Y Reu
Fe fydd Mantell Gwynedd yn cynnal gig yn Neuadd Ogwen, Bethesda dros y benwythnos Gwyl y Banc i ddathlu a diolch i wirfoddolwyr y mudiad am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fydd y band o Ddyffryn Nantlle, Y Reu yn dechrau adloniant y noson. Mae’r Reu wedi derbyn canmoliaeth gan sylwebyddion yn ddiweddar am eu perfformiadau egnïol ar lwyfannau ledled Cymru.

Tamarisco o’r Felinheli yw’r ail fand sy’n diddanu, gyda’i chwistrelliad o ffync. Ymhlith rhai o glasuron y grŵp yw ‘Rhith’ a ‘Dim ond Fi a’r Diafol’.

Bydd band newydd cyffrous o Benisarwaun, Y Galw yn coroni’r noson

Fe fydd y gig yn dechrau am 7.30pm, nos Sadwrn.