RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Osgoi y gwir am oblygiadau Brexit

Cyhoeddwyd Mai 27, 2017 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: brexit, Theresa May


(llun: PA)
Huw Prys Jones yn dadlau bod pwnc pwysicaf yr etholiad yn cael ei anwybyddu

Mae’n anochel y bydd yr ymosodiad ym Manceinion yn newid rhywfaint ar natur ymgyrch yr etholiad.

Dydi hynny fodd bynnag ddim yn esgusodi methiant llwyr y gwrthbleidiau i fynd i’r afael â’r hyn ddylai fod yn bwnc pwysicaf yr etholiad.

A’r pwnc hwnnw yw’r ffordd y mae’r Blaid Dorïaidd bellach yn llwyr yng nghrafangau eithafwyr sy’n benderfynol o dorri unrhyw gysylltiadau rhwng Prydain a thir mawr Ewrop.

Mi allai’r etholiad eleni fod yn gyfle gwych i’r gwrthbleidiau edliw a thaflu bai am y llanast yr ydym ynddo.

Yn lle hynny, mae eu tawedogrwydd ar y mater yn debygol o arwain at benrhyddid i Theresa May gamddefnyddio mwy ar ei grym.

Ni ddylid bychanu difrifoldeb y sefyllfa. Mae’n amlwg fod y garfan wrth-Ewropeaidd wedi bod yn cynllwynio ers blynyddoedd am ffyrdd o gipio grym pe byddai’r refferendwm yn digwydd o’u plaid.

Maen nhw wedi sicrhau bod y dehongliad mwyaf eithafol bosibl o’r canlyniad yn cael ei dderbyn fel efengyl, ac yn benderfynol o fygu unrhyw ddehongliadau eraill mwy gonest.

Oni bai fod yna bobl sy’n barod i herio’u hagweddau a’u dehongliadau, maen nhw am fynd yn fwyfwy eithafol.  Rhowch chi fodfedd i’r bobl hyn ac mi gymeran nhw lathen. Ac mi allan nhw fod yn hyderus bod ganddyn nhw bapurau newydd fel y Sun a’r Daily Mail i bregethu eu gwenwyn ddiwrnod ar ôl diwrnod i’r hygoelus a’r anwybodus.

Methiant

Rydan ni i gyd yn talu’r pris am fethiant y gwleidyddion hynny sy’n gwybod yn iawn bod Brexit yn syniad gwael, i ddwyn anfri ar ddilysrwydd canlyniad y refferendwm.  Trwy dderbyn y celwyddau a’r rhagfarnau a oedd yn sail iddo, maen nhw wedi sigo ymhellach ffydd pobl mewn democratiaeth.

Y Blaid Lafur ydi’r mwyaf euog o’r gwrthbleidiau o bell ffordd, gyda Jeremy Corbyn fel petai’n cofleidio’r canlyniad o’r cychwyn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fwy goleuedig ac mae eu haddewid o ail refferendwm  yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu. Er hynny, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n llwyddo i gyfleu neges gwbl ddiamwys o’u safbwyntiau.

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi gwneud safiad clodwiw drwy bleidleisio yn erbyn Erthygl 50 ac wedi bod yn bur gyson eu safbwynt. Mae Dafydd Wigley hefyd, eu hunig arglwydd bellach, wedi bod yn dadlau’n huawdl dros yr egwyddor o ail refferendwm.

Yn anffodus fodd bynnag, mae arwyddion fod Plaid Cymru hefyd wedi simsanu yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Dywed eu harweinydd Leanne Wood fod angen ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ gan sôn am ‘gynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’ (beth bynnag mae hynny yn ei olygu).

Ystyr ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ ydi ildio’n ddigwestiwn i gelwyddau a rhagfarnau’r cenedlaetholwyr Seisnig fu’n arwain ymgyrch Brexit, a gwrthod gwneud safiad yn erbyn newyddion ffug y Daily Mail a’r Sun.

Go brin fod hyn yn dderbyniol i drwch cefnogwyr Plaid Cymru.

Meddyliwch yn ôl dair blynedd a chanlyniad refferendwm yr Alban, pryd roedd mwyafrif mwy yn erbyn annibyniaeth nag oedd o blaid Brexit y llynedd.

Allwch chi ddychmygu Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dadlau bod angen i bawb barchu’r canlyniad, a’i dderbyn fel y gair olaf, a chanolbwyntio ar y manteision a allai ddeillio o aros fel rhan o Brydain?

Problemau sylfaenol

Hyd y gwelaf i, mae sawl problem sylfaenol gyda’r datblygiad diweddaraf yn agwedd Plaid Cymru at Brexit.

