RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG FIDEO: “Pam na fydda’ i’n cefnogi Warren Gatland a’i griw ddim mwy”

Cyhoeddwyd Chwefror 5, 2017 gan Blog Meddwl.

Tagiau: Craig ab Iago, Cymru, Rygbi, Undeb Rygbi Cymru, wayne gatland


Fydd Craig ab Iago ddim yn eistedd i lawr i wylio’r crysau cochion yn chwarae heddiw – a hynny, meddai, oherwydd bod Undeb Rygbi Cymru a’r chwaraewyr ddim yn poeni am ddangos i’r byd pwy ydi Cymru.

Fel un sydd wedi cefnogi Cymru ers 40 o flynyddoedd, fydd o ddim yn eistedd i lawr o flaen y teledu, cwrw yn ei law, i weiddi dros Alun Wyn Jones a’i dîm yn erbyn Yr Eidal.

“Wnes i weld dros yr ha’ dwytha’ sut mae tim cenedlaethol Cymru i fod,” meddai am garfan bel-droed Cymru ym mhencampwriaeth yr Ewros.

“Wnaeth yr hogia yna gynrychioli Cymru i gyd. Y Cymraeg, y di-Gymraeg, pob rhan o Gymru, y gogledd a’r de, pob oedran, bob cefndir a bob lliw.

“Ond i dîm rygbi Cymru… maen nhw’n obsessed efo’r Llewod, a dydi tim Cymru yn ddim byd ond stepping stone i’r Llewod. Sam Warburton yn dweud mai dyna uchafbwynt ei yrfa, a Wayne Gatland yn dweud ‘no greater honour’…”

Ac mae’r ffaith bod Tywysog William – “boi sydd wedi dwyn enw ein gwlad fel cyfenw” – yn

“Dydi fy nghalon i ddim ynddo fo ddim mwy,” meddai Craig ab Iago. “Sori.”

Gwyliwch ei flog yn fan hyn:

Lle mae Saxons Cymru?

Cyhoeddwyd Chwefror 20, 2015 gan Rygbi.

Tagiau: Rygbi, Undeb Rygbi Cymru


Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sy’n pendroni pryd welwn ni ail dîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol …

Pan gyhoeddwyd nôl yn Awst 2014 bod cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a byrddau rheoli’r pedwar rhanbarth Cymreig (Pro Rugby Wales) ynglŷn ag ariannu’r timau a manylion eraill, cyhoeddwyd hefyd bod cynlluniau i ailsefydlu tîm ‘A’ Cymru, i ddechrau ym mis Ionawr 2015.

Er hynny does dim wedi dod o’r newyddion ac rydyn ni eto i weld yr ail dîm rhyngwladol Cymreig yma’n cael ei greu, er bod tîm Saxons Lloegr a Wolfhounds Iwerddon wedi wynebu ei gilydd ddiwedd mis Ionawr.

Y tebyg yw y bydd yn rhaid aros yn hirach i weld ail dîm Cymru yn chwarae am y tro cyntaf ers 2002.

Ond yn y cyfamser dw i wedi cael cipolwg i weld sut base’r tîm yn gallu edrych pe bai hi’n cael ei enwi nawr. Mae ambell i safle sy’n peri penbleth, felly dw i wedi cynnig eilydd i ambell chwaraewr.

15: Dan Evans – Cefnwr y Gweilch wedi ennill dau gap i Gymru yng Ngogledd America tra bod ein cefnwyr dewis cyntaf ar y pryd (Lee Byrne ac Leigh Halfpenny) ar daith y Llewod yn Ne Affrica. Tymor gwych cyn belled, ac ef sydd wedi rhedeg bellach nag unrhyw un arall yn y Pro12.

14: Hallam Amos – Yn rhan o’r brif garfan ond cyfle da iddo chwarae ar lefel uwch na jyst y Pro12 a Chwpan Her Ewrop. Opsiwn cicio o’r llawr ac yn y chwarae agored. Tair cais yn y gynghrair eleni ac ond wedi colli dwy gêm gynghrair.

13: Cory Allen – Wedi bod ar gyrion y brif garfan ers iddo ennill ei gap gyntaf yn 2013. Wedi bod yn dioddef o anaf yn ddiweddar, ond dangosodd rhywfaint o’i dalent gan dorri llinell amddiffynnol Munster nos Sadwrn diwethaf.

Chwaraewr ifanc arall sydd angen amser ar lefel rhwng rygbi domestig a rhyngwladol, yn enwedig wrth ystyried nad yw’r Gleision yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop. Un arall posib yw Ashley Beck.

12: Tyler Morgan – Derbyniodd gytundeb canolog gan Undeb Rygbi Cymru yn y flwyddyn newydd wedi tymor safonol i’r Dreigiau. Lyn Jones wedi rhoi digon o amser iddo ar y cae, ond mae dal yn ddigon ifanc i gynrychioli’r tîm dan 20. Un arall – Scott Williams.

11: Eli Walker – Aelod prin o’r garfan sydd heb ennill cap i’r tîm llawn, ond mae wedi bod yn perfformio ar safon uchel dros ben i’r Gweilch ers sawl blwyddyn. Ei gais bythgofiadwy yn erbyn Toulouse yn y Liberty sbel yn ôl yn esiampl wych. O bosib Aled Brew hefyd.

10: Rhys Patchell – Enillodd gapiau dros Gymru ar daith Siapan ddwy flynedd yn ôl ond wedi’i ddiystyru braidd gan dîm hyfforddi Warren Gatland. Mae dyfodiad Gareth Anscombe i Barc yr Arfau a charfan Cymru yn peri gofid.

Dylid cadw ffydd yn y maswr ifanc, mae ei waith caled oddi ar y cae yn haeddu mwy o gyfleon. Un arall posib yw Jason Tovey.

9: Gareth Davies – Wedi bod yn dioddef o anaf ers amser nawr, ond tu ôl i Rhodri Williams yn y rhestr ar gyfer y garfan lawn. Cyflym o gwmpas y ryc, ac fel pob tîm ‘A’ mae angen ambell i chwaraewr sy’n medru newid gêm mewn chwinciad.

