RSS

Golwg360

MwyCau 

Hen bryd i Guidolin brofi ei hun

Cyhoeddwyd Awst 13, 2016 gan Alun Rhys Chivers.


Francesco Guidolin yn wynebu'r wasg am y tro cynta'r tymor hwn

Ar drothwy tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair, mae gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers yn dweud bod rhaid i Francesco Guidolin brofi ei hun yn ei dymor llawn cyntaf yn rheolwr ar Abertawe…

Rheolwr ar ei gyfnod prawf oedd Francesco Guidolin, i bob pwrpas, y tymor diwethaf. Fe ddaeth yr Eidalwr i Abertawe dan gwmwl ar ôl i un o hoelion wyth a ffefrynnau’r Liberty, Garry Monk golli ei swydd. Roedd yr Elyrch, bryd hynny, yn ddeunawfed yn yr Uwch Gynghrair ac yn hwylio’n nes ac yn nes at y gwynt gyda phob gêm âi heibio.

Fe lywiodd Guidolin y tîm i’r lan unwaith eto erbyn mis Mai. Fe gafodd gytundeb newydd i aros yn barhaol ac mae ei waith o osod ei stamp ei hun ar y garfan eisoes wedi dechrau, gydag arwyddo Fernando Llorente, Borja Baston, Martin van Hoorn, Tyler Reid a Mark Birighitti dros y misoedd diwethaf.

Ond mae tymor siomedig yr Elyrch yn 2015-16 wedi costio’n ddrud iddyn nhw. All neb cwestiynu ymroddiad na llwyddiant y cadeirydd Huw Jenkins yn stori Abertawe dros y degawd diwethaf. Ond roedd y cyfnod cyn penodi Guidolin ym mis Ionawr mewn perygl o droi’n ffars.

Collodd Monk ei swydd ar Ragfyr 9, 2015. Trodd Abertawe eu sylw wedyn at Marcelo Bielsa – neu ‘El Loco’, y Dyn Gwallgof. Rheolwr Sevilla, Jorge Sampaoli, wedyn yn cael ei gysylltu â’r swydd hefyd. Ac wedyn un arall, ac un arall, ac un arall. Roedd yr ochenaid o ryddhad o du’r Liberty yn groch wedyn pan ddaeth cadarnhad fod y tîm, am y tro o leiaf, yn nwylo Alan Curtis – un sydd wedi ennill statws eilun yn y ddinas dros ddegawdau lu. Ond ateb dros dro yn unig fyddai troi at y gŵr y mae’n well ganddo fod yn rhif dau nag yn arwain y sioe.

Ynghanol hyn oll, fe ddaeth cadarnhad fod Guidolin ar ei ffordd i’r Liberty fel rhyw Feseia fyddai’n gallu gwyrdroi’r sefyllfa ar unwaith – ac yn ôl â Curtis i’r cysgodion unwaith eto. Roedd modd cydymdeimlo â Guidolin i ryw raddau. Roedd ganddo fe chwe mis i’w brofi ei hun. Y teimlad yn gyffredinol yw ei fod e wedi llwyddo i wneud hynny, ond rhaid iddo fe fynd gam ymhellach y tymor hwn. Ei dîm e fydd ar y cae y tymor hwn, ei staff e fydd ar yr ymylon, a’i syniadau fe fydd, gobeithio, yn arwain at dymor tipyn mwy llewyrchus yn 2016-17.

Roedd y sioc o golli ei gapten Ashley Williams i Everton mor agos at ddechrau’r tymor yn dal i’w weld ar ei wyneb ddydd Iau, wrth iddo wynebu’r wasg ar drothwy’r gêm gyntaf yn Burnley. Mae Abertawe’n sicr wedi dioddef yn sgil llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 dros yr haf. Fe ddioddefon nhw ergyd ddwbl o golli’r cyfle i arwyddo Joe Allen – ond stori arall yw honno.

Does ond gobeithio na fydd y golled ar ôl Williams i’w theimlo o hyd ar gae Turf Moor am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn. Bydd ei absenoldeb yn sicr yn ergyd i amddiffyn yr Elyrch. Ond fel mae Guidolin ei hun wedi bod yn awyddus i’w ddangos, mae mwy o ddyfnder yn y garfan eleni na’r llynedd. Fe ddaeth Martin van Hoorn i mewn o Ajax dros yr haf, ac fe allai alw ar Jordi Amat i lenwi’r bwlch am y tro – er, dw i ddim yn ei weld yn olynydd parhaol i Williams, fel wnes i awgrymu’r adeg yma’r llynedd. Mae ymadawiad ‘Ash’ yn golygu hefyd y bydd mwy o bwysau ar ei bartner Federico Fernandez yng nghanol yr amddiffyn. Kyle Bartley ddaeth i’r adwy ddechrau’r tymor diwethaf, ond mae hwnnw bellach ar fenthyg yn Leeds.

Os yw dyfodol yr amddiffyn – yn y tymor byr, beth bynnag – yn sigledig, yna mae’r dyfodol ymhlith yr ymosod yn edrych dipyn yn fwy cadarn erbyn hyn. Mae’r Elyrch wedi’i chael yn anodd ers 18 mis i ddod o hyd i ymosodwr fyddai’n gallu llenwi esgidiau Wilfried Bony. Wnaeth Bafetimbi Gomis ddim tanio tan yn gymharol hwyr, mae Alberto Paloschi wedi mynd a dod o fewn dim o dro ac mae Gylfi Sigurdsson ar ei ben ei hun yn y rheng flaen wedi dangos mai chwaraewr canol cae ymosodol yw e, yn hytrach na blaenwr sy’n gallu chwarae ar ei ben ei hun. Ac mae colli Andre Ayew yn golygu bod yr Elyrch wedi colli rhywun sy’n gallu cyfrannu at y cyfanswm goliau.

Mae Guidolin, o’r diwedd, wedi awgrymu y gallai ddewis dau ymosodwr ar ffurf 4-4-2 neu 3-5-2. Dydy un blaenwr ar ei ben ei hun – boed Bony neu Gomis neu Paloschi – ddim wedi dwyn ffrwyth. Ond gydag arwyddo Fernando Llorente a Borja Baston, fe ddaeth gwawr newydd ar y Liberty. Mae Guidolin yn cyfaddef nad yw’n gwybod fawr ddim am Baston, ond mae’r ffaith e fod e wedi costio £15.5 miliwn – sy’n record i’r Elyrch – yn awgrymu bod gan y clwb dipyn o feddwl o gyn-ymosodwr Atletico Madrid. Mae’r ffaith fod Abertawe’n denu chwaraewyr o glybiau mor nodedig yn adrodd cyfrolau hefyd.

Pe baech chi’n gwrando ar y gwybodusion dros y dyddiau diwethaf, fe daerech chi ei bod hi ar ben ar Abertawe. Mae’r rhan fwyaf yn darogan tymor diflas i’r Cymry, a rhai – fel Jamie Carragher – hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu cwymp o’r Uwch Gynghrair. Ond mae cyfle bellach yn yr ‘Oes Ôl-Ash’ i brofi y gall y clwb symud ymlaen – fe wnaethpwyd hynny ar ôl cyfnod Monk wrth y llyw, ac mae’n bosib gwneud hynny eto. Mae Guidolin wedi cael amser i ail-adeiladu’r garfan – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae’n bryd nawr i’r chwaraewyr dorchi’u llewys.

Y lori lwyddiant go iawn

Cyhoeddwyd Gorffennaf 11, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: gwahoddiad brenhinol tim cymru


Wrth fwrw golwg nôl dros olygfeydd anhygoel yng Nghaerdydd ddydd Gwener, mae Owain Schiavone’n trafod pryderon y gallai poblogrwydd tîm pêl-droed Cymru droi’n bropaganda Prydeinig.

Roedd y golygfeydd ym maes awyr Caerdydd, ac yna ar strydoedd y brifddinas ddydd Gwener yn werth eu gweld. Ond mae yna beryg y gallai ymyrraeth y teulu brenhinol yn Lloegr droi pethau’n sur.

Heidiodd degau o filoedd – dros 200,000 yn ôl pob tebyg –  o bobol i strydoedd y brifddinas i groesawu tîm pêl-droed Cymru yn ôl o Ffrainc ac i’w llongyfarch ar eu llwyddiant aruthrol yn Ewro 2016.