I ddechrau, mae’n awgrymu’r camddealltwriaeth sylfaenol mai mater economaidd yn unig yw perthynas Cymru, Prydain ac Ewrop. Nid bygythiad economaidd yn unig ydi Brexit ond ymosodiad ar ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Un o gymhellion mwyaf sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig ydi gwrthsefyll y math o genedlaetholdeb Seisnig haerllug sy’n nodwedd mor hanfodol o arweinwyr Brexit.

Mae hefyd yn debygol o gyfrannu at wrthdaro rhwng agweddau aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad mewn ardaloedd fel Gwynedd a’r hyn fydd yn cael ei weld fel gor-awydd i apelio at bleidleiswyr yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de.

Cwestiwn arall y bydd yn rhaid iddi ei wynebu hefyd fydd oblygiadau Brexit i’w hamcanion cyfansoddiadol. Mae’r freuddwyd o annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon anodd ei dychmygu pan fo Prydain yn dal yn aelod o’r Undeb. Os bydd y math o Brexit ynysig y mae Theresa May yn ei addo yn digwydd, mae’r nod yn symud i dir ffantasi pur. Pa obaith fyddai perswadio pobl Cymru i ffeirio undeb â Lloegr am undod â thir mawr Ewrop os ydi Plaid Cymru’n derbyn canlyniad y refferendwm llynedd fel adlewyrchiad dilys o’u dyheadau? Ac os nad annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, annibyniaeth yn lle? Go brin fod annibyniaeth lwyr yn opsiwn yn y byd sydd ohoni. Unig obaith am ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru mewn byd ôl-Brexit felly fyddai fel rhyw fath o dalaith mewn Prydain ffederal.

Ai hyn tybed fydd canlyniad ‘cynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’?

Ar y llaw arall, mae’n debygol iawn mai’r unig obaith i ddyfodol cenedlaetholdeb Cymreig fyddai methiant llwyr y Brydain newydd y mae’r Torïaid yn ceisio’i chreu. Os yw Plaid Cymru am fanteisio ar fethiant o’r fath yn y dyfodol, bydd yn rhaid iddi fod yn gwbl eofn a chyson ei gwawd a’i dirmyg o weledigaeth y cenedlaetholwyr Seisnig sy’n ein llywodraethu heddiw.

BLOG: Dau Brif Weinidog hapus … un –ish ac un yn bendant


Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth yn edrych ar ganlyniadau’r etholiadau lleol hyd yn hyn…

Mae yna ddau Brif Weinidog cymharol hapus y bore yma – Carwyn Jones a Theresa May.

Mi fydd un yn falch o fod wedi osgoi darogan gwaetha’r polau piniwn, a’r llall yn gweld arwyddion bod ei thactegau’n gweithio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’n anodd gwybod i ba raddau yr oedd yr etholiad hwnnw’n gysgod dros y rhain, ond mae’n bosib ei fod wedi cryfhau Llafur yng Nghymru a’r Ceidwadwyr yn Lloegr.

Y syndod o ran y Blaid Lafur yng Nghymru oedd eu bod nhw wedi cadw’r dinasoedd mawr – Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd – yn gymharol gyfforddus, ac efallai fod bygythiad yr Etholiad Cyffredinol wedi eu helpu yn hynny gan wasgu Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol a thynnu ychydig yn rhagor o’i selogion allan i ymgyrchu a phleidleisio.

Mae hefyd yn arwydd fod agwedd pen-i-lawr, hyd-braich-o-Lundain wedi llwyddo unwaith eto, am y tro. Tacteg Carwyn Jones ydi peidio â gwneud dim i gynhyrfu’r dyfroedd ac esgus nad oes a wnelo fo ddim â Jeremy Corbyn.

Mater arall ydi a wnaiff y dacteg honno lwyddo pan fydd y dadlau tros un pwnc mawr Prydeinig a rhagor o bobol, llai brwd tros wleidyddiaeth, yn mynd i bleidleisio.

O edrych ar Loegr, mi fydd Theresa May yn hapus iawn, a’r darnau iawn fel petaen nhw’n disgyn i’r llefydd iawn ym mhob man, bron.

Rhan o’r dacteg yw fod UKIP yn chwalu a’r pleidleisiau’n dod at y Ceidwadwr – esboniad am sylwadau ymladdgar y dyddiau diwetha’. Mae hynny wedi digwydd.

Elfen arall hollbwysig yw atal y Democratiaid Rhyddfrydol rhag atgyfodi yn ne-orllewin Lloegr ac mae’n ymddangos bod hynny wedi digwydd hefyd.

A Llafur yn gwneud cynddrwg â’r disgwyl yn y mannau pwysig – fe lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio seddi yn nhre geiliog-y-gwynt Harlow ychydig ddyddiau ar ôl i’r arweinydd Llafur fod yn ymweld.