8: Dan Baker - Ail gochyn y tîm, ac er ei anaf roedd ei chwarae ar ddechrau’r tymor heb ei ail. Mae Tyler Ardron i’w weld wedi dwyn crys y Gweilch oddi arno ond mae gallu Baker i dorri’r llinell fantais yn ail yn unig i Toby Faletau yng Nghymru. Rory Pitman yn un arall.

7: Nick Cudd - Cyn-flaenasgellwr tîm dan-20 Cymru wedi dangos ei safon yng nghrys y Dreigiau. Pe bai dim Sam Warburton na Justin Tipuric mi fase yn y garfan lawn. Tîm ‘A’ Cymru yn bodoli i ddatblygu chwaraewyr fel Cudd. Taclwr cryf ac yn ddigon parod i frwydro am y bêl ar y llawr. Un arall fyddai Josh Navidi.

6: James King - Ail reng mwy na blaenasgellwr ond edrychwch ar Macauley Cook ar y fainc. Roedd yn aelod o garfan yr hydref ac fe enillodd ei drydydd cap yn erbyn Fiji. Dal ar gyrion y brif garfan.

5: Ian Evans – Ers symud i Fryste does dim llawer o sôn amdano wedi bod, cyfraith Gatland yn rheoli dros y cyn-Walch.

Ddwy flynedd yn ôl fe deithiodd gyda’r Llewod i Awstralia ac fe chwaraeodd yn y golled i Dde Affrica dros yr haf. Oes gormod o wahaniaeth rhwng Pencampwriaeth Greene King Lloegr a rygbi rhyngwladol?

4: Andrew Coombs – Arwr Rodney Parade am sawl reswm. Mae’n chwarae gydag angerdd a chalon ar bob achlysur, mae’n ddibynadwy yn y leiniau ac yn ddigon parod i wneud y gwaith caib a rhaw. Tîm hyfforddi Gatland i’w weld yn ffafrio Jake Ball, yn enwedig wedi iddo arwyddo cytundeb canolog.

3: Scott Andrews – Daeth oddi ar y fainc yn y fuddugoliaeth dros yr Alban, yn dilyn anafiadau i Samson Lee ac yna Aaron Jarvis. Sawl perfformiad da i’r Gleision, er bod rhaid iddo gystadlu gydag Adam Jones am ei grys rhanbarthol.

2: Scott Baldwin – Gydag ymddeoliad Huw Bennett ac ymadawiad Richard Hibbard ef yw bachwr dewis cyntaf y Gweilch.

Fel sawl aelod o’r garfan fe enillodd gapiau ar daith Siapan yn 2013, ond prin iawn yw’r aelodau hynny sydd wedi ennill cap eleni. Gydag anaf Ken Owens mae wedi cael safle yn 23 y tîm llawn. Un arall i gadw llygad arno yw Ryan Elias.

1: Sam Hobbs – Erioed wedi ennill cap rhyngwladol er ei fod wedi cynrychioli timau Cymru dan-20 a dan-19, ac mae bellach yn 26 oed. Dim ond wedi colli un gêm gynghrair i dîm Gleision Caerdydd, a gyda Gethin Jenkins yn rhan o garfan Gatland, bydd ei amser chwarae ond yn parhau eleni. Un arall yw Rhys Gill.

Y Fainc

16: Emyr Phillips

17: Rhodri Jones

18: Wyn Jones

19: Macauley Cook

20: Lewis Evans

21: Lloyd Williams

22: Jason Tovey

23: Jordan Williams

Dechrau petrus i dymor y rhanbarthau

Cyhoeddwyd Medi 26, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Illtud Dafydd, Rygbi


Illtud Dafydd
Wedi i dri rownd o rygbi’r Pro12 basio, a rhanbarthau Cymru’n ennill pump allan o’u 12 gêm agoriadol, mae sawl cefnogwr a dilynwr rygbi Cymru yn dechrau poeni.

Yn enwedig gan weld bod tair o’r pum buddugoliaeth wedi dod gan y Gweilch.

Ar ddechrau’r tymor soniodd nifer am newid yn nhrefn y rhanbarthau, gyda’r Gleision yn edrych yn gryf ar bapur ar ôl arwyddo Adam Jones a Manoa Vosawi, a Lyn Jones yn dod a sawl chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ôl o’u hanturiaethau tramor i’r Dreigiau.

Mae’r gobaith y nawr i’w weld wedi diflannu gan sawl un, ac nid ydym hyd yn oed wedi cyrraedd mis Hydref eto!

Her i’r Dreigiau a’r Gleision

Mae’r Dreigiau wedi wynebu tair her fawr – trip i Galway i herio Connacht Pat Lam a Mils Muliaina, ac yna croesawu’r Gweilch a Glasgow i Rodney Parade. Mae Treviso yn teithio i Gasnewydd pnawn Sul a dw i’n disgwyl i’r ddau dîm chwarae i ennill – nid yw’r Eidalwyr wedi ennill eleni chwaith!

Nid yw tymor y Gleision yn arafu i lawr gyda thrip i’r RDS i herio Leinster. Mae’r ddau dîm ond wedi ennill unwaith eleni, ac fe gollodd Leinster i Connacht nos Wener ddiwethaf.

Rwy’n poeni braidd am ddynion Mark Hammett, yn enwedig am y maswr Rhys Patchell. Mae’n chwaraewr llawn talent, a nos Wener ddiwethaf roedd yn gwisgo’r crys pymtheg, rhywbeth efallai y bydd rhaid iddo arfer â gwneud pan fydd y Cymro o Auckland Gareth Anscombe yn cyrraedd fis nesa’.

Mae ein chwaraewyr ifanc gorau angen chwarae’n gyson yn eu safleoedd naturiol er mwyn datblygu, nid eistedd ar y fainc tra bod chwaraewyr tramor yn cymryd eu safle.

