RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Pwy sy’n mynd i lle yn Uwch Gynghrair Cymru


Mae’r cyfnod gwallgo’ gyda ni eto – y ffenestr drosglwyddo bêl-droed. Mae’n amser lle mae gohebwyr yn holi rheolwyr, creu sïon… ac erbyn diwedd Ionawr mae ffair fawr ar y teledu o ohebwyr y tu allan i lawer o stadiymau, a chefnogwyr yn gwneud lol.

Felly, be’ sy’n debygol o ddigwydd y mis yma?

Yn Uwch Gynghrair Cymru mae symudiadau wedi digwydd yn barod. Y stori fawr ei fod arwr Bangor, Sion Edwards, wedi symud i’r Rhyl ar fenthyg tan ddiwedd y tymor. Dydi Sion Edwards heb chwarae llawer y tymor hwn, felly symudiad da i’r ddau barti.

Mae chwaraewr canol cae Y Rhyl, Rob Hughes, yn sumud ‘down under’ i Awstralia, ac mae Ashley Young oedd ar fenthyg o Fangor yn gadael y clwb oherwydd ei waith.

Lawr yn y canolbarth, mae cyn-chwaraewr Port Talbot yn gadael Aberystwyth am Lanelli, gyda theulu ifanc oedd yn teimlo bod y teithio’n ormod. Mae Aber hefyd wedi arwyddo’r chwaraewr dawnus Jon Owen o Landudno. Mae Aber wedi arwyddo cyn chwaraewr Bangor Lee Healey ac Elliot Scotcher o Ferthyr, yn amlwg doedd y rheolwr Mathew Bishop ddim yn hapus efo’i garfan.

Mae Llandudno wedi bod yn brysur, gyda’r amddiffynnwr Nathan Peate yn symud i’r Derwyddon yng Nghefn Mawr. Ac mae rheolwr y Derwyddon, Huw Griffiths, yn brysur yn ceisio eu cadw nhw yn y gynghrair. Mae Filippo Mosetti Casaretto wedi glanio o ‘Serie D’ yr Eidal, ac mae wedi llwyddo i estyn cytundeb Corey Roper o Wrecsam tan ddiwedd y tymor.

Mae newyddion da i gefnogwyr Y Bala gyda Stuart Jones yn arwyddo cytundeb – er mai yr ha’ diwetha’ y cyrhaeddodd o.

Yn sicr gyda Phrestatyn a Chaernarfon yn brwydro am ddyrchafiad i’r gynghrair, mi fydd hi’n werth cadw golwg ar symudiadau yn y ddau glwb yma hefyd. Gwyliwch y gofod hwn am fwy o drosglwyddiadau yn y dyddiau ac wythnosau nesa’ cyn y diwrnod mawr ddiwedd y mis…

BLOG: Canlyniadau – nid iaith – fydd yn achub yr Elyrch


Bob Bradley, Americanwr
Does dim dwywaith fod Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael ei Americaneiddio dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Mae gan yr Elyrch Jason Levien a Steve Kaplan yn berchnogion ers yr haf, ac roedd rhai yn dweud bryd hynny ei bod yn anochel y deuai rheolwr o’r Unol Daleithiau yn eu sgil.

Daeth y broffwydoliaeth honno’n wir ddechrau mis Hydref gyda dyfodiad cyn-reolwr tîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Bob Bradley i Stadiwm Liberty.

Fe ddywedais i bryd hynny y byddai diswyddo’r Eidalwr, Francesco Guidolin, yn benderfyniad hallt o ystyried bod yr Elyrch wedi gorfod herio Man City ddwywaith, Chelsea a Lerpwl mor gynnar yn y tymor. A dw i’n dal i gredu hynny. Does ond angen edrych ar dabl yr Uwch Gynghrair i weld nad yw Bradley wedi cael y dechrau gorau i’w deyrnasiad.

Yn ei 10 gêm wrth y llyw hyd yma, mae Bradley wedi arwain yr Elyrch i ddwy fuddugoliaeth – yn erbyn Crystal Palace a Sunderland – ac wedi cael dwy gêm gyfartal. Ar sail y canlyniadau hynny’n unig y dylai gael ei feirniadu. All neb ddisgwyl llai gan y cefnogwyr na’r cyfryngau ar ôl dechrau mor siomedig. Ond mae ei feirniadu ar sail ei acen, ei dafodiaith ac, yn bennaf oll, ei derminoleg yn hollol hurt.

Ac eithrio’r rheolwr dros dro Alan Curtis a Kenny Jackett (oedd yn gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd bod ei dad yn Gymro), Brian Flynn oedd y Cymro diwethaf i fod yn rheolwr ar yr Elyrch. Yn y naw mlynedd ers iddo adael ei swydd, mae’r Elyrch wedi penodi rheolwyr o Sbaen, Portiwgal, Denmarc a’r Eidal, a’r un ohonyn nhw â Saesneg yn iaith gyntaf.

Ond yr unig un y galla i gofio amdano’n cael ei feirniadu ar sail ei acen, ei dafodiaith neu ei derminoleg yw’r Americanwr Bob Bradley. Yr unig reswm am hynny yw fod Abertawe wedi tangyflawni’r tymor hwn, a bod ymdeimlad cryf ymhlith y cefnogwyr fod y clwb wedi cael ei Americaneiddio y tu hwnt i bob synnwyr.

Tasai’r Elyrch yn hanner uchaf tabl yr Uwch Gynghrair lle maen nhw wedi haeddu bod dros y tymhorau diwethaf, fyddwn i ddim yma nawr yn amddiffyn un o reolwyr Abertawe eto fyth. Fyddai’r ddadl hon ynghylch acen, iaith a thafodiaith jyst ddim yn deilwng o sylw.

Ar ôl i Bob Bradley gyfeirio at gic o’r smotyn fel ‘PK’ (talfyriad o ‘penalty kick’) a gêm oddi cartref ym Middlesbrough fel ‘road game’ yn hytrach nag ‘away game’, aeth y cyfryngau cymdeithasol yn fwy gwyllt nag arfer. Am nonsens!

Fel y dywedodd e mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Iau, mae e wedi rheoli timau mewn sawl gwlad, a’r termau ym mhob un ohonyn nhw ychydig yn wahanol i’w gilydd. Fe gyfeiriodd, wrth orfod amddiffyn ei hun, at ‘offensive marking’ sy’n cael ei arddel yn Norwy, a diffyg dealltwriaeth y Ffrancwyr o’r term ‘clean sheet’. Eironi’r sefyllfa yw fod Bradley yn amlwg yn deall ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr amryw ieithoedd sydd gyda ni yn y byd yma.

Ac fe gafodd hynny ei danlinellu wrth iddo fe ddechrau’r gynhadledd i’r wasg drwy ddymuno ‘Nadolig Llawen’ i ni. Felly mae beirniadu Bob Bradley am fod yn rhy Americanaidd yn dangos anwybodaeth llwyr.

Yn wir, mae’r Wall Street Journal yr wythnos hon wedi mynd mor bell ag awgrymu bod Bradley yn fwy ‘Prydeinig’ ei iaith na rhai o reolwyr eraill yr Uwch Gynghrair. Daw’r sylwadau hynny ar sail ymchwil maen nhw wedi’i wneud wrth astudio pob un o gyfweliadau’r Americanwr cyn ac ar ôl gemau – dros bedair awr o ddeunydd.

Mae’r papur yn cyfeirio at ei ddefnydd o ‘clean sheet’ (ac nid ‘shutout’), ‘dressing room’ (yn lle ‘locker room’), ‘supporters’ (yn lle ‘fans’) a ‘training’ (ac nid ‘practice’). Yn bennaf oll, dyw’r gair ‘soccer’ ddim wedi dod o’i enau unwaith! Iawn ocê, mae e’n ynganu ‘premier’, meddai’r Wall Street Journal, fel ‘preMEER’ – ond oes gwir ots?

Pwy, tybed, sy’n cofio cymeriad Paul Whitehouse, Julio Geordio ar y teledu? Mae gwrando ar ambell reolwr yn fy atgoffa o’r sgets lle mae Whitehouse yn dychanu’r chwaraewyr niferus o dramor sy’n dod i’r Uwch Gynghrair heb fawr o Saesneg, ac eithrio ambell air doniol. Fe ellid, dw i’n siŵr, greu sgets yn yr un modd ar gyfer rhai o reolwyr yr Uwch Gynghrair.

