Mae llyfr am lechi Cymru wedi ennill gwobr Llyfr Archeolegol Gorau yng Ngwobrau Archeolegol Prydain.

Penderfynodd y beirniaid bod ‘Llechi Cymru – Archaeoleg a Hanes’ a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn ffrwyth cydweithio efo Dr David Gwyn, archeolegydd diwydiannol sydd yn byw ym Mhen y Groes yn Nyffryn Nantlle, yn llawn haeddu’r wobr.

Ym marn y panel o feirniaid roedd y llyfr yn gyfraniad nodedig at archaeoleg ddiwydiannol a hanes cymdeithasol, yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gorffennol ac yn ei gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.

UNESCO

Mae’r gyfrol yn adrodd hanes diwydiant newidiodd tirlun a chymunedau Cymru ac mae Diwydiant Llechi Gogledd Cymru ar restr betrus Safleoedd Treftadaeth y Byd y DU i’w gyflwyno i UNESCO. Mae’r llyfr yn gyfraniad pwysig er mwyn datblygu’r cais, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd.

Cafodd enwau enillwyr Gwobrau Archeolegol Prydain eleni eu cyhoeddi yn yr Amgueddfa Brydeinig ar 11 Gorffennaf.

‘Pleser aruthrol’

Meddai David Gwyn: “Pleser aruthrol yw derbyn y wobr arbennig yma, nid yn unig o safbwynt personol, ond hefyd oherwydd yr hwb mae’n ei roi i’r ymgyrch i ennill statws Treftadaeth Byd i Ddiwydiant Llechi Gogledd Cymru a’r gydnabyddiaeth mae’n ei chynnig i’r rheiny sydd wedi gweithio, neu sy’n dal i weithio, yn y diwydiant.”

Sefydlwyd Gwobrau Archeolegol Prydain ym 1977 a rhoddir y gwobrau am y darganfyddiadau a datblygiadau arloesol diweddaraf yn archeoleg y Deyrnas Unedig.