Gwell i’r Gweilch a’r Scarlets

Mae’r Gweilch a’r Scarlets wedi gwneud dechreuadau positif dros ben i’w tymhorau. Er bod bois y Liberty wedi colli sawl un o hoelion wyth eu pac mae unigolion fel Nicky Smith, Tyler Ardron ac Eli Walker wedi sefyll allan yn gyson.

Draw ym Mharc y Scarlets mae Wayne Pivac i’w weld yn parhau gyda system chwarae Simon Easterby ac mae ychwanegiad Rory Pitman yn ei reng-ôl i’w weld yn gweithio.

Mae’r Scarlets wedi cael problem yn y crys rhif wyth ers i David Lyons adael yn 2011, ond mae’r wythwr o Benybont yn setlo mewn yn hawdd yn Nhre’r Sosban.

Mae dau ranbarth yn teithio i ffwrdd dros y Sul, gyda’r Scarlets yn herio Caeredin yn Murrayfield a’r Gweilch yn hedfan i Limerig i herio Munster.

Y rhagolygon?

Dwi’n rhagweld dwy fuddugoliaeth i ranbarthau Cymru’r penwythnos hwn, y Dreigiau o ddeg pwynt ar brynhawn Sul a’r Scarlets o drwch blewyn yng Nghaeredin.

Dim ond tair gêm mae ein rhanbarthau wedi chwarae cyn belled, felly beth am aros nes mis Tachwedd cyn i ni allu codi braw a phoeni o ddifrif.

Penolau coch gan Ffrainc!

Cyhoeddwyd Chwefror 28, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Cymru, Ffrainc, Rygbi


Warren Gatland - ai hanner gwên yw honna?
Y cyfryngau dros y dŵr heb ymateb yn dda o gwbl i’r grasfa yn erbyn Cymru, yn ôl Illtud Dafydd…

Gan ystyried bod cyfryngau Ffrainc yn llawn o sôn am Gamp Lawn bosib yn ystod yr wythnos cyn y gêm nos Wener ddiwethaf, mae’r ymateb wedi’r golled i’r Cymry ymysg y cyfryngau a chyn-chwaraewyr les Bleus wedi bod yn nodweddiadol o’r clichés Ffrengig.

Teitl L’Equipe ar fore Sadwrn oedd ‘Penolau coch’ gyda llun mawr o Sam Warburton yn brwydro gyda Pascal Pape am feddiant mewn sgarmes symudol.

Fe ysgrifennodd cyn-gapten Ffrainc Fabien Galthie (64 cap ac sydd nawr yn hyfforddi Montpellier), a oedd yn rhan o dîm darlledu France 2 yn ystod y gêm, yn y papur chwaraeon dyddiol bod Ffrainc wedi dangos “diffyg uchelgais”, gan ychwanegu “na ymosododd Ffrainc fel tîm fyddai’n medru ennill Camp Lawn”.

Roedd ei dymer yn weddol negyddol gan nodi fod chwaraewr Ffrainc yn “cwyno i’r dyfarnwr yn aml sy’n arwydd o chwaraewyr aflonydd anhapus”.

Charnière amhrofiadol

Adlewyrchwyd y neges yma gan Pierre Berbizier (hyfforddwr Ffrainc rhwng 1991 ac 1995) yr wythnos yma ar sianel deledu’r papur, L’Equipe 21, gan ddweud bod Pierre Saint-Andre i’w weld yn drist a’i fod wedi colli’r spontaneity yr oedd ganddo yn ystod y 90au cynnar pan oedd yn aelod o garfan Ffrainc.

Mae lot o’r bai yn cael ei roi ar ieuenctid y tîm gydag ond Pascal Pape a Nicolas Mas dros ddeg ar hugain oed, a bod y charnière (y mewnwr a maswr) o Jules Plisson ac Jean-Marc Doussain mor ifanc ac amhrofiadol ar lefel ryngwladol.

Mae sawl am weld Morgan Parra yn dychwelyd fel mewnwr. Ond wedi iddo benio Rene Ranger yn ystod buddugoliaeth Clermont-Auvergne dros Montpellier dydd Sadwrn diwetha’ a derbyn gwaharddiad gan yr FFR o bythefnos, ni fydd yn wynebu’r Albanwyr yng Nghaeredin wythnos nesaf.

Y dechrau oedd ei diwedd hi

Wrth edrych nôl ar y gêm roedd hi’n fuddugoliaeth weddol hawdd i dîm Warren Gatland, gyda’r gwahaniaeth mewn sgôr o un pwynt ar hugain y mwyaf ers 1950.

Fe benderfynwyd canlyniad y gêm o fewn y chwarter agoriadol gydag 11 pwynt yn cael ei sgorio gan y tîm cartref, Louis Picamoles yn cael ei daclo a’i rhwystro rhag ennill tir gan Alex Cuthbert, a Jean Marc Doussain yn methu cic gosb.

Nid yw Cymru wedi colli i Ffrainc ers tair blynedd ac nid yw’r Ffrancwyr wedi sgorio cais yn ein herbyn ers 2010, record safonol mae’n rhaid dweud.

Ni fygythiodd Ffrainc linell ôl Cymru, gyda Mathieu Bastareaud yn llawer rhy araf ar ei draed i guro George North. Er i Yannick Nyanga geisio cysylltu’r chwarae nid oedd yr un o’i gyd-flaenwyr yn ddigon symudol i’w gynorthwyo.

Problem y Top 14

Daw problemau tîm cenedlaethol Ffrainc o’i chynghreiriau. Mae diffyg Ffrancwyr yn y Top14 ac y ProD2 a hyd yn oed llai yn chwarae yn y safleoedd pwysicaf fel maswr a phrop pen tynn.

Mi fydd yr LNR (Ligue National de Rugby) yn cyflwyno cwota i’r Top14 flwyddyn nesaf, ond yn ystod fy nhymor i yn chwarae yn Ffrainc eleni yn Federale 3 (pumed lefel o rygbi) mae gan bob tîm o leia’ un tramorwr yn eu carfan, boed nhw o Rwmania, Ynysoedd y Môr Tawel neu’n Kiwi.