Roedd y golygfeydd yn rhai na fyddai’r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru wedi breuddwydio eu gweld, ac roedd hyd yn oed y chwaraewyr i’w gweld yn rhyfeddu at y croeso ac yn mwynhau pob eiliad.

Er gwaethaf y gorfoledd dros y dyddiau diwethaf, mae’n amhosib peidio sylwi ar y cwmwl du bygythiol sydd wedi dechrau ymddangos dros y cyfan wrth i’r peiriant propaganda Prydeinig godi ei ben salw.

Frances ffôl

Teimlwyd cysgod y cwmwl gyntaf tuag at ddiwedd y dathliadau swyddogol yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r gyflwynwraig Frances Donovan gyfweld Chris Coleman a datgan yn groch ei bod am enwebu Coleman i’w wneud yn farchog gan frenhines Lloegr.

Do’n i ddim yn siŵr os oeddwn i’n credu fy nghlustiau ac, o’r olwg ar wyneb Coleman, roedd yntau’n amau ei glyw hefyd. Ro’n i wedi penderfynu mai’r holl gyffro oedd wedi effeithio arni’n cynnig y fath beth, cyn gweld wedyn ei bod wedi hi wedi trydar neges debyg rai oriau’n ddiweddarach.

Er gwaethaf ei ffamiliariti ymddangosiadol â’r chwaraewyr gyda’i ‘Ash’, ei ‘Rambo’ a’i ‘Joniesta’, mae’n amlwg nad ydy Frances yn adnabod y garfan yma o gwbl, na chyfrinach agored eu llwyddiant. Gorau Chwarae, Cyd Chwarae – neu Together Stronger os mynnwch chi. Pawb yn gyfartal, pawb yn bwysig i’r tîm a phawb yn wynebu popeth, y llwyddiant a’r siom, gyda’i gilydd fel un. Pam yn y byd fyddai Chris Coleman felly’n credu ei fod yn haeddu ‘anrhydedd’ cyn ei hyfforddwr, Osian Roberts, neu ei physio Sean Connelly?

Ar ddiwedd mis pan welson ni falchder cenedlaethol heb ei debyg diolch i’r tîm yma, beth oedd ar feddwl y gyflwynwraig yn honni y byddai cydnabyddiaeth gan frenhines cenedl arall yn golygu rhywbeth i Coleman ac i’r cefnogwyr oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac am foment i ddweud y fath beth – ar ôl i Coleman fod yn dyst i ddegau ar ddegau o filoedd o bobol o bob oedran yn ymgasglu i gydnabod llwyddiant ei dîm, dyma ni danseilio hynny trwy awgrymu y byddai cael ei wneud yn ‘Syr Chris Coleman’ yn fwy gwerthfawr iddo.

Mae’n amlwg nad ydy Frances wedi bod yn gwylio Cymru o’r eisteddle’n ddiweddar neu fe fyddai hi’n gyfarwydd â’r gân deyrnged i Gareth Bale – “Viva Gareth Bale, viva Gareth Bale, said he had a bad back, f**k the union jack”. Cyfeiriad wrth gwrs i anaf honedig Bale i’w gefn pan oedd tîm GB am iddo chwarae iddyn nhw yng Ngêmau Olympaidd Llundain, a theimladau y cefnogwyr yn glir.

Iro’r olwynion

Efallai na ddylen ni synnu i weld olwynion propaganda y sefydliad Prydeinig yn dechrau troi, ac yn anffodus erbyn dydd Sul roedden nhw’n troi’n gynt wrth i Wales Online awgrymu y gallai’r tîm gael gwahoddiad i dderbyniad brenhinol arbennig yn Clarence House.

Mae’n siomedig gweld ein ‘papur cenedlaethol’ yn cyfeirio at hyn fel “gwobr” i’r tîm yn y lle cyntaf, ac mae Golwg360 bellach hefyd wedi cael clywed bod y syniad yn cael ei ystyried o ddifri.

Dw i’n ofni mai rhan o bris llwyddiant ydy hyn, ac fe allai roi’r Gymdeithas Bêl-droed mewn man lletchwith iawn.

Mae barn y cefnogwyr ynglŷn â’r mater yn glir wrth i Twitter ffrwydro gyda gwrthwynebiad ymysg llawer o’r hardcôr, gan gynnwys The Barry Horns – y band pres sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn llwyddiant Cymru trwy godi canu ymysg cefnogwyr y cochion.

Y Barry Horns sydd wedi dechrau’r hashnod #noroyalreception sydd wedi ymddangos yn gyson dros y 24 awr diwethaf wrth i gannoedd o gefnogwyr ddatgan eu gwrthwynebiad.

Mae rhai cefnogwyr wedi dechrau deiseb yn gofyn i’r Gymdeithas Bêl-droed wrthod gwahoddiad o’r fath.

Petai’r gwahoddiad yn dod, a fyddai’r Gymdeithas Bêl-droed yn ddigon cryf i wrthod? Mae yna sawl rheswm dros wneud hynny.

Mi wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddatgan eu gwrthwynebiad clir i sefydlu ‘Tîm GB’ ar gyfer y Gêmau Olympaidd gan ofni tanseilio annibyniaeth tîm pêl-droed Cymru ac mae nifer ar Twitter i’w gweld yn dyfynnu ‘Cenedl Bêl-droed annibynnol / Independent Football Nation’. Byddai cydnabod gwahoddiad o’r fath gan deulu sy’n cynrychioli imperialaeth Prydeinig yn fwy na dim cystal â chydnabod mai rhan fach o gymdeithas bêl-droed Prydeinig ydy Cymru.

Mae ethos tîm Cymru wedi rhyfeddu pobol ledled y byd dros y mis diwethaf – ysbryd unigryw, dim ffws, dim hunanbwysigrwydd, dim fi fawr…dim ond criw o fois, gyda’u traed ar y ddaear, yn mwynhau eu cyfle. Maen nhw’n teimlo fel un, nid yn unig fel carfan a thîm hyfforddi, ond yn un gyda’r cefnogwyr hefyd – mae gan bawb eu rhan i chwarae. Unwaith eto, byddai te gyda’r elît yn Clarence House yn mynd yn gwbl groes i hynny.

Bu llawer o drafod ar y bandwagon, neu’r ‘lori lwyddiant’ (bathiad Ifor ap Glyn), a ddatblygodd diolch i lwyddiant y tîm. Pobol fel y teulu brenhinol a’r sefydliad Prydeinig ehangach ydy’r bandwagon go iawn sy’n ceisio manteisio ar lwyddiant y tîm ar gyfer eu dibenion propaganda eu hunain.

Ar ddechrau’r bencampwriaeth roedd y Tywysog William yn barod iawn i ddymuno’n dda i dîm pêl-droed Lloegr mewn fideo arbennig. Dim sôn am Gymru bryd hynny…

Byddai derbyn gwahoddiad fel hwn yn fuddugoliaeth arall i’r sefydliad Prydeinig i danseilio Cymreictod, a byddai hynny’n dorcalonnus ar ôl popeth a wnaed gan y tîm i ennyn balchder Cymreig hynod.

Byddai gwrthod yn siŵr o bechu’r sefydliad Prydeinig, ac yn golygu PR gwael ymysg y cyfryngau Prydeinig. Ond ydy hi’n werth sarhau a dieithrio carfan fawr o gefnogwyr sydd wedi bod yn ffyddlon i’r tîm cyhyd am ychydig o PR da?

Os ddaw’r gwahoddiad, dyma’r cwestiwn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Ydyn nhw’n ddigon cryf i wrthod ble mae eraill wedi methu?

Gwir lwyddiant Ewro 2016 Cymru

Cyhoeddwyd Gorffennaf 7, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: Ewro 2016


Cefnogwyr Cymru'n dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)

Owain Schiavone sy’n trafod gwaddol llwyddiant tîm pêl-droed Cymru.

Mae wedi bod yn bedair wythnos anhygoel a bythgofiadwy, ond mae taith fer ond ymgyrch enfawr Cymru yn Ewro 2016 wedi dod i ben.

Mae Chris Coleman a’i dîm wedi dal llygad a chalonnau’r byd yn ystod eu hymgyrch yn Ffrainc, ac fel cefnogwyr rydym wedi crio, chwerthin, canu, dawnsio a breuddwydio wrth ddathlu llwyddiant y grŵp rhyfeddol yma o ddynion ifanc.

