Fe fydd rhannu o Wal Berlin yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant, 30 mlynedd ers i Orllewin a Dwyrain yr Almaen ddod at ei gilydd yn un wlad.

Fe ddaeth y Rhyfel Oer i ben ar Dachwedd 9, 1989, ac mae disgwyl i’r darnau o waith cerrig fynd am £18,000 pan fyddan nhw’n mynd dan y morthwyl yn ne Lloegr ym mis Mawrth eleni.

Fe gafodd y wlad ei chodi mewn rhannau a oedd yn 3.6m o uchder ac yn 1,2m o led.

Fe fydd chwech o’r rhannau hyn ar gael i’w prynu yn Summers Place Auctions yn Billingshurst, Gorllewin Sussex.

Mae yna rai rhannau sydd wedi’u gorchuddio â graffiti a negeseuon – ac mae’r rhannau arbennig a fydd ar werth yn cynnwys gwaith celf gan yr ymgyrchydd a’r artist Almaenig, Ben Wagin.