Roedd Mauricio Pochettino yn dibynnu ar gyfieithydd am flwyddyn gyfan tra roedd e’n rheolwr ar Southampton. Roedden ni, yn Abertawe, yn eistedd wythnos ar ôl wythnos, yn gwrando ar Saesneg fratiog Francesco Guidolin, oedd hefyd yn dibynnu ar ei gynorthwyydd Gabriele Ambrosetti i fod yn gyfieithydd ar adegau.

Rai blynyddoedd yn ôl, fe gynhaliodd Michael Laudrup gynhadledd i’r wasg yn dairieithog – Saesneg, Sbaeneg a Daneg – ac yntau’n symud yn rhwydd rhwng bob un. Mae’r amrywiaeth a chyfoeth sydd i’w gael yn y byd pêl-droed i’w groesawu. Mae’r feirniadaeth yn ddi-angen.

Yn ysbryd Bob Bradley a’i hoffter amlwg o ieithoedd, dyma ddymuno hwyl yr ŵyl i chi yn ieithoedd y gwledydd lle bu’r Americanwr yn gweithio:

‘Mboni Chrismen’ (Eifftaidd)

‘Joyeux Noël’ (Ffrangeg)

‘Gledelig Jul’ (Norwyeg)

….A ‘Merry Christmas’ (os oes raid).

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda – gan obeithio am fwy o lwyddiant i’r Elyrch (a llai o sylw i Americanebau) yn 2017.

Guidolin yn haeddu mwy o amser

Cyhoeddwyd Medi 30, 2016 gan Pêl-droed.

Tagiau: Alun Rhys Chivers, CPD Abertawe, Franceso Guidolin


Francesco Guidolin
Gyda’r sïon am fwriad i ddiswyddo’r rheolwr yn dew, Alun Rhys Chivers sy’n cynghori Abertawe i ymbwyllo wrth …

Fel cefnogwr pêl-droed Abertawe, mae’n anodd peidio mynd i ramantu ynghylch pa mor bell mae’r clwb wedi dod dros y degawd diwethaf. Ond union ddeng mlynedd i’r penwythnos hwn, fe gollodd yr Elyrch i Notts Forest yn yr Adran Gyntaf.

Pan gafodd y clwb eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair yn 2011, roedd Leon Britton ymhlith yr ychydig chwaraewyr o 2006 oedd dal yn y garfan. Roedd e erbyn hynny’n cael ei ystyried yn un o’r mawrion yn hanes Abertawe ac yn un o’r enwau i’w gynnwys yn awtomatig yn y tîm.

Mae’n amlwg nad oedd y rheolwr presennol Francesco Guidolin wedi darllen y llyfrau hanes ar ôl cael ei benodi. Fe gyfaddefodd sawl wythnos yn ôl nad oedd e’n ymwybodol o bwysigrwydd y chwaraewr lleiaf – ond y dylanwad mwyaf – ar y cae. Mae e’n sylweddoli hynny bellach, ond a yw’n rhy hwyr i’r Eidalwr?

Mae Guidolin bellach yn ei ganfod ei hun mewn sefyllfa lle mae angen, o bosib, i Abertawe guro Lerpwl er mwyn iddo achub ei swydd. Pwy fuasai wedi meddwl hynny ddeng mlynedd yn ôl? Rhyfedd o fyd….

Ond mae deuoliaeth yma. Oes, mae angen canlyniad da yn erbyn Lerpwl. Does dim amau hynny. Ond mae’r union ffaith fod perchnogion yr Elyrch yn gallu defnyddio gêm yn erbyn Lerpwl i roi pwysau ar y rheolwr yn dyst i ba mor bell mae’r clwb wedi dod, a hefyd i’r canlyniadau da gafodd Abertawe yn erbyn prif glybiau’r Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd.

Guidolin heb gael parch

Ond rhaid dweud cyn mynd dim pellach nad yw’r clwb wedi trin yr Eidalwr â pharch. Fe fu gan Huw Jenkins a’i griw enw da am ddewis rheolwyr dros y blynyddoedd. Ond does ganddyn nhw ddim cystal enw am drin eu rheolwyr yn y modd gorau posib. Does ond angen gofyn i Garry Monk a Michael Laudrup. Cafodd y naill ei ddiswyddo mewn sefyllfa debyg i Guidolin, ond roedd yntau hefyd yn un o fawrion y clwb ac roedd ei ddiswyddo’n cael ei ystyried gan rai yn weithred o fradychu arwr. Roedd yr honiad fod Laudrup wedi clywed am ei ddiswyddo ar y teledu yn waeth fyth.

Yn achos Guidolin, mae e’n parhau dan bwysau tra bod adroddiadau bod y cyfarwyddwyr eisoes wedi cynnal trafodaethau â Bob Bradley am y posibilrwydd o’i olynu. Fe fu adroddiadau dros gyfnod o ddiwrnodau hefyd fod Ryan Giggs ar ei ffordd i Abertawe.

Ond mae Guidolin yn mynnu ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar y tîm a sicrhau bod perfformiadau’n gwella ar y cae. Roedd yr arwyddion eisoes yno yn erbyn Man City yn y gynghrair yr wythnos diwethaf. Do, fe gawson nhw ganlyniad hynod siomedig. Ond doedd y sgôr yn sicr ddim yn adlewyrchu’r perfformiad. Roedd y gic o’r smotyn yn erbyn yr Elyrch yn benderfyniad amheus, â dweud y lleiaf, ac yn sicr yn drobwynt yn y gêm.

Fe ddywedais yn fy mlog yr wythnos diwethaf y byddai’n rhaid barnu Guidolin ar yr wythnos a fu. Wel, dyma fi’n gwneud hynny. Mae’n rhaid rhoi mwy o amser i’r Eidalwr tra bod y perfformiadau – os nad y canlyniadau – yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Ar ôl y gêm yn erbyn Lerpwl, fe fydd gan Abertawe bron i bythefnos i bwyso a mesur y sefyllfa yn ystod y toriad am y gemau rhyngwladol.

Ond dydy pethau ddim ar fin gwella ryw lawer o ran y rhestr gemau i’r Elyrch. Arsenal yw eu gwrthwynebwyr nesaf – a hynny ar eu tomen eu hunain yn yr Emirates. Unwaith eto, fe fyddai’r clwb yn barnu ar sail gêm yn erbyn tîm mawr. Ar ôl hynny, Watford a Stoke sy ar y gorwel. Llawer tecach fyddai barnu ar sail gemau yn erbyn timau y dylai’r Elyrch fod yn eu curo – timau y mae’n rhaid iddyn nhw gipio pwyntiau oddi arnyn nhw er mwyn goroesi.

Un apêl olaf. Cofiwch Fedi 29, 2006. Tipyn bach o berspectif plis, gyfarwyddwyr. Pwyll piau hi.

BLOG: Wythnos yn Abertawe Fydd


Francesco Guidolin, rheolwr Abertawe
Mae wythnos yn amser hir yn y byd gwleidyddol, yn ôl y cyn-Brif Weinidog Llafur, Harold Wilson. Os felly, mae’n hirach fyth yn y byd pêl-droed. Does ond angen gofyn i reolwr Abertawe, Francesco Guidolin.

Gallai ei saith diwrnod yntau, a ddechreuodd ddydd Sul gyda cholled o 1-0 yn erbyn Southampton yn St Mary’s, fod yn dyngedfennol. Fe allai’r wythnos olygu’r gwahaniaeth rhwng cadw neu golli ei swydd. Dydy wynebu Man City ddwywaith – yng nghwpan yr EFL a’r Uwch Gynghrair – yn y cyfnod hwnnw’n sicr ddim yn mynd i helpu hwyliau Guidolin dros y dyddiau nesaf.

Ar hyn o bryd, teimlad y wasg a’r cefnogwyr ar y cyfan yw fod amser yn rhedeg allan i’r Eidalwr, a gafodd ei benodi’n barhaol ddiwedd y tymor diwethaf. Daeth Guidolin i Stadiwm Liberty dros dro gydag un nod yn unig – cadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair. Roedden nhw’n ddeunawfed pan gafodd Garry Monk ei ddiswyddo, ond fe godon nhw i’r unfed safle ar ddeg erbyn diwedd y tymor.

Bryd hynny, roedd gan Abertawe ddau ddewis, un ai dweud “Grazie Francesco, arrivederci”, neu ei wobrwyo am gyflawni nod tymor byr drwy ymestyn ei gytundeb. Mynd am yr ail ddewis wnaeth y cadeirydd Huw Jenkins a’i griw.

Ond fe allen ni weld hanes yn ailadrodd ei hun o fewn dim o dro. Fe lwyddodd Monk, a gafodd ei benodi dros dro fel olynydd i Michael Laudrup, i gadw ei afael ar ei swydd tan y flwyddyn newydd. Ateb dros dro oedd ei benodiad yntau hefyd, ond fe gafodd gytundeb parhol ar ôl bodloni’r gofynion gwreiddiol.