Mi fydd hithau’n gymharol hapus am Gymru, yn enwedig o weld canlyniadau Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr – y tu allan i’r dinasoedd mawr, mae’n ymddangos fod y Ceidwadwyr yn gwneud marc yn yr ardaloedd cymysg.

Cyn cyhoeddi’r canlyniadau gwledig, bratiog iawn ydi perfformiad Plaid Cymru – ambell fuddugoliaeth dda, ambell golled ddrwg – a methu â thorri trwodd. Mae’n tanlinellu’r peryg y bydd hi’n cael ei gwasgu ymhellach yn yr Etholiad Cyffredinol os na lwyddith hi i gael neges drawiadol o rywle.

Mae’n ymddangos hefyd mai cael ei gwasgu a wnaiff y Democratiaid Rhyddfrydol a’r canlyniadau siomedig heddiw’n gwneud hynny’n fwy tebyg fyth.

Mae hi ar ymyl y dibyn; mae UKIP wedi mynd trosto.

Etholiad Ffrainc: y ‘Lle Bynnag’ yn erbyn y ‘Lle Hwn’


Wrth baratoi at ddadl deledu rhwng y ddau geffyl blaen yn etholiad arlywyddol Ffrainc, mae Aled G Job yn gweld fod y wlad – ac Ewrop gyfan – ar groesffordd…

Y penwythnos hwn, bydd pleidleiswyr Ffrainc yn dewis eu harlywydd newydd, gyda dau ymgeisydd yn weddill yn y ras, sef Emmanuel Macron a Marine Le Pen.

Mae’n gystadleuaeth hynod anarferol eleni gan nad yw un o’r ddau yn perthyn i’r pleidiau traddodiadol sydd wedi rheoli bywyd gwleidyddol Ffrainc ers blynyddoedd mawr, sef y Sosialwyr a’r Gweriniaethwyr.

Er bod Emmanuel Macron wedi cychwyn ei blaid ei hun ‘En Marchon’ dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n cystadlu yn y ras arlywyddol hon fel ymgeisydd annibynol i bob pwrpas. Ar gyfer rhan olaf yr etholiad, penderfynodd Marine Le Pen, hithau, ddiosg ei harweinyddiaeth o’r Front Nacional er mwyn cystadlu ar yr un gwastad annibynol.

Mae’r ffaith fod y ddau ymgeisydd yn cyflwyno’u hunain fel annibynwyr yn adlewyrchu sut y mae’r hen bleidiau traddodiadol wedi methu ag ymateb i anghenion gwleidyddol y presennol.

Ond yn bwysicach na hynny yw’r ffaith fod y ras arlywyddol hon wedi amlygu’r rhaniad newydd yn Ffrainc, sef y rhanniad rhwng y rhai hynny sydd yn gweld eu hunain fel unigolion cosmopolitan sy’n perthyn i fyd sydd y tu hwnt i Ffrainc ei hun, a’r rhai hynny sy’n parhau i ystyried eu hunain yn Ffrancod gyntaf uwchlaw popeth arall.

Ffrainc yn amlygu patrwm 

I raddau mae hyn sy’n digwydd yn Ffrainc yn yr etholiad hwn yn feicrocosm o’r hollt bresennol sydd i’w weld ar hyd a lled cyfandir Ewrop.

Mewn termau syml, efallai y gellid disgrifio’r rhaniad newydd hwn sy’n bennaf seiliedig ar y synnwyr o hunaniaeth a diwylliant, ond hefyd ar elfennau megis llewyrch a chyfleon bywyd, fel pobol ‘Lle Bynnag’ yn erbyn pobol y ‘Lle Hwn’.

I raddau, mae Emmanuel Macron yn ymgorfforiad o bobol Lle Bynnag gyda’i gefndir yn y byd ariannol a’i gyfnod fel banciwr gyda chwmni Rothchilds, a’i bwyslais ar bwysigrwydd yr Undeb Ewropaidd a marchnadoedd agored doed a ddêl. Bu hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Sosialaidd Francois Hollande oedd hefyd yn frwd iawn dros yr Undeb Ewropeaidd. Mae wedi ceisio’i orau i symud sylw pobol oddi ar y cefndir hwn wrth gyflwyno’i hun fel unigolyn o’r “tu allan”  i’r system bleidiol traddodiadol sydd felly yn gallu cynrychioli newid ar gyfer y dyfodol.

Ond mae’n mynnu mai trwy droedio’r llwybr canol y mae gwneud hynny.

