Y cerflun gan Eric Gill
Mae’r BBC wedi cael eu hannog i gael gwared ar gerflun o fachgen noeth gan artist a fu’n cam-drin ei ferched.

Cafodd y cerflun, sydd uwchben mynedfa Broadcasting House, ei greu gan Eric Gill, fu’n byw yng Nghymru, yn 1932. Mae’n darlunio dyn a bachgen noeth, sef Prospero ac Ariel  o ddrama Shakespeare, y Storom.

Bu Eric Gill yn byw gyda’i deulu yng Nghapel-y-Ffin ger y Fenni yn ystod yr 1920au, ble sefydlodd gwersyll ar gyfer artistiaid.

Roedd Gill yn artist uchel ei barch ond datgelodd ei ddyddiaduron, gafodd eu cyhoeddi yn 1989, ei fod wedi cael rhyw gyda dwy o’i ferched a gyda’i gi. Yn ôl prif weithredwr mudiad The Survivors’ Trust, sy’n cynrychioli dioddefwyr trais a chamdriniaeth, mae’n “sarhad” fod y cerflun yn dal yn ei le.

“Mae bron yn gwatwar dioddefwyr, mae’n annioddefol,” meddai Fay Maxted.

‘Amhriodol yn dilyn helynt Savile’

Mae galwadau wedi bod yn y gorffennol i gael gwared ar gerflun arall gan Eric Gill – Stations Of The Cross – o Gadeirlan Westminster.

Mae Peter Saunders, o fudiad Napac sy’n cynrychioli plant sydd wedi eu cam-drin, wedi dweud fod y cerflun o Ariel a Prospero ym mhencadlys y BBC yn arbennig o amhriodol yn dilyn helynt Jimmy Savile.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad oes bwriad i gael gwared ar y cerflun.

“Mae cerflun Ariel a Prospero ar flaen Broadcasting House yn cynrychioli darlledu, ac wedi ei greu gan un o artistiaid mawr Prydain yr ugeinfed ganrif, sydd â’i waith wedi cael ei arddangos yn helaeth yn rhai o amgueddfeydd ac orielau mwyaf blaenllaw Prydain.

“Nid oes bwriad i ddileu neu ddisodli’r cerflun ar flaen Broadcasting House,” meddai.