Mae’r BBC yn cael gwared ar ei gwefan fwyd ‘Food’ ac mae dyfodol y cylchgrawn newyddion hefyd yn y fantol wrth i’r Gorfforaeth ystyried arbed  £15 miliwn.

Fe fydd tua 11,000 o ryseitiau yn cael eu colli yn sgil yr adolygiad i wasanaethau ar-lein.

Bydd pennaeth newyddion a materion cyfoes y BBC, James Harding, yn amlinellu’r cynlluniau i staff ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i adran gylchgronau gwefan newyddion y BBC gael ei chynnwys yn y drafodaeth hefyd.

Cefndir

Cafodd y cylchgrawn newyddion ei lansio yn 2003 ac mae’n cynnwys erthyglau mwy cynhwysfawr ond mae rhai gwleidyddion a phapurau newydd wedi ei ddefnyddio fel esiampl o’r BBC yn mynd y tu hwnt i’w gyfrifoldebau ar ei wefan newyddion.

Meddai’r BBC: “Tra bod ein cynulleidfaoedd yn disgwyl i ni fod ar-lein,  nid ydym erioed wedi ceisio bod yn bopeth i bawb ac mae’r newidiadau sy’n cael eu cyhoeddi yn sicrhau nad ydym ni.”

Fe fydd y ryseitiau o raglenni teledu yn aros ar-lein am 30 diwrnod.

Mae deiseb ar-lein wedi denu mwy na 17,500 o gefnogwyr er mwyn ceisio ei achub gan ddadlau ei fod yn “adnodd gwerthfawr” i bobl.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth am ddyfodol y BBC, sy’n gosod cynlluniau hirdymor ar gyfer y gorfforaeth.