Jon Fox yn ôl?

Bydd Lloegr yn her hollol wahanol i Gymru, yn enwedig yn Nhwickenham. Ar ôl delio gydag ymosodiad pwerus ond llawn camgymeriadau’r Gwyddelod, mi fydd yn ddiddorol gweld os fydd Jonathan Davies ar gael i Warren Gatland.

Mi fydd Davies yn chwarae dros y Scarlets nos Sadwrn yn erbyn Munster, sydd yn anelu i fod y tîm cyntaf i gwblhau’r Gamp Lawn dros ranbarthau Cymru mewn un tymor.

Gan edrych ar y Top 14 am eiliad bydd Biarritz yn herio Bayonne brynhawn Sul yng ngêm ddarbi Gwlad y Basg. Mwy na thebyg hon fydd gêm ddarbi ola’ Gwlad y Basg yn y Top 14 am flwyddyn, gyda Biarritz yn ymddangos yn sicr o ddisgyn i’r Pro D2 wedi ond pedair buddugoliaeth mewn ugain gêm.

Mae ganddyn nhw chwe gêm i gau’r bwlch o 18 pwynt ar y 12fed safle yn y tabl. Mae Aled Brew i’w weld wedi gwneud y penderfyniad cywir i adael arfordir y Basg cyn i long Serge Blanco suddo i’r Pro D2.

Gallwch ddarllen mwy gan Illtud ar ei flog, neu ei ddilyn ar Twitter ar @IlltudDafydd.

Y farn o Ffrainc: brwydr y blaenwyr

Cyhoeddwyd Chwefror 18, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Ffrainc, Illtud Dafydd, Midi Olympique, Rygbi


Illtud Dafydd
Mae un o bapurau chwaraeon mwyaf poblogaidd Ffrainc wedi dweud y bydd angen “sgrym wedi’i wneud o haearn” er mwyn curo Cymru nos Wener, yn ôl blogiwr rygbi golwg360 Illtud Dafydd.

Mae Illtud yn astudio yn Ffrainc ar hyn o bryd, ac wedi bod yn cadw llygad ar gyfryngau’r wlad wrth iddyn nhw drafod y gêm fawr yn y Chwe Gwlad y penwythnos hwn.

Dyw’r Ffrancwyr ddim i’w gweld yn swil o ddangos eu hyder chwaith, gan siarad yn agored am anelu am Gamp Lawn yn dilyn buddugoliaeth eu dwy gêm gyntaf.

Yn eu herthygl olygyddol mae papur Midi Olympique yn proffwydo gêm galed rhwng blaenwyr y ddau dîm, gan orffen wrth ddweud ‘alors on dance’ – “felly fe ddawnsiwn”.

Ac yn ôl Illtud Dafydd, mae’r iaith flodeuog hwn yn nodweddiadol o’r papur.

“Yn ôl eu golygydd ‘nid oes gwir ymosodiadau heb deimlad o goncwest, nid oes timau mawr heb flaenwyr mawr’. Maen nhw’n teimlo bod angen i Ffrainc fod yn barod am frwydr gorfforol,” esboniodd Illtud.

“Ac maen nhw’n dweud bod angen sgrymiau wedi’i gwneud o haearn. Mae Midi’n cael ei adnabod fel papur gyda safon dda o Ffrangeg, a dyna’r math o iaith y maen nhw’n ei ddefnyddio.”

Targedu canol Cymru

Yn ôl Illtud Dafydd mae’r Ffrancwyr i’w gweld yn nerfus ynglŷn â dyfnder eu rheng flaen, gan mai Nicola Mas yw’r unig brop pen tynn yn y tîm ac mai bachwr amhrofiadol sydd ganddyn nhw ar y fainc.

Mae hyfforddwr blaenwyr Ffrainc hefyd wedi awgrymu bod y sgrym yn cael ei ddyfarnu’n wahanol ar y lefel ryngwladol ag y mae hi yng nghynghrair y Top 14.

Ond maen nhw hefyd yn gweld llwyddiant Iwerddon wrth drechu Cymru bythefnos yn ôl fel perfformiad i’w efelychu.

“Mae’r Ffrancwyr yn dweud bod Iwerddon wedi dangos ffordd i guro Cymru, sef newid opsiwn y daliwr yn y lein,” meddai Illtud. “Roedd Iwerddon yn cael pedwar opsiwn gwahanol yn hytrach na’r ddau neu dri rydych chi fel arfer yn gweld.”

“Maen nhw hefyd yn meddwl bod Jamie Roberts yn wan yn amddiffynnol. Fe fethodd e dri o’i saith tacl yn erbyn Iwerddon. Mae Priestland yn cael ei adnabod fel taclwr gwan hefyd, felly efallai eu bod nhw am dargedu’r canol, ac anfon [Wesley] Fofana neu [Louis] Picamoles lawr y sianel.”

A dydi’r Ffrancwyr yn sicr ddim yn sibrwd yn ofalus am eu gobeithion o Gamp Lawn, yn ôl Illtud Dafydd.

“Ar flaen y papur [Midi Olympique] maen nhw’n dweud bod yn ‘rhaid cael trydedd fuddugoliaeth er mwyn parhau ar y daith’ am y Gamp Lawn.”

Cytundeb ar y gorwel?

Cyhoeddwyd Chwefror 14, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Cwpan Ewrop, Rhys Jones, Rygbi


Ar ôl misoedd o ddadlau ac anghydweld yn y byd rygbi, tybed a ydyn ni o’r diwedd ar fin cael mwy o sylw i’r gêm ar y cae nag oddi ar y cae yn dilyn cyfarfod pwysig ar 12 Chwefror? Mae gobaith bellach y bydd modd cytuno ar strwythur Cwpan Ewropeaidd newydd.

Roedd yn arwydd da bod Undebau Cymru, Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc ynghyd â chynrychiolwyr Cynghrair Top 14 Ffrainc, Cynghrair Aviva Lloegr a’r pedwar rhanbarth o Gymru wedi cwrdd ym Mharis i drafod dyfodol y gêm.