Ffrainc yn gyntaf

Mae Marine Le Pen, wedyn, yn ymgorfforiad o bobol y ‘Lle Hwn’ gyda’i phwyslais hi ar roi democratiaeth Ffrainc gyntaf trwy ail-sefydlu gwladwriaeth all warchod pobol Ffrainc rhag effeithiau globaleiddio, terfysgaeth Islamaidd a mewnlifiad di-rwystr.

Ac mae hithau yn yr un modd yn ceiso tynnu sylw pobol oddi ar ei chefndir ei hun gyda’r Front Nacional ac etifeddiaeth wenwynig ei thad, Jean Marie Le Pen, trwy redeg ar ei liwt ei hun bellach. Yr hyn sy’n anghyffredin  am ei hymgyrch hi ydi ei bod yn ceisio denu cefnogaeth oddi wrth yr adain chwith a’r adain dde fel ei gilydd.

Mae llawer iawn o’i maniffesto yn rhoi pwyslais ar rol y wladwriaeth i greu swyddi a llewyrch o’r newydd i bob rhan o’r wlad sydd yn apel uniongyrchol at y chwith. Ac mae ei phwyslais ar warchod democratiaeth a hunaniaeth diwylliannol Ffrainc wedyn yn apelio at y dde.

Mae craidd ei chefnogwyr hi at ei gilydd yn y ‘Ffrainc Anghofiedig’: pentrefi a threfi gwledig Ffrainc ac ardaloedd ol-ddiwydiannol y wlad sydd wedi gweld cymaint o swyddi’n diflannnu oddi yno dros y blynyddoedd diwethaf, pobol ifanc yn mudo i’r dinasoedd ac ansawdd bywyd y cymunedau hyn yn plymio.

Sioc arall?

O gofio Brexit a buddugoliaeth Donald Trump yn 2016,  tybed oes yna sioc arall ar y gweill yn Ffrainc? Ar hyn o bryd, mae Emmanuel Macron i’w weld yn ffefryn clir gyda mantais o 20% yn y polau piniwn, a sawl un o’r ymgeiswyr aflwyddiannus eraill wedi annog eu cefnogwyr i drosglwyddo eu pleidlais iddo ef.

Os y gall barhau i lywio’r llwybr canol, gofalus mae’n fwy na thebyg mai fo fydd yn fuddugol.

Gobaith gorau Marine Le Pen efallai yw disgleirio yn y drafodaeth deledu olaf sydd i’w chynnal heno (nos Fercher, Mai 3), a pherswadio’r etholwyr fod yna ddeinameg newydd yn perthyn i’r ras bellach o leihau’r ymgeiswyr o 11 i 2.

Byddai’n rhaid iddi berswadio rhai cefnogwyr pleidiau’r chwith a chefnogwyr pleidiau eraill o’r dde i fenthyg eu pleidlais iddi er mwyn atal ei gwrthwynebydd, neu bwyso arnynt i beidio bwrw pleidlais o gwbwl.

Yr Undeb Ewropeaidd neu Ffrainc? Beth bynnag yw’r canlyniad ddydd Sul, go brin y bydd yr hollt hwn yn cael ei gyfannu’n rhwydd iawn.

FIDEO: ‘Golwg ar y Bae’ ar yr etholiad

Cyhoeddwyd Ebrill 28, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: etholiad, Fideo, golwg ar y bae, mehefin 8, seddi san steffan


Ychydig dros wythnos sydd wedi bod ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi etholiad cyffredinol brys ar  Fehefin 8, ond ers hynny mae llawer wedi digwydd.

Bu Jeremy Corbyn a Theresa May ar ymweliadau i Gymru – yr arweinydd Llafur yn dod i Ogledd Caerdydd a’r Prif Weinidog yn mentro i un o ‘seddi saff’ Llafur – Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar ddechrau’r wythnos, cafodd pôl piniwn dramatig iawn ei gyhoeddi, oedd yn darogan y byddai Cymru’n troi at y Ceidwadwyr yn yr etholiad ac y byddai Llafur yn colli 10 sedd – y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers dros ganrif!

Ac a fydd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn llwyddo i wneud cym-bac ym Môn? Cyn-Aelod Seneddol yr ynys sy’n herio Llafur am y sedd bu’n agos iawn rhwng y ddwy blaid y tro diwethaf… er bod y pôl piniwn yn dangos bod hi’n bosib mai’r Ceidwadwyr fydd yn ei chipio y tro hwn.

BLOG: Mae’r llanw mawr glas yn bygwth ein cenedl


Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Aled Gwyn Job sy’n dadlau pam y dylai Leanne Wood fod wedi mentro, a sefyll i fod yn Aelod Seneddol y Rhondda ar docyn penodol “Brexit Sy’n Deg i Gymru”…

Mae’n edrych yn debyg ein bod yn wynebu Tswnami Toriaidd yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i’w gynnal ar Fehefin 8.

