Bydd paentiad sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, ac a gafodd ei ddwyn gan y Natsïaid, yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar ôl cael ei ddarganfod yn Llundain.

Cafodd paentiad ‘Pryd o Wystrys’ ei greu gan y meistr Iseldiraidd, Jacob Ochtervelt, ac mae’n portreadu dyn â phlatiad llawn wystrys yn ei gyflwyno i wraig.

Diflannodd y paentiad am gyfnod, cyn ail ymddangos mewn oriel gelf yn yr Almaen yn y 1950au. Cafodd ei brynu gan ddiplomydd Americanaidd wedi hynny, cyn cael ei roi yn rhodd i Gorfforaeth Dinas Llundain yn y 1970au.

Y llynedd, fe ddychwelodd y darn i ddwylo’r berchnoges wreiddiol, a bellach mae hi wedi penderfynu ei werthu.

Bydd y darlun yn mynd dan y morthwyl ar Orffennaf 4 yn Llundain, ac mae disgwyl iddo werthu am rhwng £1.5m a £2.5m.