Heb amheuaeth mae’n rhaid i bawb sydd â diddordeb yn y gêm sylweddoli ei bod yn bwysig bod trafodaethau adeiladol yn digwydd a allai arwain at greu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd fydd yn disodli Cwpan Heineken.

Roedd yn dda cael datganiad gobeithiol gan bwyllgor y Chwe Gwlad a oedd yn cadeirio’r trafodaethau. Yn ôl y datganiad cafwyd cyfarfod ‘adeiladol’ ac we wnaed cynnydd tuag at greu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd.

Mae’n dda deall bod gan bwyllgor y Chwe Gwlad gefnogaeth bob parti i greu a sefydlu y gystadleuaeth newydd. Golyga hyn felly y bydd Cwpan Rygbi Ewrop (ERC)Ltd, sef perchnogion a goruchwylwyr cystadlaethau Cwpan Heineken a’r Amlin, yn colli rheolaeth ar y gystadleuaeth.

Wedi’r holl anghytuno roedd yn dda gweld bod ymateb Undeb Rygbi Cymru yn bur gadarnhaol i’r datblygiad diweddaraf. Mewn datganiad fe ddywedon nhw eu bod yn hapus gyda’r trafodaethau ynglŷn a strwythur cystadleuaeth newydd Ewropeaidd ar gyfer y tymor nesaf ac y bydd hyn yn arwain at ganlyniad cadarnhaol i bob parti.

Brwydr y darlledwyr

Mae’n edrych felly bod y mater o lywodraethu y gêm ar fin cael ei setlo ond mae yna broblem arall sy’n rhaid ei datrys, sef honno ynglŷn â hawliau teledu i ddangos y gemau.

Mae Cynghrair Aviva Lloegr wedi cytuno gyda BT Sport ar hawliau darlledu gemau Ewropeaidd y tymor nesaf, tra bod ERC Ltd wedi ymrwymo i Sky. Tybed a fyddai’r cwmnïau teledu yn medru dod at ei gilydd i ddatrys y sefyllfa a rhannu’r gwaith?

Mae’n siŵr y bydd y chwaraewyr yn cadw llygad barcud ar y trafodaethau diweddaraf yma gan obeithio y caiff popeth ei ddatrys yn gyflym ac yn effeithiol. Wedi’r cyfan chwarae ar y lefel uchaf posibl yw uchelgais y chwaraewyr ac wrth chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd mae cyfle da iddynt ddatblygu eu gêm ac i ddysgu chwarae dan bwysau.

Gall hyn baratoi llawer ohonynt ar gyfer gemau rhyngwladol. Er bod chwaraewyr tîm Cymru wedi gwadu bod yr holl ansicrwydd yn cael effaith negyddol ar eu perfformiad, yr oedd yn amlwg bod rhywbeth heblaw am y gêm ar feddwl rhai ohonynt yn erbyn Iwerddon.

Tybed, nawr bod gobeithion o ddatrys y broblem oddi ar y cae, a gawn ni berfformiad mwy bywiog a chadarnhaol ar y cae yn erbyn Ffrainc ymhen wythnos?

A yw’r trafferthion bron ar ben? Trydarwch Rhys ar @rhysow.

Gêm o arian?

Cyhoeddwyd Chwefror 7, 2014 gan Y Blog Rygbi.

Tagiau: Cymru, Rygbi

Illtud Dafydd sy’n edrych ar gyflwr rygbi yng Nghymru ac Iwerddon….

Ers i’r Cymro Vernon Pugh a gweddill Cyngor y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol benderfynu ar Awst y 25ain y byddai rygbi’r undeb yn mynd o fod yn gêm amatur i fod yn gem “agored” a phroffesiynnol mae’r heol y mae rygbi Cymru drwy Undeb Rygbi Cymru (URC) a rygbi Iwerddon drwy Undeb Rygbi Iwerddon (IRFU) wedi ei theithio wedi croesi sawl tro. Fe gynhaliwyd Cwpan Rygbi’r Byd gan Gymru yn 1999 (Y cyntaf gyda chwaraewyr proffesinyol yn cymryd rhan) gyda 7 gem yn cael eu chwarae ar yr Ynys Werdd (Dulyn, Belffast a Limeric), mae Munster (dwywaith) a Leinster (unwaith) wedi codi tlws Cwpan Heineken Ewrop ar gae cenedlaethol y Cymry.  Ers 2001 mae cynrichiolaeth proffesiynol y ddau undeb wedi herio eu gilydd yn y Gynghrair Geltaidd ac yn 2009 fe gipiodd Iwerddon, gyda Decaln Kidney wrth y llyw ei Champ Lawn gyntaf ers 1948 yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae un pwnc ble mae’r ddau undeb wedi gweld eu penderfyniadau a’u gweithredoedd yn gwahaniaethu, pwnc sydd wedi derbyn mwy o sylw yn y misoedd diwethaf gyda thrwbwl presennol gwleidydda rygbi Ewrop sef y dull y mae’r ddwy wlad yn trin ei cynrichiolaeth professiynol ar lefel cenedlaethol, boed hynny’n glybiau, taleithiau neu rhanbarthau ac hefyd y chwarewyr.

