Dafydd Iwan
Mae un o feirniaid yr eisteddfod yn dweud fod rhai cantorion ifanc wedi gorfod cystadlu mewn amgylchiadau “cwbl annheg”.
Yn ôl Dafydd Iwan, roedd rhai cystadleuwyr ar y gân werin rhwng 12 ac 16 oed wedi gorfod ail ddechrau canu oherwydd fod cymaint o sŵn yn tarfu arnyn nhw.
“Ar adegau, roedd y sŵn yn fyddarol,” meddai’n union wedyn, gan ddweud fod tractorau, lorïau carthffosiaeth a hyd yn oed uchelseinydd y Pafiliwn yn tarfu ar y cystadlu yn y Stiwdio wrth alw ar gystadleuwyr.
Pedair awr a hanner
Dafydd Iwan a Gwenan Gibbard oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth, gyda 48 yn cystadlu.
Gyda’r ail-ganu’n ychwanegu at yr amser, fe gymerodd y cyfan bedair awr a hanner.
“Doedden nhw ddim yn amgylchiadau teg,” meddai Dafydd Iwan. “Roedd hyd yn oed Tannoy’r Eisteddfod yn torri ar draws, yn galw cystadleuwyr i’r llwyfan.
“Mae’n bwysig fod y rhagbrofion yn digwydd ar y maes ond mae angen iddyn nhw fod mewn llefydd tawelach.”
Roedd wedi beirniadu rhagbrawf arall yn y Stiwdio Ddawns ac roedd y fan’no’n dderbyniol, meddai.