Er gwaethaf yr iwfforia ar y ffordd, gwirionedd hallt pencampwriaeth bêl-droed fel Ewro 2016, ydy mai gorffen gyda siom mae taith pawb ond un tîm. Yn achos Cymru, fydd y siom ddim yn para’n hir wrth i ni edrych yn ôl ar ymgyrch aruthrol o lwyddiannus.

Yn y byd chwaraeon, rhywbeth byrdymor ydy llwyddiant hefyd ond mae’n weddol sicr y bydd llwyddiant tîm Cymru yn Ewro 2016 yn amlwg am flynyddoedd i ddod. Yn wir, efallai na welwn ni lawn waddol y llwyddiant am amser maith, gymaint yr impact ehangach mae’r tîm wedi’i greu.

Dechrau’r daith

Wrth ddangos ein gwerthfawrogiad i dîm Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi diolch iddynt am y ‘daith’. Mae wedi bod yn dipyn o daith, ond taith fer oedd Ewro 2016 mewn gwirionedd, a dim ond dechrau’r daith i’r tîm arbennig yma fydd gobeithio’n dathlu sawl llwyddiant arall mewn crys coch Cymru.

Er gwaetha’r profiad yn y tîm, a’r nifer capiau, mae hon yn dal i fod yn garfan ifanc.

O’r garfan o 23, dim ond 4 chwaraewr sy’n 30 oed neu hŷn – David Vaughan (33), James Collins (32), Ashley Williams (31), a Dave Edwards (30). Mae’r rhan fwyaf o’r garfan fel arall yn 26 neu 27 oed, sy’n golygu bod gan y rhan fwyaf o’r garfan yma gyfle i chwarae mewn o leiaf tair ymgyrch arall i Gymru – Cwpan y Byd 2018, Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Yn ogystal â hynny mae ‘na nifer o chwaraewyr yn eu hugeiniau cynnar sydd wedi bod ar gyrion y garfan yn ystod yr ymgyrch ac a fydd ar dân i dorri mewn yn y cyfnod nesaf – Lloyd Isgrove, Tom Lawrence, Paul Dummett, Emyr Huws, Adam Henley, Declan John i enwi rhai.

Ychwanegwch at hynny chwaraewyr addawol iawn sy’n y tîm dan 21 fel Gethin Jones o Everton, Harry Wilson o Lerpwl, Billy O’Brien o Man City a Tyler Roberts o West Brom, ac mae’r dyfodol tymor byr yn edrych yn ddisglair.

Y genhedlaeth nesaf

Mae llwyddiant yn magu mwy o lwyddiant. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac yna’r rowndiau terfynol, rydym wedi gweld y diddordeb mewn pêl-droed Cymru’n tyfu a thyfu.

Fe welwyd miloedd yn teithio i Ffrainc, ffanbarthau newydd yn agor ledled Cymru wrth i’r daith barhau, a does wybod faint o grysau coch mae Adidas wedi gwerthu dros  yr wythnosau diwethaf.

Denodd y gêm go gynderfynol yn erbyn Gwlad Belg 1.27 miliwn o wylwyr yng Nghymru yn ôl y BBC – record ar gyfer gêm fyw.

‘Bandwagon’? Wrth gwrs ond law yn llaw a hynny, yr hyn mae’r tîm yma wedi llwyddo i wneud yn fwy na dim ydy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Does gen i ddim amheuaeth y bydd nifer o’r bechgyn a merched bach sydd wedi dangos diddordeb mewn pêl-droed am y tro cyntaf dros y mis diwethaf yma’n cynrychioli eu gwlad mewn blynyddoedd i ddod.

Dros yr wythnosau diwethaf dwi di clywed hanesion am fy mhlant a’u ffrindiau chwarae pêl-droed  yn yr ysgol ac yn galw’i hunain yn Ramsey, Taylor a Robson-Kanu yn hytrach na Rooney, Messi a Ronaldo. Bendigedig.

Yr iaith

Wrth i Loegr ddiflannu o’r bencampwriaeth, mae gweld y cyfryngau Prydeinig a Rhyngwladol yn cymryd diddordeb yn nhîm Cymru wedi bod yn ddoniol, ond hefyd diddorol.

Wrth dalu mymryn mwy o sylw, maen nhw wedi sylweddoli ar yr hyn roedden ni eisoes yn gwybod – mae Cymru’n fwy na ‘thîm un dyn’, ac mae’r tîm yma’n grŵp arbennig iawn o bobl.

Yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol hefyd ydy gweld cymaint o’r cyfryngau’n rhoi lle amlwg i’r iaith Gymraeg. Rydan ni wedi gweld y Gymraeg ar dudalennau blaen y rhan fwyaf o’r papurau Prydeinig ac yn cael ei ddefnyddio i agor rhaglenni radio a theledu o bob math.

Ychwanegwch at hynny’r holl gwmnïau rhyngwladol sydd wedi neidio ar y bandwagon a defnyddio’r Gymraeg i hyrwyddo eu cynnyrch – Adidas, Budweiser, Carlsberg, Play Station i enwi dim ond rhai.

Rydan ni wedi gweld ‘Llongyfarchiadau’ yn ymddangos  ar fyrddau hysbysebu ar ddiwedd gemau a chwestiynau Cymraeg yn cael eu gofyn am y tro cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg swyddogol UEFA.

Mae rhoi llwyfan rhyngwladol fel hyn i’r Gymraeg yn hwb enfawr i’r iaith, yn hybu ymwybyddiaeth ohoni ac yn siŵr o annog pobl i’w dysgu a’i defnyddio.

Rhaid canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am barchu’r iaith, ac Ian Gwyn Hughes yn enwedig am sicrhau lle amlwg iddi ym mhob agwedd o weithgarwch y Gymdeithas.

Hwb ariannol

Mae llwyddiant y tîm yn hwb enfawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae hynny’n newyddion da i’r gêm ar bob lefel.

Yn ôl y sôn, bydd Cymru’n derbyn €18 miliwn am gyrraedd y rownd gynderfynol, a dwi’n weddol siŵr bydd y llwyddiant yn agor drysau nawdd newydd i Brif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford.

Dyma arian fydd yn cael ei fuddsoddi’n bennaf dwi’n siŵr yn y gêm ar lawr gwlad, a bydd hynny, gydag amser yn bwydo i fyny i’r timau rhyngwladol. Yn bennaf oll, mae’n siŵr o olygu cyfleoedd i fwy o blant chwarae, a mwynhau’r gêm sydd wedi rhoi cymaint o foddhad i lawer iawn ohonom.

Rhaid peidio anghofio hefyd am yr hwb i’r economi Gymreig yn ystod yr ymgyrch, gyda llawer o dafarnau, cwmnïau bysus a busnesau eraill yn manteisio.

Mae rhain i gyd yn bethau tymor hir cadarnhaol fydd yn tyfu o lwyddiant Gareth Bale a’i gyfeillion – mae’n brawf bod pêl-droed  yn fwy na dim ond gêm, mae’n gallu rhoi hwb diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

Yn fwy na hyn oll, mae’r tîm yma wedi rhoi Cymru ar y map ac ysgogi balchder newydd mewn bod yn Gymro.

Cyffrowch!

Cyhoeddwyd Gorffennaf 6, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: Ewro 2016


Torf Cymru - 'y wal goch' - yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)
Ar drothwy gêm hanesyddol arall i dîm Cymru, mae’n iawn bod yn obeithiol yn Lyon, meddai Owain Schiavone

Daeth dydd lle bydd mawr y rhai bychain…gobeithio!

Beth bynnag y canlyniad yn erbyn Portiwgal heno, mae Cymru wedi dal dychymyg, a chalonnau, y byd pêl-droed wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.

Roedd y perfformiad yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol – nid yn unig y cymeriad i ddod yn ôl o ildio gôl yn gynnar yn y gêm, ond yna mynd ymlaen i reoli’r chwarae am y rhan fwya’ o’r 77 munud oedd yn weddill.

Mae modd dadlau bod elfen o lwc, a pherfformiad amddiffynnol dewr gan ‘dîm bach’ yn y canlyniadau rhagbrofol yn erbyn y Belgiaid ond, yn Lille, Cymru oedd y tîm gorau.