Does ond un casgliad o gymharu sefyllfaoedd Monk a Guidolin. Dydy bod yn rheolwr dros dro llwyddiannus ddim o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n rheolwr parhaol da. Mae’r disgwyliadau’n wahanol. Mae rheolwr dros dro yn ceisio achub sefyllfa neu lanast sydd wedi cael ei achosi gan rywun arall.

Mae disgwyl i reolwr parhaol osod ei stamp ei hun ar garfan neu dîm ac mae’n cael ei farnu ar sail hynny. Os felly, fe basiodd Guidolin ei brawf cyntaf. Fe fethodd yr ail brawf yn y modd gwaethaf posib. Y tymor diwethaf, enillodd Abertawe 24 o bwyntiau allan o 45 pwynt posib o dan arweiniad Guidolin. Y tymor hwn, pedwar pwynt sydd ganddyn nhw allan o 15 pwynt posib. Gwnewch chi’r symiau – mae’r gwahaniaeth yn drawiadol.

Pe bawn i’n cesio achub cam Guidolin (mae’n anodd iawn gwneud hynny), byddai’n rhaid dweud ei fod e wedi bod yn anlwcus o golli’r ymosodwr Andrew Ayew i West Ham, Bafetimbi Gomis ar fenthyg i Marseille a’r capten Ashley Williams i Everton. Daeth Borja Baston, Martin van Hoorn, Alfie Mawson a Fernando Llorente i’r Liberty yn eu lle.

Ond dydyn nhw ddim wedi tanio. Does ond angen edrych ar sefyllfaoedd Borja Baston a Mawson er mwyn mynd at graidd prif broblem Guidolin y tymor hwn. Does ganddo fe ddim rheolaeth dros drosglwyddiadau. Ac mae’r perchnogion Americanaidd newydd wedi ychwanegu at y dryswch ymhellach.

Mae Borja Baston wedi landio yng Nghymru, yn record o drosglwyddiad o Atletico Madrid am £15.5 miliwn, ond deg munud yn unig (fel eilydd ddydd Sul diwethaf) y mae e wedi bod ar y cae. Yn ôl Guidolin a’i gynorthwy-ydd (a’i gyfieithydd) Gabriele Ambrosetti, fe gafodd ei anafu ar ôl dod i Gymru. Mae amheuon ei fod e eisoes wedi’i anafu cyn dod ar yr awyren o Sbaen.

Yn achos Mawson, fe gyfaddefodd Guidolin nad oedd e wedi clywed am yr amddiffynnwr canol 22 oed, sydd wedi symud i Dde Cymru o Barnsley yn lle Williams. Jordi Amat, i bob pwrpas, sydd wedi cymryd lle Williams yng nghanol yr amddiffyn. Fe fu Guidolin dros yr wythnosau diwethaf yn cyfleu negeseuon digon cymysg am Mawson. Ar y naill law, fe fu’n ceisio cyfiawnhau’r penderfyniad i ddod â’r chwaraewr ifanc i mewn i lenwi esgidiau’r capten profiadol. Ar y llaw arall, mae’n cyfaddef nad yw’n barod am yr her o chwarae’n gyson yn yr Uwch Gynghrair.

Mae achosion y ddau chwaraewr yn ein harwain ni at broblem fwyaf Guidolin, ei allu – neu ei ddiffyg gallu – i gyfathrebu yn Saesneg. Ar ôl wyth mis yn Abertawe, mae’r Eidalwr yn dal i ddibynnu’n helaeth ar sgiliau cyfieithu Ambrosetti gerbron y wasg. Negeseuon ail law ydyn nhw yn hynny o beth.

Digon gwir fod hyn yn eilbeth i sicrhau perfformiad da ar y cae. Ond mae Guidolin yn ceisio newid tactegau sydd wedi bod yn eu lle ers sawl tymor. Mae’r chwaraewyr wedi hen arfer â defnyddio system 4-5-1. O newid hynny, mae angen rheolwr sy’n gallu cyfleu syniadau newydd ac sy’n gallu darbwyllo’r chwaraewyr fod angen bod yn amyneddgar.

Mae’r ddwy ffrae dros yr wythnosau diwethaf – y naill gyda Neil Taylor a’r llall gyda Ki Sung-yueng – yn awgrymu bod gan Guidolin dipyn o waith egluro i’w wneud eto. Ond unwaith mae’r rheolwr yn colli cefnogaeth ei chwaraewyr, does dim troi nôl. Mae perygl fod Guidolin eisoes wedi cyrraedd y fan honno, er bod y capten Leon Britton wedi gwrthod yr honiad hwnnw pan aeth gerbron y wasg ddydd Mawrth.

Un peth sy’n sicr. O ychwanegu dau ganlyniad gwael at y pair sy’n bygwth ffrwydro yn ei wyneb, byddai hi ar ben ar Guidolin unwaith ac am byth, ac fe allai Abertawe fod yn union yr un sefyllfa ag yr oedden nhw ar ddechrau’r flwyddyn. Un rhybudd i’r Elyrch – os diswyddo Guidolin, rhaid sicrhau bod unrhyw reolwr dros dro yn gwybod mai dros dro yw e, a bod rheolwr parhaol yn mynd i gael ei benodi yn y pen draw.

Ffolineb yw gwneud camgymeriad unwaith, twpdra yw ei ailadrodd eilwaith. Ond tair gwaith? Loes calon yw ceisio dychmygu’r goblygiadau.

Yr ‘Italian Job’: Darganfod aur neu’r drysau ar fin ffrwydro?

Cyhoeddwyd Medi 9, 2016 gan Alun Rhys Chivers.

Tagiau: Chelsea, Franceso Guidolin


Alun Rhys Chivers yn edrych ymlaen at yr her fawr sy’n wynebu Abertawe wrth iddyn nhw herio cewri Chelsea ddydd Sul…

Dim ond unwaith yn ei yrfa fel rheolwr y mae Francesco Guidolin wedi llwyddo i guro un o dimau Antonio Conte. A phan fydd y ddau Eidalwr, y naill yn rheolwr ar Abertawe a’r llall ar Chelsea, yn mynd ben-ben ddydd Sul, fe fydd angen ‘Italian Job’ o’r mwyaf ar Guidolin a’i dîm.

Yn y ffilm, sy’n serennu Michael Caine, roedd angen i’w gymeriad Charlie Croker a’i griw o ladron gasglu bariau o aur oddi ar y bws cyn iddo gwympo dros y dibyn.

Tra bod Conte wedi arwain ei dîm newydd i dair buddugoliaeth allan o dair yn yr Uwch Gynghrair mor belled, tri phwynt yn unig sydd gan yr Elyrch hyd yn hyn yn nhymor llawn cyntaf Guidolin wrth y llyw.

Gyda Guidolin yn wynebu dyfodol ansicr cyn arwyddo cytundeb newydd ddiwedd y tymor diwethaf, roedd adroddiadau fod ganddo ddiddordeb yn swydd rheolwr yr Eidal yn lle Conte, a arweiniodd ei dîm i wyth olaf Ewro 2016. Roedd hefyd yn cael ei gysylltu â’r swydd yn 2014 cyn i Conte gael ei benodi.

Ond mae’r ddau bellach yn canfod eu hunain yn mynd ben-ben am y nawfed tro erioed wrth i Chelsea, sy’n un o’r ffefrynnau i ennill yr Uwch Gynghrair ar ôl tymor siomedig yn 2015-16. Mae’r Llundeinwyr yn gydradd gyntaf gyda Man City a Man U, tra bod yr Elyrch yn bedwerydd ar ddeg.

Guidolin v Conte – hyd yn hyn

10/11/2008: Parma (Guidolin) 1 Bari (Conte) 1
4/4/2009: Bari (Conte) 0 Parma (Guidolin) 2
25/10/2009: Atalanta (Conte) 3 Parma (Guidolin) 1
21/12/2011: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 0
28/1/2012: Juventus (Conte) 2 Udinese (Guidolin) 1
19/1/2013: Juventus (Conte) 4 Udinese (Guidolin) 0
1/12/2013: Juventus (Conte) 1 Udinese (Guidolin) 0
14/4/2014: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 2

11/9/2016: Abertawe (Guidolin) ? Chelsea (Conte) ?

