Caerdydd
Bydd gwaith celf o un o gasgliadau preifat pwysicaf gwledydd Prydain yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

O ddydd Sadwrn Chwefror 18 ymlaen bydd gwaith celf sydd wedi ei brynu dros nifer o ddegawdau gan y casglwyr celf Ian Stoutzker a Mercedes Stoutzker, yn cael ei arddangos yn y brifddinas.

Bydd yr arddangosfa O Bacon i Doig: Campweithiau Modern o Gasgliad Preifat yn cynnwys celf Brydeinig gyfoes gan Francis Bacon, Lucian Freud, Barbara Hepworth a David Hockney.

Cafodd llawer o’r gweithiau eu prynu pan oedd yr artistiaid yn cychwyn eu gyrfaoedd a chyn iddyn nhw ddod yn enwog.