Er gwaetha’ barn sylwebwyr rhyngwladol ar ddechrau’r bencampwriaeth, dyw hi ddim yn syndod bod y math yma o ganlyniad yn nhîm Cymru. Wedi’r cyfan, mae gynnon ni un o chwaraewyr gorau’r byd; ar ei ddydd un o chwaraewyr canol cae gorau’r Uwch Gynghrair yn Aaron Ramsey; Joe Allen sy’n dduw yn llygaid y rhan fwyaf o gefnogwyr Abertawe a Chymru; un o amddiffynwyr mwyaf cyson yr Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd diwetha’ a llond llaw o chwaraewyr eraill profiadol o Uwch Gynghrair Lloegr.

Ysbryd

Nid y ffaith ein bod ni’n gallu curo timau rhyngwladol da fel Slofacia, Rwsia a Gwlad Belg sy’n syndod i bobol y tu allan i Gymru, ond yn hytrach y ffordd mae’r garfan yma wedi mynd o’i chwmpas hi. Mae cymariaethau wedi eu dwyn â llwyddiant Caerlŷr yn ennill Uwch Gynghrair Lloegr. Mae hynny’n deg, ac mae’n rhyfedd gweld dwy stori o’r fath yn yr un tymor, straeon sydd wedi adfer ffydd nifer fawr o bobol yn y gêm.

Go brin fod unrhyw un wedi gweld y fath ysbryd tîm mewn pencampwriaeth fel hyn o’r blaen – maen nhw’n chwa o awyr iach. Mae’r chwaraewyr wedi sôn fod y profiad fel bod ar wyliau gyda theulu, ac mae’n hawdd credu hynny o weld y lluniau a fideos sy’n dod o’r gwersyll yn Dinard.

Mae pawb wedi dotio gyda dawnsio Joe Ledley,  a gweld plant y chwaraewyr yn ymuno â’r dathlu ar y cae, er bod UEFA bellach yn ceisio taflu dŵr oer ar hynny.

Wrth siarad â chefnogwyr gwledydd eraill yn Ffrainc rydw i, fel nifer o gefnogwyr dwi’n siŵr wedi yngan y geiriau “we’re just happy to be here” wrth bron bob un. Dyna deimlad y garfan hefyd– y fuddugoliaeth fawr i Gymru oedd cyrraedd Ewro 2016 ac mae’r pwysau wedi’i ryddhau’n llwyr wedi hynny.

Dwi wedi gweld ambell un yn annog pobol i beidio cyffroi gormod am y gêm yn erbyn Portiwgal, ac yn poeni am yr holl heip. Mae arna’i ofn bod hynny’n anochel – rydan ni’n rownd gynderfynol yr Ewros bois.

Mae Cymru i raddau wedi llithro o dan y radar tan nos Wener diwetha’, ond pan fyddwch chi’n curo ail dîm gorau’r byd yn gyfforddus i gyrraedd rownd gynderfynol, mae pobl yn mynd i ddechrau sylwi. Mae’n rhaid i ni dderbyn hynny, mwynhau’r sylw a bod yn hyderus y gall y tîm yma gyrraedd y ffeinal.

Problem Portiwgal

Dw i ddim yn credu bod Cymru’n ffefrynnau. Dw i ddim yn credu bod yna ffefrynnau o gwbl pan fyddwch chi’n cyrraedd y pedwar olaf gan bod pob tîm wedi gwneud yn dda i gyrraedd y cam yma.

Maey‘na ambell ffaith o blaid Cymru…yr amlyca’ ydy bod Portiwgal heb ennill gêm eto yn y bencampwriaeth – tair gêm gyfartal yn y grŵp, a dwy fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn wedi hynny. Mae Cymru ar y llaw arall wedi ennill 4 o’u 5 gêm, gan golli i Loegr mewn perfformiad y maen nhw wedi dysgu oddi wrtho.

Wedi dweud hynny, mae Portiwgal wedi dangos dygnwch aruthrol ac mae ganddyn nhw chwaraewyr arbennig o dda – yn ymosodol Nani, Quaresma, Renato Sanchez ac, wrth gwrs Ronaldo. Dyma chwaraewyr sydd i gyd yn gallu creu rhywbeth o ddim byd, a bydd yn rhaid i amddiffyn Cymru fod ar eu gorau.

Yn amddiffynnol ar y llaw arall, yn debyg iawn i Wlad Belg, mae gan y gwrthwynebwyr ambell broblem. Mae’r chwaraewr canol cae amddiffynnol William Carvalho wedi’i wahardd ac mae amheuaeth am y dyn drwg Pepe sydd ag anaf.

Pwy ddylai chwarae?

Bydd dau chwaraewr dylanwadol yn eisiau gan Gymru hefyd wrth gwrs. Yn fy marn i, Ben Davies ydy chwaraewr mwya’ cyson Cymru yn y bencampwriaeth ac, ers y gêm yn erbyn Lloegr, mae Aaron Ramsey wedi bod yn ardderchog.

Mae nifer am weld Jazz Richards yn dechrau yn gefnwr de, gyda Gunter yn symud i’r canol. Dw i’n credu bod symud chwaraewyr o gwmpas, yn enwedig yn yr amddiffyn, yn beryglus ac mae Gunter wedi bod yn wych ar y dde yn y gêmau diwetha’. James Collins i lenwi esgidiau Davies yn y canol i mi felly – amddiffynnwr profiadol fydd yn gallu gwneud job dda i ni.

Y peth cadarnhaol ynglŷn â cholli Ramsey ydy bod opsiynau gan Coleman. Y dewis saff fyddai Andy King, ond mae Jonny Williams wedi gwneud cyfraniad enfawr ym mhob ymddangosiad a fyswn i wrth fy modd yn gweld Joniesta’n rhedeg at Pepe yng nghanol yr amddiffyn.

Dwi’n amau mai dechrau efo King a defnyddio Jonny o’r fainc eto fydd hi, ond mae Coleman wedi bod yn ddewr gyda’r ddewisiadau trwy’r ymgyrch.

Dw i ddim yn credu bydd y ddau newid yma’n ormod o broblem – bydd pwy bynnag sy’n cymryd lle Ramsey a Davies yn benderfynol o greu argraff.

Iawn bod yn hyderus

Os all Cymru godi safon eu chwarae’n agos at eu lefel yn erbyn Gwlad Belg, byddan nhw’n curo Portiwgal ond mi fydd y gwrthwynebwyr yn ymwybodol iawn o’r bygythiad. Mae’n iawn i ni fod yn hyderus – mae’n sarhad i’r tîm i beidio.

Beth bynnag y canlyniad heno, mae’r criw yma o hogia’ wedi rhoi antur a hanner i ni dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gwneud pawb yn falch o fod yn Gymro.

Maen nhw wedi dal sylw, ac ennill parch y byd ar y cae ac oddi arno ac wedi rhoi cyfle heb ei debyg o’r blaen i ni freuddwydio.

Y daith sydd byth yn darfod

Cyhoeddwyd Gorffennaf 4, 2016 gan Y Blog Pêl-droed.

Tagiau: Ewro 2016, Iolo Cheung, tîm pêl-droed Cymru


Y campyrfan yn parhau a'i daith Llun: Iolo Cheung
Fel sawl cefnogwr arall o Gymru, mae Iolo Cheung wedi gorfod aros yn Ffrainc yn hirach na’r disgwyl…

Pan roedden ni’n dweud wrth bobol ar ddechrau’r daith yma ein bod ni wedi archebu campyrfan am dair wythnos ar gyfer Ewro 2016, yr ateb yn amlach na pheidio oedd ‘…ond beth wnewch chi unwaith y bydd Cymru allan?’

Wel, sori i’ch siomi chi, ond does gen i dal ddim ateb i’r cwestiwn hwnnw eto!

Rydan ni eisoes wedi gorfod gwneud y galwadau ffôn i ymestyn cyfnod llogi’r cerbydau, a dw i’n siŵr bod miloedd o gefnogwyr eraill wrthi’r eiliad hon yn gwglo sut i hedfan, yrru neu ddal trên i Lyon erbyn dydd Mercher.

Pam? Siawns bod pob person yng Nghymru yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn yna bellach. Rownd gynderfynol Ewro 2016, a’r gêm fwyaf yn hanes y genedl.

