Doedd dim gwobr i Katherine Jenkins na Catrin Finch neithiwr yn Seremoni Wobrwyo’r BRIT Clasurol yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.

Roedd y ddwy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yng nghategori Albwm y Flwyddyn Classic FM, yr unig gategori oedd ar agor i’r cyhoedd bleidleisio am enillydd.

Y ffidlwr Andre Rieu a Cherddorfa Johann Strauss oedd yn fuddugol gyda’u halbwm Magic of the Movies, gan ddod yr artist cyntaf i ennill yr un wobr BRIT Glasurol dair blynedd yn olynol.

Fe gyflwynwyd y wobr i Rieu gan y canwr a’r cyflwynydd teledu a radio Cymreig, Aled Jones.

Cafodd Katherine Jenkins ei henwebu am yr albwm ‘This Is Christmas’ (Warner Music Entertainment), tra bod Catrin Finch wedi cydweithio â’r cyfansoddwr John Rutter ar ‘Blessing’ (Deutsche Grammophon).

Noson dda i Zimmer

Roedd hi’n noson dda i Hans Zimmer, a gipiodd wobr Cyfansoddwr y Flwyddyn yn ogystal ag un am Gyfraniad Arbennig i Gerddoriaeth.

Y pianydd a’r cyfeilydd Daniel Barenboim gafodd y wobr am Artist Gwrywaidd y Flwyddyn, tra enillodd y ffidlwraig Nicola Benedetti Artist Benywaidd y Flwyddyn am yr ail flynedd yn olynol.

Y sacsoffonydd Amy Dickson aeth ag Artist Newydd y Flwyddyn, ac fe gafodd y tenor Jonas Kaufmann wobr Dewis yr Adolygwyr.

Fe gyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Oes i weddw’r diweddar Luciano Pavarotti yn y seremoni hefyd.