Gydag un pol piniwn yn rhoi’r Toriaid ar 50%, mae’n ymddangos bod penderfyniad annisgwyl y Prif Weinidog Theresa May i alw etholiad buan yn mynd i dalu ar ei ganfed iddi.

Wedi’r cwbwl, mae’r Blaid Lafur yn gwbwl, gwbwl rannedig ac arweinyddiaeth anobeithiol Jeremy Corbyn druan yn destun dirmyg ymhlith y rhan fwyaf o’i Aelodau Seneddol ei hun, heb son am y boblogaeth yn gyffredinol.

Gan mai Etholiad Brexit fydd hi yn anad un peth arall, bydd hynny’n galluogi’r Toriaid i ddenu cyn-gefnogwyr UKIP atynt hefyd a sicrhau buddugoliaeth ysgubol ar don o Brydeinodod newydd yn erbyn y gelyn allanol Ewropeaidd a’r gelyn mewnol sef yr SNP yn yr Alban.

Mae’r llanw mawr glas i ddod yn debyg o gael effaith mawr ar Gymru hefyd, gyda hyd at wyth sedd Llafur yn syrthio i’r Ceidwadwyr. Mae ambell un hyd yn oed yn darogan y gallai’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif y seddau yng Nghymru y tro hwn, ac mae’n rhaid mynd nol i 1859 pryd y digwyddodd hynny ddiwethaf.

O gofio natur y Toriaid presennol, dydi o ddim yn ormodiaith i ddweud bod hwn yn argyfwng existential yn ein bodolaeth fel cenedl. O bosib mai dyma’r her fwyaf erioed sydd wedi wynebu ein plaid genedlaethol Plaid Cymru.

Creu arweinwyr

Maen nhw’n dweud mai argyfyngau sy’n creu neu’n claddu arweinwyr, ac mae’n adeg o brysur bwyso bellach ar Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. A hithau wedi ennill sedd y Rhondda yn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd,  y cwestiwn rwan ydi a ddylai hi fod wedi mentro ceisio ei hennill yn yr Etholiad Cyffredinol fis Mehefin?

Daw’r gair buddugoliaeth yn Gymraeg o’r gair Buddug, arweinydd benywaidd hen lwyth yr Iceni a arweiniodd wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Rhufeiniaid yng Nghymru 60 AD. Fe gysylltir yr enw hefyd gyda newid positif, optimistiaeth a gallu arweinyddol. Geiriau priodol iawn pe bai Leanne Wood yn mynd amdani.

Wrth gwrs, byddai’n groes i’r graen gosod Llundain uwchben Caerdydd, ac mi fyddai’n rhaid iddi wynebu cwestiynau anodd o sawl cyfeiriad am  yr hyn y mae’r penderfyniad yn ei olygu o ran ein senedd genedlaethol. Ond wedyn, mae’r amgylchiadau presennol yn rhai cwbwl eithriadol. Sydd felly’n gofyn am ymatebion eithriadol.

Gyda’r holl sylw a fyddai Leanne Wood yn ei gael, y cyhoeddusrwydd ychwanegol y byddai’r dadleuon teledu yn ei roi iddi,cefnogaethol cenedlaetholwyr o bob rhan o Gymru yn yr etholaeth, a’r ffraeo parhaus ymhlith y Blaid Lafur yn gefnlen i’r cwbwl, mae’r sedd yn gwbwl enilladwy.

Rhyddid i Gymru

Os ydan ni fyth am weld rhyddid i Gymru, mae’n rhaid ennill calonnau a meddyliau pobl y cymoedd ble mae dros 40% o’r boblogaeth Gymreig yn byw. Byddai ennill y Rhondda mewn etholiad pryd y caiff Llafur eu chwalu’n ulw a Thoriaid eithafol yn cipio grym am flynyddoedd yn San Steffan, yn dangos mai’r dimensiwn cenedlaethol ydi’r unig amddiffynfa bosib i Gymru.

Ac er mor chwithig ydi dweud hynny, byddai ennill y Rhondda yn San Steffan o dan yr amgylchiadau presennol yn cael llawer mwy o ddylanwad na ennill Rhondda yn y Cynulliad llynedd.

Gyda Llafur yn deilchion ar ol Fehefin 8, a chyfnod newydd o gecru mewnol yn digwydd ymhlith gweddillion y blaid honno, bydd oblygiadau hynny yn saff o effeithio ar sut y bydd pobl yn edrych ar Lafur Cymru hithau. Bydd y brand Llafur, ble bynnag y bo yn hollol toxic ac yn cael ei gysylltu gyda methiant trychinebus na welwyd mo’i debyg am hanner canrif neu fwy.