Hal hudolus

Sut gyrhaeddon ni fan hyn? Onid ni oedd y wlad fethodd â hyd yn oed cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol am 58 mlynedd?

I ni’r Cymry mae’r siwrne wedi bod yn un gwefreiddiol, cyffrous, gorfoleddus, anghredadwy – ond mae tîm Chris Coleman hefyd wedi bod yn chwa o awyr iach i’r gystadleuaeth ei hun, ac yn destun diddordeb ar draws Ewrop a thu hwnt.

Dyma dîm sydd yn chwarae ag egni a phwrpas, yn dangos balchder amlwg wrth wisgo’r crys, ac yn fwy na dim yn edrych fel carfan sydd yn mwynhau pob eiliad gyda’i gilydd yn Ffrainc.

Roedden ni’n meddwl ein bod ni wedi’u gweld nhw ar eu gorau yn erbyn Rwsia, gyda’r perfformiad gwych hwnnw a sicrhaodd ein lle ar frig y grŵp.

Ond roedd beth welsom ni yn erbyn Gwlad Belg hyd yn oed yn well – Cymru’n mynd wyneb yn wyneb ag un o dimau gorau’r byd ac yn ennill mewn modd cwbl haeddiannol.

Synnwn i ddim petai awdl o foliant i’r ail gôl gan Hal Robson-Kanu yn cipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol, mor hudolus oedd y foment y trodd ymosodwr Cymru cyn plannu’r bêl i gefn y rhwyd.

Mae Cymru wedi bod yn disgwyl 58 mlynedd am foment fel hon, ac roedd hi werth pob eiliad o’r aros.

Bob 12 mlynedd…

Tydi’r siwrne anhygoel yma ddim ar ben, wrth gwrs.

Bu’r Cymry a’r Belgiaid yn cyd-ganu’n hwyr gyda’r nos yn Lille, arwydd o’r frawdoliaeth gyfeillgar sydd wedi datblygu rhwng dau set o gefnogwyr sydd wedi cyfarfod bum gwaith mewn pedair blynedd.

Bydd mwy o’r un peth i’w gael dw i’n siŵr yn Lyon, wrth i’r sylw droi rŵan at yr ornest fydd yn penderfynu ai ni neu Bortiwgal fydd yn cael un trip olaf i Baris ddydd Sul.

Mae’r cyfryngau eisoes wedi penodi hon fel yr ornest rhwng Ronaldo a Bale, y ddau galactico o Real Madrid fydd yn wynebu’i gilydd ar gae rhyngwladol am y tro cyntaf erioed.

Ond beth fydd yn bwysicach i Gymru fydd sicrhau nad yw siâp a chynllun chwarae’r tîm yn cael eu heffeithio gan waharddiadau Aaron Ramsey a Ben Davies.

Portiwgal ydi’r ffefrynnau gyda’r bwcis, ond o ystyried nad ydyn nhw’n dîm cystal â Gwlad Belg, na chwaith wedi ennill yr un o’u pum gêm mewn 90 munud yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, does dim rheswm o gwbl gan Gymru i’w hofni.

Mae ‘na ddamcaniaeth bod sypreisys yn digwydd yn yr Ewros bob 12 mlynedd, gyda buddugoliaethau annisgwyl i Ddenmarc yn 1992 ac yna Groeg yn 2004.

Nid breuddwyd gwrach ydi dychmygu y gallai Cymru eu hefelychu bellach.

Crwydro pob cornel

Yn ffodus iawn, mae’n criw ni o 10 wedi gallu ymestyn ein llog ar y ddau gampyrfan sydd gennym ni, a dim ond un sydd wedi gorfod dychwelyd adref dros dro oherwydd gwaith.

Mae’n golygu mai dyma’n 24ain diwrnod yn Ffrainc, a ninnau bellach wedi teithio ymhell dros 2,500 o filltiroedd ar hyd a lled y wlad erbyn rŵan.

Un peth sy’n saff, dw i ddim yn meddwl y byddwn ni’n cael stêc a sglodion am sbel unwaith fyddwn ni adref o ystyried faint ‘dan ni wedi’i fwyta allan fan hyn!

Mae gyrru o gwmpas hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni wersylla yng nghefn gwlad, i ffwrdd o brysurdeb y ddinas, o bryd i’w gilydd.

Hawdd ydi gweld pam fod gwyliau gwersylla yn Ffrainc mor boblogaidd, yn enwedig gyda’r cyfleusterau sydd i’w cael yn rhai ohonynt gan gynnwys pyllau nofio a chyrtiau chwaraeon.

Ar y llaw arall, trïwch osgoi gwersylloedd sydd yn agos i lynnoedd os yn bosib – mae’r pryfaid a’r mosgitos yn gallu bod yn bla!

Rydan ni hefyd wedi mentro y tu hwnt i ffiniau Ffrainc, gan groesi i Wlad Belg y diwrnod cyn y gêm yn Lille er mwyn ymweld â bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood ger Ypres.

O’r negeseuon oedd wedi cael eu gadael yn y llyfr ymwelwyr, mae’n amlwg nad ni oedd yr unig Gymry i gael yr un syniad.

Rydan ni bellach yn bwrw draw am Lyon, gan obeithio gweld y Cymry sydd ar bridd tramor heddiw yn ychwanegu un bennod arall i’r chwedl anhygoel.

Pod Pêl-droed Ewro 2016 – paratoi i herio Gwlad Belg

Cyhoeddwyd Mehefin 29, 2016 gan Pêl-droed.

Tagiau: Ewro 2016, pod pêl-droed


Yng nghanol cyffro Ewro 2016 mae criw y Pod Pêl-droed wedi llwyddo i ddal i fyny â’u gilydd i recordio pennod i drafod y diweddaraf am ymgyrch Cymru yn Ffrainc.

Tommie Collins a Iolo Cheung – y naill ar ben arall y ffôn ym Mhorthmadog, a’r llall rhywle rhwng Paris a Lille – sy’n ymuno ag Owain Schiavone i drafod y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac edrych ymlaen at herio Gwlad Belg yn y rownd go-gynderfynol.

Mae’r triawd hefyd yn trafod system werthu tocynnau UEFA yn ystod y bencampwriaeth, y gefnogaeth newydd i dîm Cymru, a’r holl fanzones sy’n cael eu paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Wener.

Sut mae curo Gwlad Belg?

Cyhoeddwyd Mehefin 28, 2016 gan Owain Schiavone.


Mae gan Chris Coleman record dda gyda Chymru'n erbyn Gwlad Belg
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y gêm fwyaf (unwaith eto) yn hanes y tîm rhyngwladol, Owain Schiavone sy’n ystyried sut mae tîm Chris Coleman yn mynd ati i guro cewri Gwlad Belg.

Nhw ydy’r ail dîm gorau yn y byd yn ôl rhestr detholion FIFA, mae ganddyn nhw dîm yn llawn sêr sy’n gyfarwydd i bob cefnogwr pêl-droed, ac maen nhw newydd ennill eu gêm rownd 16 olaf Ewro 2016 yn gyfforddus o 4-0.

Sut yn y byd all Cymru guro Gwlad Belg felly? Dyna’r cwestiwn sydd ar wefusau pob Cymro sy’n dilyn anturiaethau tîm Chris Coleman, boed nhw ar y goets ers blynyddoedd neu wedi neidio arni’n fwy diweddar.

Fydd hi ddim yn hawdd yn Lille nos Wener, ond y newyddion cadarnhaol ydy mai rheolwr Cymru ydy un o’r ychydig rai mewn cof diweddar sy’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw.

Y Bygythiad

Mae gan Wlad Belg chwaraewyr o safon ym mhob rhan o’r cae. Mae ganddyn nhw opsiynau di-rif yng nghanol cae ac yn yr ymosod yn enwedig a gallai eu rheolwr Marc Wilmots ddewis dau dîm gwahanol fyddai’n cyrraedd yn reit bell yn y gystadleuaeth.

Er hynny, ers eu canlyniad siomedig yn erbyn Yr Eidal yn y gêm gyntaf, mae’r tîm wedi bod yn weddol sefydlog. Mae Nainggolan a Witsel yn bartneriaeth gadarn yng nghanol cae sy’n gosod sylfaen i Hazard a De Bruyne greu eu hud a lledrith.

