Robyn Hitchcock, Sic Alps, Lia Ices, Driver, Drive Faster, Emily Barker & The Red Clay Halo, Oh Ruin Duotone, Treecreeper, The Doozer, Mancub, Babywoman.