Mae sylwebydd ar y byd llyfrau Cymraeg yn darogan “blwyddyn gynhyrchiol a gweithgar” i’r byd cyhoeddi yn 2019.

Yn ôl Bethan Mair, fe fu 2018 wedi bod yn flwyddyn “ragorol” o ran cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau, yn nofelau, llyfrau anrheg a llyfrau plant.

Ond mae’n mynnu mai “blwyddyn y nofelau” yw’r teitl mwyaf addas ar gyfer y flwyddyn aeth heibio gyda Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros; Ysbryd yr Oes gan Mari Williams, a Sgythia gan Gwynn ap Gwilym ymhlith yr uchafbwyntiau.

Am yr olaf, mae Bethan Mair yn credu ei bod hi’n “bechod” nad yw’r nofel yn cael ei hystyried ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn – a gynhelir yn 2019 – oherwydd bod yr awdur wedi marw.

“Mae’n gywilydd nad yw’r gyfrol yma yn cael ei hystyried ar gyfer y wobr,” meddai.

Dyma Bethan Mair yn sôn am yr hyn sydd i’w ddisgwyl o’r byd cyhoeddi yn y flwyddyn newydd: