Mae Malcolm Gwyon, ffigwr adnabyddus o sin gerddoriaeth Gymraeg yn yr wythdegau, wedi troi ei law at gelf ers sawl blwyddyn bellach – ac ar hyn o bryd mae arddangosfeydd o’i waith i’w gweld mewn amryw o lefydd gan gynnwys caffi Waffle yng Nghaerdydd.

Artist sy’n creu darluniau amrywiol a phortreadau o rai o enwogion Cymru gan gynnwys Bryn Terfel, Wali Tomos a Gary Speed mewn dull pop-art yw Malcolm Gwyon.

Mae eisoes wedi creu arddangosfeydd o waith tirluniau seicadelig a delweddau pop-art yn ddiweddar mewn lleoliadau fel Ji-Binc yn Aberaeron.

Y Cerddor

Yn wreiddiol o Aberteifi, roedd Malcolm Gwyon yn gerddor wnaeth ryddhau tipyn o gynnyrch dan yr enw Malcolm Neon, yn ogystal â chynhyrchu gwaith bandiau lleol yn ôl yn 1980au.

Bu’n rhyddhau cerddoriaeth electronig oedd ychydig yn wahanol i weddill cerddoriaeth Gymraeg y cyfnod.

Roedd hefyd ymysg y cyntaf i ddefnyddio peiriannau gwahanol i greu synau ac emosiynau mewn caneuon, a ddaeth i’r golwg yng ngwaith nifer o fandiau a cherddorion, fel Datblygu.

Yr Artist

Mae caffi Waffle ar Clive Road yng Nghaerdydd eisoes yn gyfarwydd i ddilynwyr y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Yn 2012 roedd arddangosfa o waith celf Datblygu yn y caffi i yn nodi tri deg mlynedd ers sefydlu’r grŵp chwedlonol a dylanwadol o’r Gorllewin.

Mae cysylltiad cryf rhwng y caffi a sin gerddoriaeth ardal Aberteifi – mae Victoria Morgan, perchennog caffi’r Waffle, yn chwaer i Patricia Morgan a ymunodd â Datblygu yn 1985 gyda’r aelodau gwreiddiol David R. Edwards a T. Wyn Davies.

Bydd arddangosfa Malcolm Gwyon i’w weld yng Nghaffi’r Waffle, Caerdydd, nes 3 Mai.

Gohebydd: Awen Llŷr