Y cast

Roedd yr Elyrch wedi colli eu capten Ashley Williams, Andre Ayew a Bafetimbi Gomis cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, a doedd gan Guidolin fawr o ddylanwad wrth benderfynu pwy fyddai’n eu disodli. Alfie Mawson, amddiffynnwr 22 oed o Barnsley sy’n llenwi esgidiau’r capten. Ond mae Guidolin, a gyfaddefodd ar y pryd nad oedd e wedi clywed am Mawson, wedi dweud ei fod e “bron yn barod” am yr her o chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair. Ond mae’r amddiffyn wedi ildio pum gôl mewn tair gêm, gan sgorio dwy gôl yn unig – a’r chwaraewr canol cae Leroy Fer wedi sgorio’r ddwy. Yn absenoldeb sgoriwr yn rheng flaen y cae, roedd sicrhau gwasanaeth amddiffynnwr profiadol yn bwysicach fyth i atal y goliau ben arall y cae. Amheus gen i bydd Abertawe’n gallu ‘parcio’r bws’.

Mae Borja Baston, a gostiodd £15.5 miliwn – sy’n record i’r clwb – yn dal i geisio profi ei ffitrwydd ar ôl cyrraedd o Atletico Madrid, ac mae’n debygol y bydd e ar y fainc ddydd Sul. Fernando Llorente yw’r ymosodwr arall sydd bellach ar lyfrau Abertawe. Roedd e’n aelod o garfan Sbaen yng Nghwpan y Byd 2010 ac Ewro 2012, ond dydy e ddim eto wedi edrych fel chwaraewr rhyngwladol yn ei dair gêm i Abertawe.

Ennill – neu colli’r plot?

Dyna ddigon am y ‘Spanish Job’. Yn ôl at y plot dan sylw. Ym mharc Crystal Palace y cafodd golygfa enwocaf ‘The Italian Job’ – y car yn ffrwydro –  ei ffilmio. Mae’r parc wyth milltir i ffwrdd o stadiwm Chelsea yn Stamford Bridge.

Fe orffennodd y ffilm oedd yn serennu Michael Caine ar ymyl dibyn. Wnaethon ni byth ddod i wybod beth oedd “great idea” ei gymeriad Charlie Croker. Ar ddechrau cyfnod pan fydd yr Elyrch yn wynebu Southampton, Arsenal, Man City a Lerpwl rhwng nawr a chanol mis Hydref, mae tymor Abertawe’n mynd yn nes ac yn nes at y dibyn. Wrth wynebu Chelsea ddydd Sul, mae angen “syniad gwych” ar Guidolin i achub y sefyllfa.

Cip ar y Cymry – cau’r ffenestr drosglwyddo

Cyhoeddwyd Medi 1, 2016 gan Owain Schiavone.


Ymunodd Hal Robson-Kanu â West Brom yn hwyr bnawn ddoe
Wrth i’r ffenestr drosglwyddiadau gau’n glep nes mis Ionawr, mae Owain Schiavone’n bwrw golwg dros y symudiadau Cymreig o ddiddordeb.

Er mai dim ond llond llaw o gemau sydd wedi bod hyd yma, i nifer, mae diwrnod mwyaf cyffrous y tymor pêl-droed eisoes wedi bod. Do, fe gaeodd y ffenestr drosglwyddo neithiwr ac fe ddylai’r cyfrifon Twitter niferus sy’n honni bod â gwybodaeth ecsgliwsif am ba chwaraewyr sy’n denu diddordeb pa glwb, dawelu am y tro…o leiaf nes i’r ffenestr nesaf agor ym mis Ionawr.

Yn nghanol y clecs, yr arian mawr yn newid dwylo, a’r gohebwyr Sky yn stelcian tu allan i faesydd pêl-droed amrywiol, mae nifer o Gymry sy’n ennill eu plwyf yng nghynghreiriau Lloegr wedi symud i borfeydd brasach.

Yr enwau mawr

Mae rhai o chwaraewyr prif garfan Cymru wedi symud clybiau dros y ddeufis diwethaf.

Ar yr unfed awr ar ddeg, er mawr rhyddhad i bawb, mae Hal Robson-Kanu wedi setlo ar West Brom fel ei gartref newydd ar ôl i’w gytundeb â Reading ddod i ben yng nghanol yr Ewros.

Yn sicr fe roddodd Robson-Kanu ei hun yng nghanol y ffenest siop gydag Y GÔL YNA yn erbyn Gwlad Belg…ac mae’n debyg bod diddordeb yn yr ymosodwr o bedwar ban byd. Os felly, mae West Brom, fydd yn ymladd y gwymp o’r Uwch Gynghrair eleni, yn ddewis rhyfedd…a beryg bod angen asiant newydd ar Hal.

Y trosglwyddiad Cymreig mwyaf drudfawr oedd Joe Allen o Lerpwl i Stoke am £13m. Bargen a hanner i Stoke a’u rheolwr o Gymro, Mark Hughes a bydd ‘Pirlo Penfro’ yn ganolog i’w gynlluniau.

Jonny Williams ydy un o chwaraewyr mwyaf cyffrous carfan Chris Coleman, ond mae’n methu’n glir ag ennill ei le yn nhîm Crystal Palace, felly mae nôl ar fenthyg gydag Ipswich yn y bencampwriaeth am y pedwerydd tro.

Gobeithio y gall Emyr Huws anghofio am ei siom o golli ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros, a chreu argraff gyda Chaerdydd, ble bydd yn ymuno a Jazz Richards.

Rhai i’w gwylio

Mae tipyn o sôn am ymosodwr ifanc West Brom, Tyler Roberts, ers rhai blynyddoedd. Mae’r chwaraewr dwy ar bymtheg oed wedi bod yn ymarfer gyda thîm cyntaf Cymru, ac wedi bod ar y fainc i West Brom yn yr Uwch Gynghrair. Mae ei reolwr, y Cymro Tony Pulis, wedi ei yrru ar fenthyg i’r adran gyntaf gyda Rhydychen ac fe sgoriodd ei gôl broffesiynol gyntaf nos Fawrth wrth i’w dîm guro Exeter City yn Nhlws Checkatrade. Os fydd Roberts yn chwarae’n rheolaidd, ac yn chwarae’n dda, fe allai fod yn cystadlu â Robson-Kanu am safle yn nhîm cyntaf West Brom a Chymru’n fuan.

Difyr gweld ymosodwr ifanc arall, Wes Burns, yn mynd ar fenthyg i Aberdeen yn Uwch Gynghrair yr Alban. Yn ôl ei hyfforddwr gyda Bristol City, Lee Johnston, gwnaed y penderfyniad iddo fynd yno er mwyn cael blas ar bêl-droed Ewropeaidd ac ar awyrgylch gemau mawr yn erbyn timau fel Celtic a Rangers. Er i’w dîm golli o 4-1 yn erbyn Celtic, mae rheolwr Aberdeen Derek McInnes wedi bod yn canmol cyfraniad Burns a gobeithio y gall greu argraff yn ystod y tymor.

Timau Cymreig y Bencampwriaeth

Mae ‘na deimlad reit Gymreig i sawl tîm yn y Bencampwriaeth eleni, ac mae’n werth cadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd ar ail reng pyramid Lloegr.

Yn ogystal â Jonny Williams, mae Tom Lawrence wedi ymuno ag Ipswich ar fenthyg o Gaerlŷr ac os all y ddau gadw’n ffit bydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw’n cyfuno yn ymosod bois y tractors.

Mae ‘na bresenoldeb Cymreig amlwg yn Barnsley, gyda dau Gymru yn yr ymosod iddyn nhw yng ngemau cyntaf y tymor – Tom Bradshaw a Marley Watkins a ddenodd gynnig o £1m gan Ipswich ddoe yn ôl pob sôn. Mae’r golwr Adam Davies hefyd yn gymwys i chwarae dros Gymru.

Da gweld Caerdydd yn buddsoddi mewn gwaed Cymreig hefyd gydag Emyr Huws a Jazz Richards, tra bod Declan John wedi dechrau’r bedair gêm gyntaf o’r tymor ar ôl bod ar fenthyg yn Chesterfield llynedd.

Cofio rhain?

Mae cwpl o enwau fu’n amlwg yng ngharfan Cymru ar un pryd wedi pacio eu bagiau a symud i glybiau newydd.

Mae Lewis Price wedi symud o Sheffield Wednesday i Rotherham yn rhad ac am ddim. Enillodd y golwr, sydd bellach yn 32 oed, 11 o gapiau dros Gymru, y diwethaf yn erbyn Croatia yn Hydref 2012.

