Mae oriel gelf Martin Tinney yng Nghaerdydd yn nodi canmlwyddiant geni yr arlunydd Josef Herman trwy arddangos 50 o’i luniau sydd wedi’u hysbrydoli gan weithwyr glo’r cwm diwydiannol.

“Pan gyrhaeddodd Josef Herman bentre’ dieithr Ystradgynlais, doedd e ddim yn nabod unrhyw un,” meddai Carole Morgan-Hopkin sy’n un o gyfarwyddwr sefydliad yn enw Josef Herman.

“Daeth yma wedi cyfarfod â dau o’r ardal pan oedd e yn Llundain a nhw gyfeiriodd yr artist ifanc at Gwm Tawe. Ond doedd dim ffrindiau ganddo pan gyrhaeddodd yma.

“Daeth i nabod fy nhad-cu yn gynnar iawn gan ei fod e’n ffotograffydd, ond yn fwy na hynny yn perthyn i grŵp a oedd yn cyfarfod yn gyson yn Ystrad.”

Roedd ei thad-cu, y ffotograffydd Llew Morgan, yn un o sefydlwyr grŵp yr ILP (Independent Labour Party) yn lleol ac roedd cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal eu cartre’.

“Dechreuodd Joe ddod i’r cyfarfodydd yma ac roedd wrth ei fodd gyda’r gwerthoedd sosialaidd oedd yn cael ei gwyntyllu.”

Mae Carole Morgan-Hopkin yn cofio ‘Joe Bach’, fel yr oedd yn cael ei adnabod yn lleol, yn dod i’w chartre’.

“Am ryw reswm, roedd wastad cwdyn o geirios ganddo! Dw i ddim yn gwybod pam fod hynny’n wir, ond i fi, roedd yn hyfryd i gael cymryd ceirios o’r cwdyn! Dw i’n cofio dyn addfwyn iawn.

Arddangosfa Canmlwyddiant Josef Herman (1911-2000); Oriel Martin Tinney, Caerdydd tan Chwefror 26

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror