Bydd cynhyrchwyr o Gymru ymhlith miloedd o gwmnïau bwyd a diod o bob cwr o’r byd a fydd yn dangos eu cynnyrch yn Shanghai yn arddangosfa fawreddog Food and Hotel China 2012 sydd yn cael ei chynnal yr wythnos yma.

Ymhlith y cwmnïau o Gymru sy’n arddangos eu cynnyrch mae Burts Biscuits & Cakes Cyf, Abergavenny Fine Food Company a’r Celtic Experience Brewery.

Mae’r amrywiaeth o gynhyrchion llaeth organig pur  – sy’n cynnwys iogyrtiau, pwdinau, llaeth a menyn – yn golygu bod Rachel’s Dairy  ymhlith prif laethdai’r DU.

Mae darparu ar gyfer gofynion y farchnad ryngwladol yn flaenoriaeth i’r cynhyrchwr diodydd llaeth organig o Gymru Trioni Cyf. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu’r cynnyrch llwyddiannus Daioni ac yn Shanghai bydd y cwmni o Sir Benfro hefyd yn cyflwyno ei ddiod chwaraeon newydd, Daionic Pro Nutrition Shake.

Cig oen

Bydd nifer o gwmnïau yn ymweld â Shanghai yn ystod yr arddangosfa fel rhan o ymweliad masnachu amlsector Llywodraeth Cymru, ac yn eu plith bydd Hybu Cig Cymru.

Mae Hybu Cig Cymru am gyflwyno Cig Oen o Gymru i’r farchnad Tsieineaidd ac mae’r cwmni yn teimlo mai nawr yw’r amser i gwmnïau allforio  o Gymru, i ymuno â nhw yn Tsieina i feithrin cysylltiadau masnachu cyn i Gig Oen o Gymru gael ei fewnforio i’r farchnad.

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Bwyd: “Mae gan ddiwydiant bwyd Cymru enw da yn fyd-eang am gynnyrch amrywiol, nodedig sydd o ansawdd da.

“Mae mynd i sioeau fel hyn yn hanfodol i helpu i ddatblygu marchnadoedd allforio newydd. Mae’r sector bwyd a diod yn hollbwysig i economi Cymru a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cynhyrchwyr bwyd o Gymru sydd eisiau tyfu a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer eu cynhyrchion.”