A beth am Lewin Nyatanga? Yr amddiffynnwr canol oedd y cyntaf o’r to o chwaraewyr ifanc a gafodd eu taflu i mewn i dîm cyntaf Cymru gan John Toshack – yn 17 mlwydd a 195 diwrnod oed, Nyatanga oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae dros ei wlad pan chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Paraguay ym Mawrth 2006. Ddeufis yn ddiweddarach fe dorrwyd ei record yntau gan foi arall o’r enw Gareth Bale…a teg dweud bod eu gyrfaoedd wedi mynd i gyfeiriadau go wahanol ers hynny.

Yn ddim ond 27 oed o hyd, mae Nyatanga wedi ennill 34 o gapiau dros Gymru, ond y diwethaf yn 2011 yn nyddiau cynnar Gary Speed fel rheolwr. Pwy a ŵyr, efallai y gall symud ar fenthyg i Northampton fod yn sbardun ar gyfer adfer ei yrfa ryngwladol. Wel, mae pethau rhyfeddach wedi digwydd!

 

Trosglwyddiadau Cymreig haf 2016

Awst 2016

Hal Robson-Kanu (Reading i West Brom) Am ddim

Aaron Collins (Wolves i Notts County) Ar fenthyg

Jonny Williams (Crystal Palace i Ipswich) Ar fenthyg

Simon Church (MK Dons i Roda JC)

Rhoys Wiggins (Bournemouth i Birmingham) Ar fenthyg

Tom Lawrence (Caerlŷr i Ipswich) Ar fenthyg

Connor Roberts (Abertawe i Bristol Rovers) Ar fenthyg

Shaun MacDonald (Bournemouth i Wigan) Ffi heb ei ddatgelu

Emyr Huws (Wigan i Gaerdydd) Ffi heb ei ddatgelu

Lewis Nyatanga (Barnsley i Northampton) Ar fenthyg

Josh Sheehan (Abertawe i Gasnewydd) Ar fenthyg

Lloyd Jones (Lerpwl i Swindon) Ar fenthyg

Arron Davies (Exeter i Accrington) Am ddim

 

Gorffennaf 2016

George Williams (Fulham i MK Dons) Ar fenthyg

Adam Matthews (Sunderland i Bristol City) Ar fenthyg

Tyler Roberts (West Bro mi Oxford) Ar fenthyg

Joe Allen (Lerpwl o Stoke City) £13m

Andrew Crofts (Brighton i Charlton) Am ddim

Jazz Richards (Fulham – Caerdydd) Cyfnewid

Lewis Price (Sheffield Wednesday i Rotherham) Am ddim

Tom Bradshaw (Walsall i Barnsley) Ffi heb ei ddatgelu

Wes Burns (Bristol City i Aberdeen) Ar fenthyg

Danny Ward (Lerpwl i Huddersfield) Ar fenthyg

Ryan Hedges (Abertawe i Yeovil) Ar fenthyg

Hen bryd i Guidolin brofi ei hun

Cyhoeddwyd Awst 13, 2016 gan Alun Rhys Chivers.


Francesco Guidolin yn wynebu'r wasg am y tro cynta'r tymor hwn

Ar drothwy tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair, mae gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers yn dweud bod rhaid i Francesco Guidolin brofi ei hun yn ei dymor llawn cyntaf yn rheolwr ar Abertawe…

Rheolwr ar ei gyfnod prawf oedd Francesco Guidolin, i bob pwrpas, y tymor diwethaf. Fe ddaeth yr Eidalwr i Abertawe dan gwmwl ar ôl i un o hoelion wyth a ffefrynnau’r Liberty, Garry Monk golli ei swydd. Roedd yr Elyrch, bryd hynny, yn ddeunawfed yn yr Uwch Gynghrair ac yn hwylio’n nes ac yn nes at y gwynt gyda phob gêm âi heibio.

Fe lywiodd Guidolin y tîm i’r lan unwaith eto erbyn mis Mai. Fe gafodd gytundeb newydd i aros yn barhaol ac mae ei waith o osod ei stamp ei hun ar y garfan eisoes wedi dechrau, gydag arwyddo Fernando Llorente, Borja Baston, Martin van Hoorn, Tyler Reid a Mark Birighitti dros y misoedd diwethaf.

Ond mae tymor siomedig yr Elyrch yn 2015-16 wedi costio’n ddrud iddyn nhw. All neb cwestiynu ymroddiad na llwyddiant y cadeirydd Huw Jenkins yn stori Abertawe dros y degawd diwethaf. Ond roedd y cyfnod cyn penodi Guidolin ym mis Ionawr mewn perygl o droi’n ffars.

Collodd Monk ei swydd ar Ragfyr 9, 2015. Trodd Abertawe eu sylw wedyn at Marcelo Bielsa – neu ‘El Loco’, y Dyn Gwallgof. Rheolwr Sevilla, Jorge Sampaoli, wedyn yn cael ei gysylltu â’r swydd hefyd. Ac wedyn un arall, ac un arall, ac un arall. Roedd yr ochenaid o ryddhad o du’r Liberty yn groch wedyn pan ddaeth cadarnhad fod y tîm, am y tro o leiaf, yn nwylo Alan Curtis – un sydd wedi ennill statws eilun yn y ddinas dros ddegawdau lu. Ond ateb dros dro yn unig fyddai troi at y gŵr y mae’n well ganddo fod yn rhif dau nag yn arwain y sioe.

Ynghanol hyn oll, fe ddaeth cadarnhad fod Guidolin ar ei ffordd i’r Liberty fel rhyw Feseia fyddai’n gallu gwyrdroi’r sefyllfa ar unwaith – ac yn ôl â Curtis i’r cysgodion unwaith eto. Roedd modd cydymdeimlo â Guidolin i ryw raddau. Roedd ganddo fe chwe mis i’w brofi ei hun. Y teimlad yn gyffredinol yw ei fod e wedi llwyddo i wneud hynny, ond rhaid iddo fe fynd gam ymhellach y tymor hwn. Ei dîm e fydd ar y cae y tymor hwn, ei staff e fydd ar yr ymylon, a’i syniadau fe fydd, gobeithio, yn arwain at dymor tipyn mwy llewyrchus yn 2016-17.

Roedd y sioc o golli ei gapten Ashley Williams i Everton mor agos at ddechrau’r tymor yn dal i’w weld ar ei wyneb ddydd Iau, wrth iddo wynebu’r wasg ar drothwy’r gêm gyntaf yn Burnley. Mae Abertawe’n sicr wedi dioddef yn sgil llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 dros yr haf. Fe ddioddefon nhw ergyd ddwbl o golli’r cyfle i arwyddo Joe Allen – ond stori arall yw honno.

Does ond gobeithio na fydd y golled ar ôl Williams i’w theimlo o hyd ar gae Turf Moor am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn. Bydd ei absenoldeb yn sicr yn ergyd i amddiffyn yr Elyrch. Ond fel mae Guidolin ei hun wedi bod yn awyddus i’w ddangos, mae mwy o ddyfnder yn y garfan eleni na’r llynedd. Fe ddaeth Martin van Hoorn i mewn o Ajax dros yr haf, ac fe allai alw ar Jordi Amat i lenwi’r bwlch am y tro – er, dw i ddim yn ei weld yn olynydd parhaol i Williams, fel wnes i awgrymu’r adeg yma’r llynedd. Mae ymadawiad ‘Ash’ yn golygu hefyd y bydd mwy o bwysau ar ei bartner Federico Fernandez yng nghanol yr amddiffyn. Kyle Bartley ddaeth i’r adwy ddechrau’r tymor diwethaf, ond mae hwnnw bellach ar fenthyg yn Leeds.

Os yw dyfodol yr amddiffyn – yn y tymor byr, beth bynnag – yn sigledig, yna mae’r dyfodol ymhlith yr ymosod yn edrych dipyn yn fwy cadarn erbyn hyn. Mae’r Elyrch wedi’i chael yn anodd ers 18 mis i ddod o hyd i ymosodwr fyddai’n gallu llenwi esgidiau Wilfried Bony. Wnaeth Bafetimbi Gomis ddim tanio tan yn gymharol hwyr, mae Alberto Paloschi wedi mynd a dod o fewn dim o dro ac mae Gylfi Sigurdsson ar ei ben ei hun yn y rheng flaen wedi dangos mai chwaraewr canol cae ymosodol yw e, yn hytrach na blaenwr sy’n gallu chwarae ar ei ben ei hun. Ac mae colli Andre Ayew yn golygu bod yr Elyrch wedi colli rhywun sy’n gallu cyfrannu at y cyfanswm goliau.

Mae Guidolin, o’r diwedd, wedi awgrymu y gallai ddewis dau ymosodwr ar ffurf 4-4-2 neu 3-5-2. Dydy un blaenwr ar ei ben ei hun – boed Bony neu Gomis neu Paloschi – ddim wedi dwyn ffrwyth. Ond gydag arwyddo Fernando Llorente a Borja Baston, fe ddaeth gwawr newydd ar y Liberty. Mae Guidolin yn cyfaddef nad yw’n gwybod fawr ddim am Baston, ond mae’r ffaith e fod e wedi costio £15.5 miliwn – sy’n record i’r Elyrch – yn awgrymu bod gan y clwb dipyn o feddwl o gyn-ymosodwr Atletico Madrid. Mae’r ffaith fod Abertawe’n denu chwaraewyr o glybiau mor nodedig yn adrodd cyfrolau hefyd.

Pe baech chi’n gwrando ar y gwybodusion dros y dyddiau diwethaf, fe daerech chi ei bod hi ar ben ar Abertawe. Mae’r rhan fwyaf yn darogan tymor diflas i’r Cymry, a rhai – fel Jamie Carragher – hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu cwymp o’r Uwch Gynghrair. Ond mae cyfle bellach yn yr ‘Oes Ôl-Ash’ i brofi y gall y clwb symud ymlaen – fe wnaethpwyd hynny ar ôl cyfnod Monk wrth y llyw, ac mae’n bosib gwneud hynny eto. Mae Guidolin wedi cael amser i ail-adeiladu’r garfan – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae’n bryd nawr i’r chwaraewyr dorchi’u llewys.

Y lori lwyddiant go iawn

Cyhoeddwyd Gorffennaf 11, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: gwahoddiad brenhinol tim cymru


Wrth fwrw golwg nôl dros olygfeydd anhygoel yng Nghaerdydd ddydd Gwener, mae Owain Schiavone’n trafod pryderon y gallai poblogrwydd tîm pêl-droed Cymru droi’n bropaganda Prydeinig.

Roedd y golygfeydd ym maes awyr Caerdydd, ac yna ar strydoedd y brifddinas ddydd Gwener yn werth eu gweld. Ond mae yna beryg y gallai ymyrraeth y teulu brenhinol yn Lloegr droi pethau’n sur.

Heidiodd degau o filoedd – dros 200,000 yn ôl pob tebyg –  o bobol i strydoedd y brifddinas i groesawu tîm pêl-droed Cymru yn ôl o Ffrainc ac i’w llongyfarch ar eu llwyddiant aruthrol yn Ewro 2016.

Roedd y golygfeydd yn rhai na fyddai’r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru wedi breuddwydio eu gweld, ac roedd hyd yn oed y chwaraewyr i’w gweld yn rhyfeddu at y croeso ac yn mwynhau pob eiliad.

Er gwaethaf y gorfoledd dros y dyddiau diwethaf, mae’n amhosib peidio sylwi ar y cwmwl du bygythiol sydd wedi dechrau ymddangos dros y cyfan wrth i’r peiriant propaganda Prydeinig godi ei ben salw.

Frances ffôl

Teimlwyd cysgod y cwmwl gyntaf tuag at ddiwedd y dathliadau swyddogol yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r gyflwynwraig Frances Donovan gyfweld Chris Coleman a datgan yn groch ei bod am enwebu Coleman i’w wneud yn farchog gan frenhines Lloegr.

Do’n i ddim yn siŵr os oeddwn i’n credu fy nghlustiau ac, o’r olwg ar wyneb Coleman, roedd yntau’n amau ei glyw hefyd. Ro’n i wedi penderfynu mai’r holl gyffro oedd wedi effeithio arni’n cynnig y fath beth, cyn gweld wedyn ei bod wedi hi wedi trydar neges debyg rai oriau’n ddiweddarach.

Er gwaethaf ei ffamiliariti ymddangosiadol â’r chwaraewyr gyda’i ‘Ash’, ei ‘Rambo’ a’i ‘Joniesta’, mae’n amlwg nad ydy Frances yn adnabod y garfan yma o gwbl, na chyfrinach agored eu llwyddiant. Gorau Chwarae, Cyd Chwarae – neu Together Stronger os mynnwch chi. Pawb yn gyfartal, pawb yn bwysig i’r tîm a phawb yn wynebu popeth, y llwyddiant a’r siom, gyda’i gilydd fel un. Pam yn y byd fyddai Chris Coleman felly’n credu ei fod yn haeddu ‘anrhydedd’ cyn ei hyfforddwr, Osian Roberts, neu ei physio Sean Connelly?

Ar ddiwedd mis pan welson ni falchder cenedlaethol heb ei debyg diolch i’r tîm yma, beth oedd ar feddwl y gyflwynwraig yn honni y byddai cydnabyddiaeth gan frenhines cenedl arall yn golygu rhywbeth i Coleman ac i’r cefnogwyr oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac am foment i ddweud y fath beth – ar ôl i Coleman fod yn dyst i ddegau ar ddegau o filoedd o bobol o bob oedran yn ymgasglu i gydnabod llwyddiant ei dîm, dyma ni danseilio hynny trwy awgrymu y byddai cael ei wneud yn ‘Syr Chris Coleman’ yn fwy gwerthfawr iddo.

Mae’n amlwg nad ydy Frances wedi bod yn gwylio Cymru o’r eisteddle’n ddiweddar neu fe fyddai hi’n gyfarwydd â’r gân deyrnged i Gareth Bale – “Viva Gareth Bale, viva Gareth Bale, said he had a bad back, f**k the union jack”. Cyfeiriad wrth gwrs i anaf honedig Bale i’w gefn pan oedd tîm GB am iddo chwarae iddyn nhw yng Ngêmau Olympaidd Llundain, a theimladau y cefnogwyr yn glir.

Iro’r olwynion

Efallai na ddylen ni synnu i weld olwynion propaganda y sefydliad Prydeinig yn dechrau troi, ac yn anffodus erbyn dydd Sul roedden nhw’n troi’n gynt wrth i Wales Online awgrymu y gallai’r tîm gael gwahoddiad i dderbyniad brenhinol arbennig yn Clarence House.

Mae’n siomedig gweld ein ‘papur cenedlaethol’ yn cyfeirio at hyn fel “gwobr” i’r tîm yn y lle cyntaf, ac mae Golwg360 bellach hefyd wedi cael clywed bod y syniad yn cael ei ystyried o ddifri.

Dw i’n ofni mai rhan o bris llwyddiant ydy hyn, ac fe allai roi’r Gymdeithas Bêl-droed mewn man lletchwith iawn.

Mae barn y cefnogwyr ynglŷn â’r mater yn glir wrth i Twitter ffrwydro gyda gwrthwynebiad ymysg llawer o’r hardcôr, gan gynnwys The Barry Horns – y band pres sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn llwyddiant Cymru trwy godi canu ymysg cefnogwyr y cochion.

Y Barry Horns sydd wedi dechrau’r hashnod #noroyalreception sydd wedi ymddangos yn gyson dros y 24 awr diwethaf wrth i gannoedd o gefnogwyr ddatgan eu gwrthwynebiad.

Mae rhai cefnogwyr wedi dechrau deiseb yn gofyn i’r Gymdeithas Bêl-droed wrthod gwahoddiad o’r fath.

Petai’r gwahoddiad yn dod, a fyddai’r Gymdeithas Bêl-droed yn ddigon cryf i wrthod? Mae yna sawl rheswm dros wneud hynny.

Mi wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddatgan eu gwrthwynebiad clir i sefydlu ‘Tîm GB’ ar gyfer y Gêmau Olympaidd gan ofni tanseilio annibyniaeth tîm pêl-droed Cymru ac mae nifer ar Twitter i’w gweld yn dyfynnu ‘Cenedl Bêl-droed annibynnol / Independent Football Nation’. Byddai cydnabod gwahoddiad o’r fath gan deulu sy’n cynrychioli imperialaeth Prydeinig yn fwy na dim cystal â chydnabod mai rhan fach o gymdeithas bêl-droed Prydeinig ydy Cymru.

Mae ethos tîm Cymru wedi rhyfeddu pobol ledled y byd dros y mis diwethaf – ysbryd unigryw, dim ffws, dim hunanbwysigrwydd, dim fi fawr…dim ond criw o fois, gyda’u traed ar y ddaear, yn mwynhau eu cyfle. Maen nhw’n teimlo fel un, nid yn unig fel carfan a thîm hyfforddi, ond yn un gyda’r cefnogwyr hefyd – mae gan bawb eu rhan i chwarae. Unwaith eto, byddai te gyda’r elît yn Clarence House yn mynd yn gwbl groes i hynny.

Bu llawer o drafod ar y bandwagon, neu’r ‘lori lwyddiant’ (bathiad Ifor ap Glyn), a ddatblygodd diolch i lwyddiant y tîm. Pobol fel y teulu brenhinol a’r sefydliad Prydeinig ehangach ydy’r bandwagon go iawn sy’n ceisio manteisio ar lwyddiant y tîm ar gyfer eu dibenion propaganda eu hunain.

Ar ddechrau’r bencampwriaeth roedd y Tywysog William yn barod iawn i ddymuno’n dda i dîm pêl-droed Lloegr mewn fideo arbennig. Dim sôn am Gymru bryd hynny…

Byddai derbyn gwahoddiad fel hwn yn fuddugoliaeth arall i’r sefydliad Prydeinig i danseilio Cymreictod, a byddai hynny’n dorcalonnus ar ôl popeth a wnaed gan y tîm i ennyn balchder Cymreig hynod.

Byddai gwrthod yn siŵr o bechu’r sefydliad Prydeinig, ac yn golygu PR gwael ymysg y cyfryngau Prydeinig. Ond ydy hi’n werth sarhau a dieithrio carfan fawr o gefnogwyr sydd wedi bod yn ffyddlon i’r tîm cyhyd am ychydig o PR da?

Os ddaw’r gwahoddiad, dyma’r cwestiwn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Ydyn nhw’n ddigon cryf i wrthod ble mae eraill wedi methu?

Gwir lwyddiant Ewro 2016 Cymru

Cyhoeddwyd Gorffennaf 7, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: Ewro 2016


Cefnogwyr Cymru'n dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)

Owain Schiavone sy’n trafod gwaddol llwyddiant tîm pêl-droed Cymru.

Mae wedi bod yn bedair wythnos anhygoel a bythgofiadwy, ond mae taith fer ond ymgyrch enfawr Cymru yn Ewro 2016 wedi dod i ben.

Mae Chris Coleman a’i dîm wedi dal llygad a chalonnau’r byd yn ystod eu hymgyrch yn Ffrainc, ac fel cefnogwyr rydym wedi crio, chwerthin, canu, dawnsio a breuddwydio wrth ddathlu llwyddiant y grŵp rhyfeddol yma o ddynion ifanc.

Er gwaethaf yr iwfforia ar y ffordd, gwirionedd hallt pencampwriaeth bêl-droed fel Ewro 2016, ydy mai gorffen gyda siom mae taith pawb ond un tîm. Yn achos Cymru, fydd y siom ddim yn para’n hir wrth i ni edrych yn ôl ar ymgyrch aruthrol o lwyddiannus.

Yn y byd chwaraeon, rhywbeth byrdymor ydy llwyddiant hefyd ond mae’n weddol sicr y bydd llwyddiant tîm Cymru yn Ewro 2016 yn amlwg am flynyddoedd i ddod. Yn wir, efallai na welwn ni lawn waddol y llwyddiant am amser maith, gymaint yr impact ehangach mae’r tîm wedi’i greu.

Dechrau’r daith

Wrth ddangos ein gwerthfawrogiad i dîm Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi diolch iddynt am y ‘daith’. Mae wedi bod yn dipyn o daith, ond taith fer oedd Ewro 2016 mewn gwirionedd, a dim ond dechrau’r daith i’r tîm arbennig yma fydd gobeithio’n dathlu sawl llwyddiant arall mewn crys coch Cymru.

Er gwaetha’r profiad yn y tîm, a’r nifer capiau, mae hon yn dal i fod yn garfan ifanc.

O’r garfan o 23, dim ond 4 chwaraewr sy’n 30 oed neu hŷn – David Vaughan (33), James Collins (32), Ashley Williams (31), a Dave Edwards (30). Mae’r rhan fwyaf o’r garfan fel arall yn 26 neu 27 oed, sy’n golygu bod gan y rhan fwyaf o’r garfan yma gyfle i chwarae mewn o leiaf tair ymgyrch arall i Gymru – Cwpan y Byd 2018, Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Yn ogystal â hynny mae ‘na nifer o chwaraewyr yn eu hugeiniau cynnar sydd wedi bod ar gyrion y garfan yn ystod yr ymgyrch ac a fydd ar dân i dorri mewn yn y cyfnod nesaf – Lloyd Isgrove, Tom Lawrence, Paul Dummett, Emyr Huws, Adam Henley, Declan John i enwi rhai.

Ychwanegwch at hynny chwaraewyr addawol iawn sy’n y tîm dan 21 fel Gethin Jones o Everton, Harry Wilson o Lerpwl, Billy O’Brien o Man City a Tyler Roberts o West Brom, ac mae’r dyfodol tymor byr yn edrych yn ddisglair.

Y genhedlaeth nesaf

Mae llwyddiant yn magu mwy o lwyddiant. Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac yna’r rowndiau terfynol, rydym wedi gweld y diddordeb mewn pêl-droed Cymru’n tyfu a thyfu.

Fe welwyd miloedd yn teithio i Ffrainc, ffanbarthau newydd yn agor ledled Cymru wrth i’r daith barhau, a does wybod faint o grysau coch mae Adidas wedi gwerthu dros  yr wythnosau diwethaf.

Denodd y gêm go gynderfynol yn erbyn Gwlad Belg 1.27 miliwn o wylwyr yng Nghymru yn ôl y BBC – record ar gyfer gêm fyw.

‘Bandwagon’? Wrth gwrs ond law yn llaw a hynny, yr hyn mae’r tîm yma wedi llwyddo i wneud yn fwy na dim ydy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Does gen i ddim amheuaeth y bydd nifer o’r bechgyn a merched bach sydd wedi dangos diddordeb mewn pêl-droed am y tro cyntaf dros y mis diwethaf yma’n cynrychioli eu gwlad mewn blynyddoedd i ddod.

Dros yr wythnosau diwethaf dwi di clywed hanesion am fy mhlant a’u ffrindiau chwarae pêl-droed  yn yr ysgol ac yn galw’i hunain yn Ramsey, Taylor a Robson-Kanu yn hytrach na Rooney, Messi a Ronaldo. Bendigedig.

Yr iaith

Wrth i Loegr ddiflannu o’r bencampwriaeth, mae gweld y cyfryngau Prydeinig a Rhyngwladol yn cymryd diddordeb yn nhîm Cymru wedi bod yn ddoniol, ond hefyd diddorol.

Wrth dalu mymryn mwy o sylw, maen nhw wedi sylweddoli ar yr hyn roedden ni eisoes yn gwybod – mae Cymru’n fwy na ‘thîm un dyn’, ac mae’r tîm yma’n grŵp arbennig iawn o bobl.

Yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol hefyd ydy gweld cymaint o’r cyfryngau’n rhoi lle amlwg i’r iaith Gymraeg. Rydan ni wedi gweld y Gymraeg ar dudalennau blaen y rhan fwyaf o’r papurau Prydeinig ac yn cael ei ddefnyddio i agor rhaglenni radio a theledu o bob math.

Ychwanegwch at hynny’r holl gwmnïau rhyngwladol sydd wedi neidio ar y bandwagon a defnyddio’r Gymraeg i hyrwyddo eu cynnyrch – Adidas, Budweiser, Carlsberg, Play Station i enwi dim ond rhai.

Rydan ni wedi gweld ‘Llongyfarchiadau’ yn ymddangos  ar fyrddau hysbysebu ar ddiwedd gemau a chwestiynau Cymraeg yn cael eu gofyn am y tro cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg swyddogol UEFA.

Mae rhoi llwyfan rhyngwladol fel hyn i’r Gymraeg yn hwb enfawr i’r iaith, yn hybu ymwybyddiaeth ohoni ac yn siŵr o annog pobl i’w dysgu a’i defnyddio.

Rhaid canmol Cymdeithas Bêl-droed Cymru am barchu’r iaith, ac Ian Gwyn Hughes yn enwedig am sicrhau lle amlwg iddi ym mhob agwedd o weithgarwch y Gymdeithas.

Hwb ariannol

Mae llwyddiant y tîm yn hwb enfawr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae hynny’n newyddion da i’r gêm ar bob lefel.

Yn ôl y sôn, bydd Cymru’n derbyn €18 miliwn am gyrraedd y rownd gynderfynol, a dwi’n weddol siŵr bydd y llwyddiant yn agor drysau nawdd newydd i Brif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford.

Dyma arian fydd yn cael ei fuddsoddi’n bennaf dwi’n siŵr yn y gêm ar lawr gwlad, a bydd hynny, gydag amser yn bwydo i fyny i’r timau rhyngwladol. Yn bennaf oll, mae’n siŵr o olygu cyfleoedd i fwy o blant chwarae, a mwynhau’r gêm sydd wedi rhoi cymaint o foddhad i lawer iawn ohonom.