Mewn sefyllfa felly, hawdd iawn yw dychmygu mwy o bobol y Cymoedd am ddilyn esiampl Y Rhondda ac y gellid wedyn cael deialog newydd am bosibiliadau rhyddid cenedlaethol i Gymru yn yr ardal strategol holl bwysig hon.

Mae’n bosib na fyddai raid i Leanne Wood fod yn Llundain am gymaint a hynny, beth bynnag, o gofio y bydd sedd y Rhondda yn diflannu yn yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd y newid ffiniau.

Ac, o feddwl am y trafferthion pellach sy’n siwr o ddigwydd gyda Brexit, dydi hi ddim yn amhosib y gwelir etholiad cyffredinol arall o fewn y ddwy/dair blynedd nesaf, ac y gallai Leanne Wood ail-ystyried ei sefyllfa bryd hynny. Gallai Leanne Wood fod wedi sefyll ar docyn penodol ”Brexit Sy’n Deg i Gymru”.

O ran y pryderon am orfod sefyll is-etholiad Cynulliad anodd pe bai hi’n ennill y Rhondda, siawns y gellid gohirio hwnnw tan fis Awst er mwyn cael amser i ddewis ymgeisydd cryf a chynnal y math o ymgyrch boblogaidd a gipiodd is-etholiad Mon i Rhun ap Iorwerth yn 2014.

Joban o waith neilltuol sydd i’w wneud yn Llundain dros gyfnod penodol o amser felly – sef cynrychioli’r buddiant cenedlaethol Cymreig dros bobl y Rhondda a phobl Cymru fel ei gilydd. Pe bai modd ychwanegu’r Rhondda ac Ynys Mon at y tair sedd bresennol – byddai’n cynnig rhywfaint o ragfur cenedlaethol rhag y llanw glas mawr.

Mae’n biti na theimlodd Leanne ychydig o ysbryd Buddug wrth iddi bwyso a mesur y sefyllfa.

BLOG: Rhaid i Blaid Cymru gipio Môn

Cyhoeddwyd Ebrill 21, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Ifan Morgan Jones



Y darlithydd newyddiaduraeth, Ifan Morgan Jones, sy’n dyfalu beth fydd ffawd Plaid Cymru yn yr etholiad ar Fehefin 8…

Pethau digon anodd i Blaid Cymru yw Etholiadau Cyffredinol. Ychydig o sylw y mae’r blaid yn ei gael wrth i’r cyfryngau ganolbwyntio ar y frwydr rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, gyda rhywfaint o sylw ymylol i UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol o dro i dro.

Yn etholiadau’r Cynulliad y mae’r Blaid ar ei chryfaf, ac os yw’r blaid yn mynd i dorri drwodd ac apelio at drwch poblogaeth y genedl, yn etholiadau’r Cynulliad y mae hynny’n mynd i ddigwydd.

Hefyd mae’r etholiad disymwth yma yn cynnig problemau eraill. Nid yw gorfod brwydro tri etholiad mawr o fewn tair blynedd yn hawdd i blaid gymharol fach a phrin ei hadnoddau, dybiwn i.

Felly beth all Plaid Cymru ei ddisgwyl ar Fehefin 8? A fydd chwalfa Llafur yn cynnig cyfleoedd iddi gipio nifer o seddi?

Fe fydd arbenigwr etholiadol Cymru, Roger Scully, yn cyhoeddi arolwg barn gyntaf YouGov i Gymru ers cyhoeddi’r etholiad ddydd Llun. Ond efallai bod angen arolwg barn ranbarthol (pe bai’r nawdd ar gael!) oherwydd bod pleidlais Llafur yn debygol o ymddwyn yn wahanol mewn ardaloedd gwahanol.

Yr hyn a welwyd yn Etholiad Cyffredinol 2015, ac Etholiad y Cynulliad y llynedd, oedd gostyngiad cyffredinol ym mhleidlais Llafur, ond ei fod wedi amrywio’n fawr o ran ardal.

Roedd cwymp sylweddol y tu allan i gadarnleoedd y Blaid Lafur, ond fe gadwodd y blaid eu pen uwchlaw’r dŵr yn eu cadarnleoedd hanesyddol, ôl-ddiwydiannol yn y de.

Mae hynny’n golygu mai’r Ceidwadwyr, yn hytrach na Phlaid Cymru, sy’n debygol o ennill tir sylweddol yn yr etholiad hwn.

Rwy’n rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn cipio seddi yn y gogledd-ddwyrain fel Wrecsam, De Clwyd, Delyn, ac Alun a Dyfrdwy. Does dim digon o fwlch rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr i osgoi hynny.

Ar noson dda fe allai’r Ceidwadwyr fachu Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Ac ni fyddai’n syndod gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Canol Caerdydd.

