Mae cogydd ifanc o Fôn wedi ennill ei seren Michelin gyntaf.

Mae Tomos Parry o Landegfan bellach yn byw a gweithio yn Llundain, lle mae’n gyfrifol am ei fwyty ei hun – Brat – yn ardal Shoreditch.

Mae wedi gwneud ei enw trwy ddarparu prydau gyda chynnyrch o Gymru sy’n cael eu coginio yn ardull Gwlad y Basg.

Dim ond ers dechrau’r flwyddyn y mae’r bwyty wedi bod ar agor.

Saith seren i Gymru

Mae sêr Michelin yn cael eu cyfrif gyda’r uchaf o wobrau o fewn y diwydiant bwyd, ac fe gafodd y sêr am eleni eu henwi neithiwr (dydd Llun, Hydref 1).

O ran y bwytai o Gymru a gafodd eu henwi, mae pob un o’r saith a oedd eisoes â seren Michelin wedi llwyddo i ddal eu gafael arnyn nhw.

Y bwytai hynny yw:

  • Ynyshir, Machynlleth;
  • The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd;
  • Sosban and Old Butchers, Porthaethwy;
  • Tyddyn Llan, Llandrillo;
  • The Chequers, Trefaldwyn;
  • Bwyty James Sommerin, Penarth;
  • Whitebrook, Sir Fynwy.