Mae’r cawr Romelu Lukaku yn bresenoldeb bygythiol yn yr ymosod, ac mae opsiynau ar y fainc yn ymosodwr Lerpwl, Origi, a Batshuayi a sgoriodd gyda’i gyffyrddiad cyntaf yn erbyn Hwngari nos Sul.

Mae ganddyn nhw un o’r hanner dwsin o olwyr gorau yn y byd yn Thibaut Courtois, ac mae Alderweireld a Vertonghen ill dau wedi cael tymor ardderchog yn amddiffyn Spurs.

Digon i dîm hyfforddi Cymru bendroni yn ei gylch felly, ond heb amheuaeth yr allwedd fydd cadw Hazard, De Bruyne a Lukaku yn dawel gyda’r ddau gyntaf yn ardderchog yn erbyn Hwngari.

Y Tactegau

Mae Cymru’n gyfarwydd iawn â Gwlad Belg wedi iddyn nhw rannu’r un grŵp yn y ddwy ymgyrch ragbrofol ddiwethaf. Fe gollodd Cymru’r cyntaf o’r bedair gêm yn eu herbyn o 2-0 yng Nghaerdydd, cyn sicrhau dwy gêm gyfartal oddi-cartref (1-1 a 0-0), ac yna wrth gwrs y fuddugoliaeth gofiadwy honno o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym Mehefin llynedd.

Er bod Coleman yn weddol ffyddlon i’w hoff chwaraewyr a system, mae wedi addasu tipyn ar ei dîm yn y gemau’n erbyn Gwlad Belg. Defnyddiodd ei system 5-3-1-1 mwyaf cyfarwydd yn y fuddugoliaeth llynedd, ond 4 yn y cefn a llenwi canol y cae oedd ei ddewis yn y gêm gyfartal 0-0, sef o bosib perfformiad amddiffynnol gorau Cymru mewn blynyddoedd diweddar.

Dwi ddim yn gweld Coleman yn newid ei system 5 yn y cefn ond bydd rhaid i’r amddiffyn fod yn ddisgybledig a chyfathrebu’n dda er mwyn delio â symudiad a chyfnewid Hazard a De Bruyne.

Gwrth ymosod ydy cryfder Cymru, a dyna fydd tacteg Coleman – amddiffyn yn dynn a defnyddio’r arfau gwrth-ymosodol yn y tîm i achosi problemau i amddiffyn Gwlad Belg, sydd ag ambell broblem ar hyn o bryd.

Wedi dweud hynny, mae’n bwysig nad ydy’r amddiffyn yn eistedd yn rhy ddwfn fel y gwnaethon nhw’n yr ail hanner yn erbyn Lleogr. Dwi’n credu mai y gofid ynglŷn â gadael lle i Vardy ai gyflymder oedd y rheswm am hynny, a fydd Lukaku ddim yn peri’r un math o fygythiad.

Y Cyfle

Os fydd Cymru’n chwarae’n agos at y ffordd y gwnaethon nhw’n erbyn Rwsia, mae cyfle gwirioneddol. Fe gododd bawb eu gêm y noson honno, ac roedd y tactegau’n berffaith gan Chris Coleman.

Er tegwch i Rwsia, roedden nhw’n ceisio chwarae’n ymosodol gyda’r cefnwyr yn enwedig yn awyddus i ymosod. Yn anffodus iddyn nhw, roedd hynny’n chwarae’n syth i ddwylo Cymru gan adael gofod i Bale a Ramsey greu difrod.

Bydd hyder Gwlad Belg yn uchel, a byddan nhw’n awyddus i dalu’r pwyth un ôl i Gymru am y golled llynedd felly disgwyliwch iddyn nhw fynd amdani o’r funud gyntaf. Os all Cymru ail-adeiladu’r wal amddiffynnol gadarn honno oedd yn sylfaen mor bwysig i’w hymgyrch ragbrofol yna mae cyfle i’n chwaraewyr ymosodol eu brifo nhw.

Mae gan Wlad Belg broblemau sylweddol yng nghanol eu hamddiffyn. Mae eu capten dylanwadol, Vincent Kompany, wedi colli Ewro 2016 yn gyfan gwbl oherwydd anaf. Fe welodd ei eilydd, Thomas Vermaelen, ail gerdyn melyn o’r bencampwriaeth yn erbyn Hwngari sy’n golygu ei fod yntau allan o’r gêm yn erbyn Cymru hefyd.

Mae’n debyg y bydd Jan Vertonghen yn symud i mewn o’r chwith i ganol yr amddiffyn at ei gyfaill yn Spurs, Toby Alderweireld. Mae hynny’n gadael bwlch yn safle’r cefnwr chwith –Jordan Lukaku ydy’r unig gefnwr chwith naturiol i lenwi’r bwlch yma, ond gyda dim ond 4 cap mae’n ddi-brofiad. Dyma ardal bosib i Gymru ei thargedu.

Roedd y sgôr terfynol swmpus yn erbyn Hwngari yn gamarweiniol, ac fe achosodd y gwrthwynebwyr broblemau ar adegau i amddiffyn Gwlad Belg. Roedd y bêl olaf, ac yr ychydig bach o safon ymosodol yn eisiau gan Hwngari ond mae gan Gymru sêr go iawn yn Bale a Ramsey ac os fyddan nhw’n tanio…

Y Personél

Mae Chris Coleman wedi bod yn barod iawn i newid ei ymosodwyr ym mhob gêm hyd yma gyda Jonny Williams, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes i gyd yn dechrau gemau yn yr ymosod. Vokes sydd wedi dechrau’r ddwy gêm ddiwethaf, ond dwi’n reit siŵr y gwelwn ni newid eto nos Wener.

Fel arall, heblaw am Danny Ward yn dechrau’n lle’r anafedig Hennessey yn erbyn Slofacia, a Dave Edwards yng nghanol cae yn lle Ledley yn yr un gêm, mae Coleman wedi cadw’nn ffyddlon i’w hoff chwaraewyr.

Ond, ar ôl perfformiad eithaf swta yn erbyn Gogledd Iwerddon, fydden i’n synnu dim gweld cwpl o newidiadau i’r tîm sy’n dechrau’n erbyn Gwlad Belg.

Rhaid ystyried sut i ddelio â Hazard. Er mawr syndod, fe ddewisodd Coleman at Jazz Richards ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd flwyddyn yn ôl, ac fe wnaeth yntau waith gwych yn marcio seren Chelsea. Tybed a fydd Coleman yn cael ei demptio i droi at Richards eto fel cefnwr de a symud Gunter i’r chwith ble mae Taylor wedi bod yn anghyson?

Roedd Ledley’n edrych yn flinedig yn erbyn Gogledd Iwerddon, ac efallai bod angen coesau fresh Dave Edwards neu King wrth ochr Allen yng nghanol cae gan ddefnyddio Ledley o’r fainc am yr 20 munud olaf.

A phwy fydd yn dechrau yn yr ymosod? Fe newidiodd Jonny Williams y gêm ar ôl dod o’r fainc ddydd Sadwrn a byddai ei redeg twyllodrus yn siŵr o achosi problem i amddiffynwyr mawr Gwlad Belg, gan orfodi troseddau a chiciau rhydd. Tydi chwarae fel ymosodwr ddim bob amser yn cael y gorau o dalent Gareth Bale, ond fe allai Coleman ofyn iddo wneud job i’w dîm unwaith eto nos Wener.

Cyrraedd Ewro 2016 oedd y fuddugoliaeth fawr i Gymru, ac roedd unrhyw ganlyniad ar ôl cyrraedd y bencampwriaeth yn fonws. Wedi dweud hynny, rydan ni bellach yn yr wyth olaf ac yn herio tîm y gwnaethon ni eu curo 12 mis yn ôl…mae gennym hawl i freuddwydio.

Rhedeg i Paris ar ôl gwyrth Toulouse

Cyhoeddwyd Mehefin 23, 2016 gan Pêl-droed.

Tagiau: Ewro 2016, tîm pêl-droed Cymru


Ein criw ni o Gymry a thîm pêl-droed Ambazac ar ôl y gêm gyfeillgar
Nid jyst yma yn yr Ewros am barti y mae Cymru bellach, yn ôl Iolo Cheung, sydd wedi bod yn dilyn y tîm o gwmpas Ffrainc fel miloedd o gefnogwyr eraill…

Bron yn syth wedi’r chwiban olaf roedden ni eisoes yn dechrau clywed gan ffrindiau nôl yng Nghymru oedd i gyd â’r un cwestiwn – ‘oes gennych chi dal docyn sbâr ar gyfer Paris ddydd Sadwrn?!’