Rhaid peidio anghofio hefyd am yr hwb i’r economi Gymreig yn ystod yr ymgyrch, gyda llawer o dafarnau, cwmnïau bysus a busnesau eraill yn manteisio.

Mae rhain i gyd yn bethau tymor hir cadarnhaol fydd yn tyfu o lwyddiant Gareth Bale a’i gyfeillion – mae’n brawf bod pêl-droed  yn fwy na dim ond gêm, mae’n gallu rhoi hwb diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

Yn fwy na hyn oll, mae’r tîm yma wedi rhoi Cymru ar y map ac ysgogi balchder newydd mewn bod yn Gymro.

Cyffrowch!

Cyhoeddwyd Gorffennaf 6, 2016 gan Owain Schiavone.

Tagiau: Ewro 2016


Torf Cymru - 'y wal goch' - yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille (Llun: Owain Schiavone)
Ar drothwy gêm hanesyddol arall i dîm Cymru, mae’n iawn bod yn obeithiol yn Lyon, meddai Owain Schiavone

Daeth dydd lle bydd mawr y rhai bychain…gobeithio!

Beth bynnag y canlyniad yn erbyn Portiwgal heno, mae Cymru wedi dal dychymyg, a chalonnau, y byd pêl-droed wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016.

Roedd y perfformiad yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol – nid yn unig y cymeriad i ddod yn ôl o ildio gôl yn gynnar yn y gêm, ond yna mynd ymlaen i reoli’r chwarae am y rhan fwya’ o’r 77 munud oedd yn weddill.

Mae modd dadlau bod elfen o lwc, a pherfformiad amddiffynnol dewr gan ‘dîm bach’ yn y canlyniadau rhagbrofol yn erbyn y Belgiaid ond, yn Lille, Cymru oedd y tîm gorau.

Er gwaetha’ barn sylwebwyr rhyngwladol ar ddechrau’r bencampwriaeth, dyw hi ddim yn syndod bod y math yma o ganlyniad yn nhîm Cymru. Wedi’r cyfan, mae gynnon ni un o chwaraewyr gorau’r byd; ar ei ddydd un o chwaraewyr canol cae gorau’r Uwch Gynghrair yn Aaron Ramsey; Joe Allen sy’n dduw yn llygaid y rhan fwyaf o gefnogwyr Abertawe a Chymru; un o amddiffynwyr mwyaf cyson yr Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd diwetha’ a llond llaw o chwaraewyr eraill profiadol o Uwch Gynghrair Lloegr.

Ysbryd

Nid y ffaith ein bod ni’n gallu curo timau rhyngwladol da fel Slofacia, Rwsia a Gwlad Belg sy’n syndod i bobol y tu allan i Gymru, ond yn hytrach y ffordd mae’r garfan yma wedi mynd o’i chwmpas hi. Mae cymariaethau wedi eu dwyn â llwyddiant Caerlŷr yn ennill Uwch Gynghrair Lloegr. Mae hynny’n deg, ac mae’n rhyfedd gweld dwy stori o’r fath yn yr un tymor, straeon sydd wedi adfer ffydd nifer fawr o bobol yn y gêm.

Go brin fod unrhyw un wedi gweld y fath ysbryd tîm mewn pencampwriaeth fel hyn o’r blaen – maen nhw’n chwa o awyr iach. Mae’r chwaraewyr wedi sôn fod y profiad fel bod ar wyliau gyda theulu, ac mae’n hawdd credu hynny o weld y lluniau a fideos sy’n dod o’r gwersyll yn Dinard.

Mae pawb wedi dotio gyda dawnsio Joe Ledley,  a gweld plant y chwaraewyr yn ymuno â’r dathlu ar y cae, er bod UEFA bellach yn ceisio taflu dŵr oer ar hynny.

Wrth siarad â chefnogwyr gwledydd eraill yn Ffrainc rydw i, fel nifer o gefnogwyr dwi’n siŵr wedi yngan y geiriau “we’re just happy to be here” wrth bron bob un. Dyna deimlad y garfan hefyd– y fuddugoliaeth fawr i Gymru oedd cyrraedd Ewro 2016 ac mae’r pwysau wedi’i ryddhau’n llwyr wedi hynny.

Dwi wedi gweld ambell un yn annog pobol i beidio cyffroi gormod am y gêm yn erbyn Portiwgal, ac yn poeni am yr holl heip. Mae arna’i ofn bod hynny’n anochel – rydan ni’n rownd gynderfynol yr Ewros bois.

Mae Cymru i raddau wedi llithro o dan y radar tan nos Wener diwetha’, ond pan fyddwch chi’n curo ail dîm gorau’r byd yn gyfforddus i gyrraedd rownd gynderfynol, mae pobl yn mynd i ddechrau sylwi. Mae’n rhaid i ni dderbyn hynny, mwynhau’r sylw a bod yn hyderus y gall y tîm yma gyrraedd y ffeinal.

Problem Portiwgal

Dw i ddim yn credu bod Cymru’n ffefrynnau. Dw i ddim yn credu bod yna ffefrynnau o gwbl pan fyddwch chi’n cyrraedd y pedwar olaf gan bod pob tîm wedi gwneud yn dda i gyrraedd y cam yma.

Maey‘na ambell ffaith o blaid Cymru…yr amlyca’ ydy bod Portiwgal heb ennill gêm eto yn y bencampwriaeth – tair gêm gyfartal yn y grŵp, a dwy fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn wedi hynny. Mae Cymru ar y llaw arall wedi ennill 4 o’u 5 gêm, gan golli i Loegr mewn perfformiad y maen nhw wedi dysgu oddi wrtho.

Wedi dweud hynny, mae Portiwgal wedi dangos dygnwch aruthrol ac mae ganddyn nhw chwaraewyr arbennig o dda – yn ymosodol Nani, Quaresma, Renato Sanchez ac, wrth gwrs Ronaldo. Dyma chwaraewyr sydd i gyd yn gallu creu rhywbeth o ddim byd, a bydd yn rhaid i amddiffyn Cymru fod ar eu gorau.

Yn amddiffynnol ar y llaw arall, yn debyg iawn i Wlad Belg, mae gan y gwrthwynebwyr ambell broblem. Mae’r chwaraewr canol cae amddiffynnol William Carvalho wedi’i wahardd ac mae amheuaeth am y dyn drwg Pepe sydd ag anaf.

Pwy ddylai chwarae?

Bydd dau chwaraewr dylanwadol yn eisiau gan Gymru hefyd wrth gwrs. Yn fy marn i, Ben Davies ydy chwaraewr mwya’ cyson Cymru yn y bencampwriaeth ac, ers y gêm yn erbyn Lloegr, mae Aaron Ramsey wedi bod yn ardderchog.

Mae nifer am weld Jazz Richards yn dechrau yn gefnwr de, gyda Gunter yn symud i’r canol. Dw i’n credu bod symud chwaraewyr o gwmpas, yn enwedig yn yr amddiffyn, yn beryglus ac mae Gunter wedi bod yn wych ar y dde yn y gêmau diwetha’. James Collins i lenwi esgidiau Davies yn y canol i mi felly – amddiffynnwr profiadol fydd yn gallu gwneud job dda i ni.

Y peth cadarnhaol ynglŷn â cholli Ramsey ydy bod opsiynau gan Coleman. Y dewis saff fyddai Andy King, ond mae Jonny Williams wedi gwneud cyfraniad enfawr ym mhob ymddangosiad a fyswn i wrth fy modd yn gweld Joniesta’n rhedeg at Pepe yng nghanol yr amddiffyn.

Dwi’n amau mai dechrau efo King a defnyddio Jonny o’r fainc eto fydd hi, ond mae Coleman wedi bod yn ddewr gyda’r ddewisiadau trwy’r ymgyrch.

Dw i ddim yn credu bydd y ddau newid yma’n ormod o broblem – bydd pwy bynnag sy’n cymryd lle Ramsey a Davies yn benderfynol o greu argraff.

Iawn bod yn hyderus

Os all Cymru godi safon eu chwarae’n agos at eu lefel yn erbyn Gwlad Belg, byddan nhw’n curo Portiwgal ond mi fydd y gwrthwynebwyr yn ymwybodol iawn o’r bygythiad. Mae’n iawn i ni fod yn hyderus – mae’n sarhad i’r tîm i beidio.

Beth bynnag y canlyniad heno, mae’r criw yma o hogia’ wedi rhoi antur a hanner i ni dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gwneud pawb yn falch o fod yn Gymro.

Maen nhw wedi dal sylw, ac ennill parch y byd ar y cae ac oddi arno ac wedi rhoi cyfle heb ei debyg o’r blaen i ni freuddwydio.