Cadernid Llafur yn y Cymoedd

Ond unwaith eto rwy’n credu y bydd pleidlais Llafur yn y Cymoedd a Llanelli  yn parhau yn weddol gadarn. Wedi’r cyfan, dyma’r ardal sydd yn debygol o fod yn fwyaf agored i neges wrth-eltiadd, poblyddol Corbyn. Mae bwgan y Torïaid yn dal yn gysgod dros yr ardaloedd hyn ers dyddiau Thatcher. Y broblem i Blaid Cymru yw mai dyma’r seddi lle maen nhw yn yr ail safle.

Un cwestiwn i Blaid Cymru yw i ba raddau yr oedd buddugoliaeth Leanne Wood yn y Rhondda yn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd yn awgrymu symudiad ehangach tua’r Blaid yn y Cymoedd, neu ai canlyniad i broffil uwch Leanne Wood ydoedd?

Roedd y canlyniad agos ym Mlaenau Gwent yn awgrymu bod lle i fod yn obeithiol, ond ni welwyd cynnydd sylweddol ym mhleidlais Plaid Cymru ar draws gweddill y Cymoedd.

Mae’r cyfan yn awgrymu na fydd Plaid Cymru o bosib yn manteisio ar chwalfa Llafur yn yr un modd â’r Ceidwadwyr ar Fehefin 8.

Môn

Mae hynny’n gadael Ynys Môn, ac os nad yw’r Blaid yn gallu cipio honno fe ddylid, yn fy marn i, ystyried yr etholiad hwn yn fethiant iddyn nhw. Mwyafrif o 229 o bleidleisiau sydd gan Albert Owen, ac mae buddugoliaethau cyfforddus yr AC Rhun ap Iorwerth yno yn dangos bod y sir yn llawn pobl sy’n fodlon pleidleisio dros Blaid Cymru os ydyn nhw yn cynnig yr ymgeisydd cywir.

Byddai cipio Môn yn rhoi sglein ar yr etholiad yn yr un modd ag y gwnaeth buddugoliaeth Leanne Wood yn y Rhondda roi sglein ar Etholiad y Cynulliad y llynedd.

BLOG: Leanne – be’ yn y byd mae hi’n wneud?


Dylan Iorwerth sy’n codi cwestiynau am dactegau etholiad arweinydd Plaid Cymru

Mae’n bosib mai syniad beiddgar i gael sylw ar ddechrau ymgyrch anodd ydi awgrym Plaid Cymru y bydd ei harweinydd, Leanne Wood, yn sefyll yn y Rhondda yn yr Etholiad Cyffredinol.

Y ddadl hyd yn hyn ydi fod hwn yn ‘etholiad argyfwng’ a bod angen yr ymgeiswyr cryfa’ a’r bobol gryfa’ yn San Steffan er mwyn cael dylanwad.

Yn amlwg, mi fydd hi’n anodd i Blaid Cymru gael sylw – mae hynny’n wir am bob ymgyrch Brydeinig; mi fydd hyn yn oed yn fwy gwir am ymgyrch lle mae Brexit yn brif bwnc, a Britain ydi’r Br.

Mae’n debyg mai’r ddamcaniaeth ydi y byddai Leanne Wood yn cael sylw, yn rhannol oherwydd ei fod i’w weld yn gam mentrus ynddo’i hun.

Mae’n wir fod gan Leanne Wood broffil Prydeinig uwch na’r un gwleidydd arall o fewn y Blaid ond mae hynny’n dibynnu mwy ar un ateb i Nigel Farage ddwy flynedd yn ôl nag ar berfformiadau diweddar.

Y cwestiynau sy’n codi

Felly, a ydi hi a Phlaid Cymru wedi meddwl o ddifri am ystyr dyfnach penderfyniad o’r fath ac am y negeseuon sydd ymhlyg hyd yn oed mewn chwarae-bach o gwmpas y syniad?

I ddechrau, mae’n awgrymu bod un sedd o blith 650 yn San Steffan yn bwysicach nag un sedd o blith 60 yn y Cynulliad – hyd yn oed os oes yna rhyw fath o argyfwng Prydeinig.

Yn ail, mae’n golygu y bydd rhaid iddi roi’r gorau i arweinyddiaeth Plaid Cymru, neu geisio newid y rheolau i ganiatáu i aelod yn San Steffan gael arwain unwaith eto. Ydi honno’n neges dda gan blaid sy’n arddel hunan-lywodraeth ac, weithiau, annibyniaeth.

Mi fyddai symudiad o’r fath yn creu dadlau o fewn ei phlaid ei hun; y dewis arall fyddai fod un o’r Aelodau Cynulliad eraill uchelgeisiol sydd ganddi yn cymryd y swydd … er y byddai ambell un, falle, yn falch o’r cyfle, pa ddylanwad fyddai gan Leanne Wood wedyn yn San Steffan?