Ers yr 1920au roedd y taleithiau Gwyddelig (Munster, Leinster, Ulster ac Connacht) wedi bod yn cystadlu a herio ei gilydd mewn pencampwriaethau rhyng-taleithiol ond ers 2001 fe ymunodd y Gwyddelod a’r Cymry (a’r Albanwyr hefyd) gan greu y Gynghrair Geltaidd. Yn ystod yr un adeg o dros degawd  mae’r URC wedi cyflwyno naw o glybiau hanesyddol rygbi’r wlad i’r un gynghrair, yna ei eilyddio gyda pum “rhanbarth” a oedd yn cyfuno sawl un o’r naw clwb ac erbyn heddiw dim ond pedawr rhanbarth sy’n dal i fodoli, gyda’r dyfodol yn edrych yn un tywyll, cymylog ac anrhagweladwy i’r Dreigiau, Y Gleision, Y Gweilch a’r Scarlets. Mae’r bedair talaith Gwyddeleg wedi ennill 6 teitl Ewropeaidd (Munster 2 Cwpan Heineken, Leinster 3 Cwpan Heineken ac 1 Cwpan Her Amlin ac yna Ulster yn cipio’r Cwpan Heineken dros degawd yn ol) ac 7 teitl Celtaidd/Rabo Pro 12. Ar y llaw arall, er llwyddiant cymhedrol y rhanbarthau yn y Gynghrair Gelataidd/Rabo Pro 12 gyda pum teitl drwy y Gweilch (pedwar gwaith) a’r Scarlets (unwaith) ond un cwpan Ewropeaidd sydd wedi’w godi, Cwpan Her Amlin gan Gleision Caerdydd yn 2009.

Elfen arall o’r trefniant oddi ar y cae gan yr undebau yw’r dull y maent wedi trin ac hefyd talu eu chwarewyr. Ers trothwy proffesiynoldeb mae’r IRFU wedi cyflwyno a pharhau a pholisi o arwyddo ei chwarewyr gorau i “gytundebau canolog”. Yn fras mae’r cytundebau yma yn cael eu cynnig i chwarewyr sydd yn siwr o gael ei henwi yn y garfan genedlaethol (gan ystyried anafiadau hefyd) ac yn chwarae dros un o’r pedair talaith (Er hyn nid yw Connacht wedi arwyddo chwarewr ar gytundeb canolog o’r IRFU). Mae chwarewyr fel Johnnny Sexton, Brian O’Discoll ac hyd oed Dennis Leamy wedi eu gwobrwyo gyda chytundebau sy’n golygu eu bod yn chwarae yn ei gwlad ac eleni mae Sean O’Brien, Jamie Heaslip a Connor Murray wedi arwyddo rai newydd, Murray, un am y tro cyntaf tra bod sawl Cymro o’r un safon, ac o’r un pwysigrwydd i’r garfan genedlaethol, fel Leigh Halfpenny, Ian Evans a Jonathan Davies wedi arwyddo cytundeb gyda chlybiau yn Ffrainc. Nid oes unrhyw ddatganiad swyddogol wedi ei gyhoeddi gan yr IRFU am werth y cytundebau canolog yma, gan wybod ei bod yn gwynebu her gan glybiau tramor i arwyddo ei chwarewyr, mae’n rhaid ei bod yn werth cryn dipyn. Gan gymryd esiampl y Gwyddeldod mae cytundebau canolog i’w gweld fel dull i gadw talent cartref i chwarae ar gaeau cartref (sydd hefyd yn atynnu mwy o gefnogwyr i’r gwahanol feysydd chwarae). Mae hyn yn golygu bod y chwaraewyr ar gael yn rhwyddach i’r hyfforddwr cenedlaethol gan godi safon a llwyddiant ar lefel cenedlaethol Celtaidd neu Ewropeaidd.

Nid ond brwydr ar y cae fydd hi bryhawn Sadwrn ar yr AVIVA, ond un o wleidydda ac chytundebau mewn swyddfeydd ac ystafelloedd gwesty milltiroedd i ffwrdd o unhryw byst rygbi. Gêm ydyw hi, ond ydy arian yn cael gormod o argraff arni?

Ffrae rygbi Cymru: y ddau mor wael â’i gilydd

Cyhoeddwyd Ionawr 10, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Rhanbarthau Rygbi, Rygbi



Owain Gwynedd sydd yn gwylltio wrth i’r ffrae rhwng yr Undeb Rygbi a’r rhanbarthau barhau i rygnu …

Mae penwythnos y Cwpan Heineken yn ôl. Fel arfer fe fydd y pythefnos nesa’n cael ei weld fel rhagbrofion terfynol ar gyfer carfan Cymru, ac yn benodol y pymtheg fydd yn dechrau yn erbyn Yr Eidal ar Chwefror y 1af.

Ond yn groes i’r arfer tydi’r chwyddwydr ddim yn canolbwyntio ar unigolion, ond ar gyflwr y gêm broffesiynol yng Nghymru.

Mae o yn fy ngwylltio i i’r craidd i weld mai ni ein hunain, y Cymry,  sydd unwaith eto yn dinistrio dyfodol ein camp.

Beth bynnag ydi’r gwir a phwy bynnag sydd ar fai am adael pethau lithro i ddyfnderoedd tywyllaf hanes y gêm, y gwir yw does fawr o ots bellach heblaw’r ffaith syml iawn bod angen ysgwyd y ddau ochr, cael nhw i eistedd i lawr, a thrafod a sortio’r llanast mor fuan â phosib.

Y mwyaf o amser sydd yn mynd heibio, y mwyaf o niwed sydd yn cael ei wneud yn ariannol i’r gêm, i’r chwaraewyr sydd dal yma ar hyn o bryd, y niferoedd o gefnogwyr ac yn bwysicach oll i ddyfodol y gêm broffesiynol yn ei chyfanrwydd.

Drygioni’r ddwy ochr

Mae clywed straeon nad yw Undeb Rygbi Cymru yn barod i drafod unrhyw beth o’r Cytundeb Cyfranogiad yn siomedig ac y dangos diffyg synnwyr cyffredin.

Mi oedd y cynllun o gynnig cytundebau canolog ac yna llogi’r chwaraewyr yna i glybiau Lloegr yn dwp ac yn sbeitlyd o ran yr Undeb hefyd.

Ar y llaw arall, os oes diffyg arian yn y rhanbarthau i gystadlu â phrif glybiau Ewrop, sut mae’r Dreigiau wedi llwyddo i gadw gafael ar Toby Faletau a’r asgellwr a’r cefnwr rhyngwladol Aled Brew, yn ogystal â denu Lee Byrne?