Os mai’r pryder cyn gêm nos Lun oedd y gallai Cymru fod yn ffarwelio ag Ewro 2016 ar ôl dim ond deg diwrnod petai pethau’n mynd o chwith, roedd teimladau wedi’u trawsnewid erbyn y diwedd i orfoledd ac anghrediniaeth.

Oedd, roedd Rwsia’n dîm gwael, ond dyna hefyd oedd y gorau dw i erioed yn cofio gweld Cymru’n chwarae yn yr holl amser dw i wedi gwylio’r tîm cenedlaethol.

Doedd y sgôr 3-0 ddim yn gwneud cyfiawnhad â’r gêm, gyda’r crysau cochion yn rheoli’n gyfan gwbl – fe allai hi’n hawdd wedi bod yn chwech neu saith erbyn y diwedd.

A dyna oedd un o’r pethau gorau am y gêm nos Lun – o dan bwysau, gyda’r tîm angen achub eu crwyn ar ôl y golled siomedig yn erbyn Lloegr, fe wnaethon nhw ymateb yn y ffordd orau bosib.

Cafodd Ramsey ei gêm orau dros Gymru ers blynyddoedd, roedd Bale yn fygythiad drwy gydol y gêm o’r diwedd, ac fe ddangosodd Joe Allen reolaeth lwyr o faterion yng nghanol cae.

Pob clod i gefnogwyr Cymru hefyd oedd yno unwaith eto yn eu miloedd, gan floeddio canu heb saib drwy gydol yr ornest, a’r dathlu’n parhau tu allan i’r maes wedi’r chwib olaf hefyd:

Beth nesaf?

Mae’r sylw bellach wedi troi at rownd yr 16 olaf, a’r gwrthwynebwyr i Gymru yn stadiwm y Parc des Princes ddydd Sadwrn fydd Gogledd Iwerddon.

Cyfartal o 1-1 orffennodd hi rhwng y ddau dîm mewn gêm gyfeillgar nôl ym mis Mawrth, ond roedd hynny heb Bale na Ramsey a chyda Joe Allen hefyd yn gwylio’r rhan fwyaf o’r gêm o’r fainc, felly gall y crysau cochion ystyried eu hunain yn ffefrynnau ar gyfer hon.

Y newyddion gwell o ran materion ar y cae yw bod ennill y grŵp wedi gosod Cymru yn hanner ‘neisiaf’ y twrnament.

Mae Sbaen, yr Almaen, Lloegr, Ffrainc a’r Eidal i gyd yn yr hanner arall (cymrwch gip ar eich siart wal wedi’i ddiweddaru am esboniad gweledol) sy’n golygu na fyddai posib i ni eu hwynebu nhw tan y ffeinal.

Gwlad Belg neu Hwngari fyddai ein gwrthwynebwyr yn rownd yr wyth olaf os ydyn ni’n fuddugol ym Mharis ar y penwythnos, a’r timau eraill yn ein hanner ni ydi Gwlad Pwyl, Swistir, Croatia a Phortiwgal.

Mae cefnogwyr Cymru wedi arfer meddwl yn besimistaidd, a hynny ar ôl degawdau o wylio’r tîm yn rhoi digon o reswm iddyn nhw deimlo felly.

Ond rydyn ni eisoes wedi dangos ein bod ni yma yn Ffrainc nid jyst am y parti, ond i gystadlu hefyd, felly beth am ddechrau breuddwydio tra ‘dan ni wrthi? Pryd arall gawn ni gyfle i wneud hyn?!

Rhedeg i Paris

Mae llawer wrthi’n gwneud union hynny eisoes wrth gwrs, ac fel dw i ‘di crybwyll eisoes, prin allwch chi droi ar y cyfryngau cymdeithasol heb weld negeseuon gan y byd a’i betws yn trefnu tripiau munud olaf i Baris.

Mi fydd prifddinas Ffrainc yn fôr o goch ymhen tridiau, a pharth y cefnogwyr yn gorlifo â Chymry yno i ymuno yn y parti ond heb lwyddo i gael tocyn prin ar gyfer yr ornest fawr.

Allai ond ddychmygu sut mae’r cyffro nôl adref yn teimlo, wrth i’r wlad gyfan gael eu hysbrydoli gan y genhedlaeth aur sydd o’r diwedd wedi rhoi llwyfan i bêl-droed Cymru.

Hyd yn oed allan fan hyn yn Ffrainc, mae trigolion lleol a chefnogwyr gwledydd eraill yn gweld y Ddraig Goch ar ein camper neu’r crysau coch sydd amdanom ac yn gweiddi llongyfarchiadau ac anogaeth.

Mae’n anhygoel sut y mae’r twrnament yma eisoes wedi rhoi Cymru a’r iaith ar y map, ac fe groeswn bopeth y gwnaiff ein siwrne anhygoel barhau y tu hwnt i’r dyddiau nesaf.

Cymru v Ambazac

Un o’r atgofion melysaf sydd gennym ni o’n trip ni hyd yn hyn oedd ein hymweliad â thref Ambazac, reit yng nghanol Ffrainc rhyw hanner ffordd rhwng Paris a Toulouse.

Mae gan un o’r hogiau berthnasau yno, ac wrth aros yno ar ein taith i lawr i’r de fe drefnon ni gêm gyfeillgar â’r tîm pêl-droed lleol.

Cawsom groeso cynnes iawn, er dw i’n siŵr bod trigolion Ambazac yn pendroni beth yn y byd oedd yn mynd ymlaen pan rowliodd pump campyrfan i mewn i’r dref yn llawn Cymry swnllyd.

Fe orffennodd y gêm ei hun yn 10-7 i’r tîm cartref, gyda’r ymwelwyr yn ildio’r rhan fwyaf o’r goliau yn yr ail hanner wrth i’r gwres llethol flino sawl un.

Cafwyd noson gofiadwy wedi hynny fodd bynnag, gyda’r Ffrancwyr yn ein gwahodd ni i far y clwb am sawl diod wedi’r gêm, cyn taro draw i un o dafarndai’r dref am bryd o fwyd tri chwrs a rhagor o firi.

Fe barhaodd y canu ymhell i’r nos, gyda’r Ffrancwyr yn cael gwledd o ganeuon Cymreig a ninnau yn ein tro yn dysgu ambell un o’u rhai nhw.

Roedden nhw hyd yn oed wedi cyflwyno tlws arbennig i ni er mwyn nodi’r achlysur, ac fe gawson nhw faner Cymru wedi’i arwyddo gan bob un ohonom i’w roi ar y wal yn y clwb.

Merci beaucoup, Ambazac – mae sôn eisoes am drip nôl i Gymru i’n herio ni eto rywbryd yn y dyfodol!

Byw’r freuddwyd – ond y bygythiad dal yno

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2016 gan Y Blog Pêl-droed.

Tagiau: blog, Ewro 2016, Iolo Cheung, tîm pêl-droed Cymru


Torri syched yn Bordeaux Llun: Delyth Teifi
Dw i’n sgwennu’r blog yma mewn campervan wrth i ni deithio o La Rochelle i Tours drwy ganol cefn gwlad Ffrainc – ac mae’n anodd weithiau credu ein bod ni wir yma.

Nid mod i’n gwybod beth i’w ddisgwyl wrth i’n criw ni o ffrindiau ddilyn Cymru yn Ewro 2016 wrth gwrs, gan nad ydan ni erioed wedi gwneud hyn o’r blaen!

I ni mae’r trip wedi dod mewn dwy ran hyd yn hyn, wrth i ni ddechrau trwy wibio lawr nos Wener o’r fferi cyn treulio’r penwythnos yng nghanol y wefr Gymreig anhygoel yn Bordeaux.

Bellach ‘dyn ni’n ymlwybro’n ffordd yn hamddenol tuag at Baris, gan stopio mewn ambell le ar y ffordd i ymlacio ar y traeth neu gael blas o hanes (os ‘dych chi’n teithio’r arfordir gorllewinol rhwng Bordeaux a Llydaw, mae’n werth picio draw i weld cofeb Owain Lawgoch ym mhentref Mortagne-sur-Girond).

