Castell Fflint (Llun: o'r parth cyhoeddus gan Immanuel Giel)
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau manylion heddiw am eu cystadleuaeth i ddod o hyd i gynllunwyr i lunio a gosod gosodiad celfyddydol ar rai o safleoedd hanesyddol pwysicaf Cymru.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch farchnata’r Llywodraeth, sef Blwyddyn y Chwedlau 2017, wrth iddyn nhw chwilio am waith wedi’i ysbrydoli gan ffigurau hanesyddol Cymru.

Fe fydd Castell Fflint yn arddangos un o’r gweithiau, gyda’r ail safle yn cael ei benderfynu ar sail y ceisiadau a ddaw i law.

Fe fydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi’r enillwyr yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.

 ‘Ysbrydoli pobl i ymweld’

“Mae llwyddiant y gosodiad pabi yng Nghastell Caernarfon fis diwethaf wedi dangos bod awydd i weld gosodiadau anhygoel yn ein safleoedd treftadaeth,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn chwilio am syniadau fydd yn cael eu hystyried yn rhai neilltuol yn rhyngwladol fydd yn ysbrydoli pobl i ymweld â Chymru.  Byddwn yn canolbwyntio ar brosiectau dewr, creadigol ac arloesol.”

Mae manylion y gystadleuaeth ar wefan Gwerthwch i Gymru y Llywodraeth, a’r dyddiad cau yw 20 Rhagfyr.