Galeri, Caernarfon
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon nos Lun i drafod y bygythiad i gyllideb celfyddydau Gwynedd.

Bydd y cyfarfod yn gyfle i artistiaid, cwmnïau a’r cyhoedd drafod y toriadau arfaethedig ac mae’n cael ei drefnu gan ymgyrch #SgrechGwynedd sydd wedi ei sefydlu i bwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau yn yr ardal.

Toriadau

Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am arbedion o £5 miliwn cyn 2017/18 ac mae cau Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli yn un o dros 100 o doriadau posib sydd dan ystyriaeth.

Yn ôl #SgrechGwynedd sy’n gwrthwynebu’r posibilrwydd o dorri cyllideb y celfyddydau yng Ngwynedd, a fyddai’n effeithio ar brosiectau celf, canolfannau fel Neuadd Dwyfor a chwmnïau cynhyrchu ar draws y sir, mae buddsoddiad yn y celfyddydau yn cyfateb i tua £1.39 yn unig y person bob blwyddyn.

Pwysigrwydd y sector

Meddai llefarydd ar ran #SgrechGwynedd eu bod nhw  eisiau pwysleisio pedwar pwynt sy’n dangos pwysigrwydd y sector greadigol yng Ngwynedd:

  1. Mae’r celfyddydau’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd gan gyrraedd pawb;
  2. Mae gweithgareddau celfyddydol hygyrch ar lawr gwlad yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywydau pobl;
  3.  Mae’r celfyddydau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau;
  4.  Mae’r celfyddydau’n cyfrannu’n helaeth at economi’r sir drwy gynnig cyflogaeth a chynhyrchu incwm.

‘Tyngedfennol’

Yn ôl llefarydd ar ran #SgrechGwynedd: “Mae’n hollbwysig ein bod ni fel sefydliadau celfyddydol a’r cyhoedd yn deall pa mor dyngedfennol ydy’r sefyllfa yma.  Yn amlwg mae unrhyw doriadau am gael effaith uniongyrchol ar artistiaid a chwmnïau o ran gweithgareddau a swyddi.

“Mae’r sector gelfyddydol yma yng Ngwynedd yn cyflawni llawer iawn am ychydig iawn o arian. Mae’r ffeithiau yn profi hynny. Cefnogwyd dros 2,370 o weithgareddau gan 12 cwmni yn unig yn ystod 2014-15 gyda diolch i grant strategol Cyngor Gwynedd. Fe wnaeth y gweithgareddau yma ddenu dros 403,000 i fwynhau’r arddangosfeydd neu ddigwyddiadau amrywiol.

“Yn yr un cyfnod, fe wnaeth buddsoddiad o £169,700 grant strategol greu buddsoddiad  pellach o dros £4m sydd yn profi gwerth am arian y celfyddydau.

“Mae gan bob un unigolyn yng Ngwynedd yr hawl i ddiwylliant. Dyma neges syml ymgyrch #SgrechGwynedd.”

Bydd y cyfarfod agored yn cael ei chynnal yn theatr Galeri, Caernarfon nos Lun, 8 Chwefror  rhwng 6yh a 8yh.

Gellir arwyddo deiseb i gefnogi’r ymgyrch ar y wefan #SgrechGwynedd.

Bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar y pecyn o doriadau ym mis Mawrth 2016.