Mae’n braf taro mewn i gymaint o Gymry eraill hefyd, ble bynnag ‘dyn ni’n mynd – bron na allech chi droi yn Bordeaux heb weld rhywun roeddech chi’n ei nabod.

‘Bydd hi fel ‘steddfod yno’ oedd y frawddeg gyfarwydd cyn mynd yno – ac ar ôl gweld y gwin a’r cwrw yn llifo’n rhwydd gyda’r nos, a chanu’r Cymry yn cael ei ganmol i’r cymylau, dw i ddim am ddadlau â hynny!

Hal yn codi’r to

Allai pethau ddim fod wedi mynd yn llawer gwell i Gymru ar y cae, chwaith, hyd yn hyn.

Ar ôl 58 mlynedd o aros, bron i ymddangosiad cyntaf Cymru yn Ewro 2016 fynd ar chwâl o fewn pum munud cyntaf yr ornest agoriadol yn erbyn Slofacia wrth i Marek Hamsik ddawnsio heibio i’r amddiffyn, cyn canfod Ben Davies ar y llinell yn barod i achub y dydd.

Ond roedd yr hyder yn amlwg yn llifo trwy wythiennau Gareth Bale wrth iddo dwyllo’r golwr gyda chic rydd glyfar i ochr bellaf y gôl, nid yn annhebyg i’r un a rwydodd yn erbyn Serbia yn y golled 6-1 yng nghanlyniad gwaethaf cyfnod Chris Coleman fel rheolwr.

O’r isafbwynt i’r uchafbwynt – a hynny’n adlewyrchu siwrne Cymru ar y cae pêl-droed dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Fe barhaodd y dorf i ganu a chadw sŵn drwy gydol y gêm – oni bai am y deng munud nerfus ar ôl i Slofacia sgorio – ac roedd hi’n wych gallu canu Calon Lân a Hen Wlad Fy Nhadau a gwybod y byddai’r caneuon Cymraeg hynny hefyd yn atseinio i’r gwylwyr gartref, ble bynnag yn y byd yr oedden nhw.

Yn wir, bron yn syth wedi i ni ganu’r anthem unwaith eto gyda rhyw chwarter awr i fynd, fe wthiodd Cymru eu ffordd i fyny’r cae ac roedd Hal Robson-Kanu yn y lle iawn ar yr adeg iawn i sicrhau’i le yn y llyfrau hanes.

Fe aethon ni drwy bob emosiwn yn ystod y gêm honno, ond wrth i’r chwiban olaf chwythu gallai’r selogion hynny fu’n gwylio Cymru’n colli mewn pob math o ffyrdd trychinebus ddweud nid yn unig ein bod ni wedi’i ‘gwneud hi’ o’r diwedd, ond wedi ennill hefyd.

Pwysau ar Loegr

Ymlaen a ni felly at yr ornest yn erbyn Lloegr ddydd Iau, gyda’r pwysau yn llwyr oddi ar ysgwyddau’r Cymry gan mai nhw ydi’r unig dîm o’r pedwar yng Ngrŵp B sydd â thri phwynt hyd yn hyn.

Mae’r crysau cochion eisoes yn gwybod hynny, a dyna pam ‘dan ni wedi gweld Coleman a Bale yn tynnu coes a cheisio herio’r Saeson yn barod yn eu cynadleddau i’r wasg yr wythnos hon.

Dyw’r un peth ddim yn wir am y Saeson – pan mae Bale yn dweud na fyddai’r un o chwaraewyr Lloegr yn cael lle yn nhîm Cymru, ‘dych chi’n gwybod ei fod o’n dweud hynny â’i dafod yn ei foch.

Ond roedd tinc tipyn mwy penderfynol yn lleisiau Roy Hodgson a Jack Wilshere wrth iddyn nhw ddweud pethau tebyg, gan na allen nhw fforddio dweud hynny yn unig – mae’n rhaid iddyn nhw’i brofi hefyd.

Byddai gêm gyfartal yn ganlyniad gwych i Gymru bellach, un fyddai’n eu cadw ar frig y grŵp a mwy neu lai yn cadarnhau lle yn y rownd nesaf.

Ond i Loegr fe fyddai’n drychineb – er y bydden nhw dal drwyddo petaen nhw’n ennill eu gêm olaf – gyda’r pwysau’n cynyddu ar dîm fyddai wedi methu ag ennill yr un o’u dwy gêm gyntaf mewn grŵp gymharol ‘hawdd’.

Bydd tipyn llai o Gymry yn y stadiwm yn Lens o’u gymharu â Bordeaux dw i’n amau – ond mi allwch chi ddisgwyl i’r rheiny fydd yno gadw digon o sŵn unwaith eto wrth obeithio am ganlyniad hanesyddol arall.

Bygythiad Rwsia

O sôn am y gêm honno fodd bynnag, mae’r cwestiwn diogelwch yna wedi codi’i ben unwaith eto’n anffodus i ni’r cefnogwyr.

Cyn teithio i Ffrainc ar gyfer yr Ewros, brawychiaeth oedd y bygythiad mawr oedd yn cael ei drafod, gyda’r awdurdodau yn cynyddu’u presenoldeb ar gyfer y gystadleuaeth.

Bellach trafferthion cefnogwyr Lloegr a Rwsia sydd ar frig yr agenda, gyda’r golygfeydd a welsom ni yn Marseille yn peri gofid i unrhyw un ar gyfer y ddwy gêm grŵp sydd gennym ni’n weddill.

Gobeithio na fydd gormod o drwbl yn Lens, wrth i ni a nifer o gefnogwyr eraill deithio ar fysys fydd yn mynd â ni’n syth i’r gêm ac yn dychwelyd i Baris ar ôl y chwiban olaf.

Mae cefnogwyr Lloegr hefyd wedi cael eu rhybuddio gan y byd a’i betws – gan gynnwys UEFA – y bydd rhagor o gamymddwyn yn cael ei gosbi, ac fe fydd cael cic gyntaf am 3yp yn lleihau’r nifer fydd wedi gor-yfed cyn y gêm.

Ond fe allai pethau fynd yn flêr yn Lille hefyd, gyda llawer o Gymry a Saeson yn aros yno’r diwrnod cyn y gêm a chefnogwyr Rwsia a Slofacia hefyd yno ar gyfer eu gornest hwythau ddydd Mercher.

Mae’r adroddiadau am hwliganiaid Rwsia hyd yn oed yn fwy erchyll na rhai Lloegr, ac mae’n rhyddhad i glywed UEFA’n dweud y byddan nhw’n cael eu diarddel o’r gystadleuaeth os oes rhagor o drafferthion.

Os ‘dach chi o gwmpas Lille a Lens fory a dydd Iau, arhoswch yn saff ac osgowch unrhyw drafferthion.

Pod Pêl-droed Ewro 2016 – O Bordeaux

Cyhoeddwyd Mehefin 13, 2016 gan Pêl-droed.

Tagiau: Bordeaux, Ewro 2016, pod pêl-droed, tîm pêl-droed Cymru


Yng nghanol bwrlwm y dathliadau yn Bordeaux, fe lwyddodd criw pêl-droed golwg360 i ddod o hyd i’w gilydd i drafod buddugoliaeth Cymru yn eu gêm gyntaf ddydd Sadwrn yn erbyn Slofacia.

Yn ymuno ag Owain Schiavone ac Iolo Cheung mae Dafydd Morgan, wrth iddyn nhw ddadansoddi’r fuddugoliaeth 2-1 sy’n sicrhau bod Cymru ar y ffordd.

Mae sylw hefyd i ddathliadau’r cefnogwyr, gyda’r wasg Ffrengig yn canmol ymddygiad cefnogwyr Cymru o gymharu â helynt cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn Marseille, lle mae UEFA wedi bygwth eu gwahardd o’r bencampwriaeth os bydd eu hymddygiad yn parhau.

Mae’r tri hefyd yn trafod gobeithion Cymru wrth iddyn nhw herio Lloegr yn Lens dydd Iau (16 Mehefin).

Gallwch wrando hefyd ar gyfres fer o bodlediadau yn canolbwyntio’n unigol ar wrthwynebwyr Cymru yn eu gemau grŵp – ac mae modd eu lawrlwytho i’ch dyfais symudol.