Yn achos Byrne mae’r Dreigiau wedi arwyddo un o gefnwyr gora’r Top 14 yn Ffrainc os nad Ewrop. Ella mai lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ydi gobaith Byrne.

Felly i rywun o’r tu allan mae yna fai ar y ddwy ochr. Hefyd rhaid rhoi rhywfaint o’r bai a phwyntio’r bys at y cefnogwr am beidio â chefnogi eu rhanbarthau yn gyson. Dydyn ni ddim ond i’w weld yn ddigon parod i fynd i wylio’r gemau darbi.

Darlledwyr ar fai

Rhywun arall rhaid ysgwyddo’r baich am beidio sortio pa gystadlaethau oedd am fodoli tymor nesa yw BT Sport.

Y nhw sydd wedi cynnig arian mawr er mwyn trio creu cystadleuaeth Ewrop neu’r Bencampwriaeth Rygbi er mwyn ei darlledu ar ei sianel. Pe bai cytundebau trwyadl wedi eu cynllunio mwy nag wyth mis cyn dechrau tymor nesa ni fyddai clybiau Lloegr na Chymru yn y trafferthion funud olaf maen nhw rŵan.

Mae penderfyniad y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol i beidio â chefnogi syniad y rhanbarthau o greu cystadleuaeth eu hunain, ‘Y Bencampwriaeth Rygbi’, i raddau yn fendith. Mae’n gadael un opsiwn yn unig i’r rhanbarthau a hynny yw derbyn beth bynnag yw’r ail gynnig gan Undeb Rygbi Cymru.

Yn ariannol dylai fod yn llawer mwy na hynny sydd wedi ei gynnig yn barod, ond ar y cae fydd y rhanbarthau yn parhau i chwarae yn y Cwpan Heineken a’r Pro 12.

Unwaith mae’r ddau yn gytûn gall cynlluniau gael eu gwneud i gadw’r hynny o chwaraewyr rhyngwladol sydd ar ôl yma yn ein rhanbarthau.

Rhaid derbyn bod y rhanbarthau angen fwy o arian i ariannu’r busnes.

OS fydd y ddwy ochr dal yn anhapus, wel dyna fydd yr adeg i drafod a chynllunio’r cytundeb a chystadlaethau canlynol.

Gallwch ddilyn Owain ar Twitter ar @owaingwynedd.

Y gair olaf

Cyhoeddwyd Rhagfyr 31, 2013 gan Rygbi.

Tagiau: Alun Wyn Bevan, llyfrau, Rygbi


Alun Wyn Bevan sy’n awgrymu’r llyfrau i chi fynd ar eu holau ym myd y bêl hirgron os nad oedd Siôn Corn wedi dod a nhw …

Dros y Nadolig mae’n debygol i nifer ohonoch chi dderbyn llyfrau ymysg eich anrhegion i’w mwynhau ar ôl y cinio mawreddog. Er bod y dechnoleg yn newid yn gyflym a miliynau’n buddsoddi mewn kindles ac e-lyfrau mae’r mwyafrif ohonom yn dal i werthfawrogi hud a lledrith y llyfr traddodiadol.

Tybed faint ohonoch chi gafodd y pleser o suddo i gadair esmwyth gyfforddus ac ail-fyw’r gorffennol drwy ddarllen am gampau rhai o chwaraewyr rygbi enwoca’ Cymru’r Nadolig hwn?

Eleni eto mae yna gasgliad gwych wedi bod i ddifyrru cefnogwyr y bêl hirgron gan fod tri o hoelion wyth y gêm wedi penderfynu dweud eu dweud.

Delme Thomas

Cyd-weithio a’r gohebydd a’r darlledwr Alun Gibbard wnaeth cyn gapten y Scarlets a Chymru Delme Thomas ac mae ffrwyth eu llafur, Delme (Y Lolfa), yn wledd i’r darllenwr.

Mae’n wir dweud fod pob un gair o’r gyfrol yn perthyn i Delme ac mae hi’n stori dylwyth teg – chwarae mewn prawf i’r Llewod yn erbyn Seland Newydd cyn gwisgo crys coch Cymru, atgofion melys o’r diwrnod pan drechwyd y Crysau Duon ar Barc y Strade yn ogystal â gonestrwydd yr ail-reng wrth frwydro’n ddewr yn erbyn afiechyd.

Yn naturiol mae Delme’n arwr i holl gefnogwyr y Scarlets ond hyd yn oed heddi’ mae yna barch aruthrol iddo ledled y  byd fel chwaraewr ac fel person.

Gerald a’i geisiau

Un arall o fawrion y byd rygbi yw Gerald Davies ac mae ei gyfrol The Greatest Welsh Tries Ever (Gwasg Gomer) yn sicr o werthu’n dda.

Roedd yr asgellwr chwimwth yn croesi’r llinell gais yn amlach na neb ac mae ei gasgliad cynhwysfawr o geisiau yn sicr o esgor ar ddadlau brwd yn nhafarndai a chlybiau rygbi Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Fe fydd yna gytuno ac anghytuno a’r aficionados yn sicr o gyfeirio at ymdrechion eraill sy erbyn hyn ond yn frith atgofion yn seler y cof.

John Davies

Pontio’r cyfnod rhwng oes yr amatur a’r proffesiynol wnaeth John Davies o Fferm Cilrhue yng nghysgod mynyddoedd y Preselau ac mae’r gyfrol ardderchog John Davies – Dala’r slac yn dynn (Y Lolfa) yn un a ddylse fod ar silff lyfrau holl gefnogwyr y gamp.

Mae bod yn broffesiynol yn golygu byw’n iach, meithrin agweddau positif, dangos parch i’r gwrthwynebwyr, trin a thrafod pobol yn feddylgar a rhoi cant y cant i’r achos a dyna wnaeth John drwy gydol ei yrfa gyda Chastell-nedd, Richmond, Llanelli, Cymru a Chrymych.

Mae’r briodas rhwng John a’i gydawdur Wyn Gruffydd yn un hynod effeithiol gan fod y ddau yn hanu o’r un ardal, yn fois rygbi o’u corun i’w sawdl ac wedi’u naddu o wead genedol y tir o’u cwmpas.

Trafferthion tu hwnt i’r lefel uchaf

Cyhoeddwyd Rhagfyr 20, 2013 gan Rygbi.

Tagiau: Rygbi


Owain Gwynedd
Blogiwr rygbi golwg360 Owain Gwynedd sydd yn rhybuddio mai nid yn unig y rhanbarthau sy’n wynebu dyfodol ansicr yn y blynyddoedd i ddod …

Llaw i fyny pwy sydd wedi cael llond bol ar glywed am Undeb Rygbi Cymru, y Rhanbarthau a’r  Clybiau yn ffraeo? Ac erbyn hyn, y nifer o chwaraewyr sy’n gadael y wlad i chwarae dramor?

Dwi’n sicr yn un. Bob tro mae pethau yn mynd yn dda mae rhywbeth neu rywun o hyd yn barod i dynnu yn groes a chwalu’r freuddwyd o gael timau rhanbarthol llwyddiannus ynghyd a’r un rhyngwladol.

Y Da

Mae pawb i weld eisiau’r un peth ond methu a chytuno ar y ffordd orau ymlaen. Dim ond wythnos yma mae nifer wedi cael eu clodfori am eu hymdrech dros y flwyddyn ddiwethaf:

  • Pencampwyr Y Chwe Gwlad
  • Warren Gatland – Hyfforddwr y Flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
    • Gatland yn ymestyn ei gytuneb i hyfforddi Cymru nes 2019
    • Leigh Halfpenny – ail yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
    • Y Llewod – gan cynnwys nifer o Gymru, yn curo Awstralia (2-1)
    • Y Llewod – Tîm y flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC
    • Tîm Rygbi Cymru – Tîm y flwyddyn, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Y Drwg

Ond ar y llaw arall, mae’r da yn cael ei ddadwneud a’i danseilio’r un mor gyflym:

  • Richard Hibbard – yn ymuno a Chaerloyw
  • Stuart Gallagher, Prif Weithredwr Rhanbarthau Cymru – ymddiswyddo o fwrdd y Pro12 a      Chwpan Heineken
  • Scarlets – benthyciad o £20 miliwn gan Gyngor Caerfyrddin o bosib yn erbyn Rheoliadau Ewrop
  • Ansicrwydd dyfodol y Gwpan Heineken a’r Bencampwriaeth Rygbi (cystadleuaeth Lloegr yn parhau)
    • Dan Biggar a Gareth Maule yn erfyn ar yr Undeb a’r Rhanbarthau i ddod i benderfyniad gan fod yr holl beth yn effeithio’r chwaraewyr

Yr Ofn

Mae’r trafferthion yma i gyd ar lefel uchaf y gêm yng Nghymru, ond yn fwy pryderus i mi yw’r trafferthion ar lefel sylfaenol ac isaf y gêm.

Fel rhywun sydd yn dyfarnu gemau rygbi yn wythnosol ar hyd a lled y wlad, dwi’n cael cyfle i ymweld â nifer o glybiau a chlustfeinio ar sgyrsiau’r aelodau.

Mae’r stori yn debyg ym mhobman. Mae’r nifer o chwaraewyr rygbi yn gostwng. Wedi gostwng cymaint nes bod llefydd lle’n hanesyddol bu clybiau efo dau neu dri thîm oedolion, tîm ieuenctid a’r adran ieuenctid, bellach ddim ond gyda thîm cyntaf ynghyd a’r tîm ieuenctid ac ambell i dîm yn yr adran ieuenctid.

Gemau yn cael eu gohirio funud olaf gan nad oes rheng flaen neu hyd yn oed tîm ar gael.

Mae o hyd galw am ddyfarnwyr ond mae’r pwll sydd ar gael i weld yn mynd yn llai ac yn llai.

Dwi’m eisiau mynd mor bell a dweud bod rygbi yn marw yng Nghymru ond yn sicr tydi o ddim yn ffynnu.

Mae synnwyr cyffredin yn dweud os yw’r niferoedd i lawr, yna mewn amser bydd llai o chwaraewyr o’r safon uchaf yn dod ar gael i’r rhanbarthau a’r tîm rhyngwladol. Yn anochel, bydd golygfeydd o lwyddiant diweddar y Chwe Gwlad yn mynd yn atgofion y gorffennol fel atgofion y 70au.

Nid bai’r bêl gron

Mae’n rhy hawdd rhoi’r bai ar lwyddiant pêl-droed gan bod siŵr o fod mwy nag un rheswm wedi arwain at ddirywiad y gêm. Er hynny, does dim dwywaith bod llwyddiant y bêl gron wedi cael effaith anferthol – un ai drwy ddwyn sylw athletwyr gorau’r dyfodol neu arian poced y cefnogwyr.

Mae cefnogwyr fel rheol yn eithaf oriog a chefnogi timau pan bod nhw’n llwyddiannus, ac ar hyn o bryd mae dewis gweld Abertawe a Chaerdydd a rhai o sêr y byd pêl-droed yn hawdd mewn cymhariaeth â gweld y rhanbarthau yn colli efo nifer o chwaraewyr sydd rhy wan i’r safon uchaf.

Hefyd roedd ‘na gyfnod lle bu cymdeithas y chwarelwr yn gryf, a rygbi hefyd yn ffrwythlon. Roedd y ddau beth i’w gweld yn bodoli law yn llaw. Gyda dirywiad y pyllau glo fe welwyd dirywiad rygbi yn yr ardaloedd yma hefyd.

Mae dod o hyd i’r holl resymau yn ddadl hir dros beint ond yn ddadl sydd angen digwydd rhyw ben.

Felly rhaid cadw un llygad ar sefyllfa’r gêm ar y lefel uchaf, ond eto peidio ag anwybyddu sylfaen y gamp lle efallai un diwrnod ni fydd sylfaen ar ôl. Mae nifer o gwestiynau i’w hateb a’r rheiny’n fuan.