Yn drydydd, yn groes i’w chymeriad hi, mae’n cyfleu neges anffodus braidd am weddill ei phlaid ei hun – mai hi ydi’r unig un a all wneud argraff.

Hyd yn oed pe bai’r dacteg yn gweithio yn yr etholiad yma, mae oblygiadau gwirioneddol cwestiynau o’r fath am aros yn llawer hwy.

A’r pethau arwynebol…

Mae yna gwestiynau mwy arwynebol hefyd.

Be’n union fyddai’r neges i bobol y Rhondda? Fod Leanne Wood yn eu cymryd o ddifri’, neu’n barod i’w defnyddio nhw? Mae blas chwarae gwleidyddiaeth ar y syniad.

Beth petai hi’n ennill ac yn ildio’i sedd yn y Cynulliad ar ôl dim ond blwyddyn? Ai’r gambl ydi y byddai Llafur wedi gwanhau digon i golli isetholiad i’r Cynulliad hefyd? Gambl a allai golli sedd a cholli dylanwad pellach ym Mae Caerdydd.

Pe bai Leanne Wood yn ennill ac yn un o bedwar, falle bump, o ASau Plaid Cymru yn San Steffan, faint o ddylanwad fyddai ganddi? A fyddai ganddi well llwyfan felly na thrwy fod yn arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad?

A beth petai hi’n colli? Fymryn yn well neu waeth nag ennill?

BLOG: “The Great British Delusion-off”

Cyhoeddwyd Ebrill 6, 2017 gan Y Blog Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Aled G Jôb, blog, ceidwadaeth


Theresa May yn arwyddo llythyr gadael yr Undeb Ewropeaidd (Llun: Christopher Furlong/PA Wire)
‘Rhithdyb’ ydi’r enw Cymraeg am delusion. Mae’n air da oherwydd ei fod yn cyfuno dau gysyniad yn y bon, sef rhywbeth nad yw’n bod o gwbwl, a’r elfen o dybiaeth sy’n gorfod bod yn rhan o hynny hefyd.

Ac mae’n air sy’n briodol iawn ar hyn o bryd, o gofio bod Prif Weinidog Prydain wedi tanio Erthygl 50, sy’n dynodi y byddwn bellach yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda chymaint o gyfresi teledu “The Great British…” wedi bod ar ein sgriniau hyd at syrffed dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n ymddangos i mi fod rhai o wleidyddion amlycaf San Steffan wedi bod yn ysu cael llunio eu cyfres eu hunain fel rhan o’r broses hon.

A pha well enw a ellid ei roi ar y bennod gynhyrfus newydd hon yn ein hanes na’r Great British Delusion-Off gan fod rhithdybiaeth mor ganolog i bopeth sy’n digwydd yn wleidyddol ar hyn o bryd?

Cyfleon? Pa gyfleon?

Am fisoedd bu’r wasg boblogaidd a’r consensws cynyddol Doriaiddd/UKIPaidd sy’n nodweddu Lloegr erbyn hyn yn glafoerio am adael yr Undeb Ewropeaidd gan son yn ddi-baid am yr holl gyfleon byd-eang anferthol a fyddai’n dod i’n rhan wedi i Brydain gael ei thraed yn rhydd.

Doedd y gweision sifil sy’n gweithio ar Brexit ddim am gael eu heithrio o hyn chwaith wrth iddyn nhw fathu’r enw “Empire 2.0″ am y prosiect fyd-eang newydd a fyddai’n cael ei lawnsio ar y llwyfan rhyngwladol, syniad a fyddai’n gwbwl chwerthinllyd oni bai am y baggage hanesyddol erchyll sy’n perthyn i’r ymherodraeth wreiddiol.

Ar un ystyr, mae’n rhyfeddol sut y mae’r meddylfryd hwn wedi magu cymaint o draed yn ddiweddar gan gipio dychymyg cymaint o wleidyddion a phobl gyffredin yn Lloegr. A llawer yng Nghymru hefyd gwaetha’r modd.

Anghenfil y Ceidwadwyr

Rhan o gryfder cynhenid Ceidwadaeth dros y blynyddoedd yw ei bod hi wedi gallu tynnu ar dri thraddodiad gwahanol er mwyn manteisio ar gyfnodau ac amgylchiadau amrywiol yn eu tro. Hyd yma, bu’r traddodiadau gwahanol yn gallu cyd-fyw yn hwylus iawn gyda’i gilydd, a chyd-weddu gyda’i gilydd hefyd.

Y traddodiad cyntaf ydi’r geidwadaeth glasurol a hyrwyddwyd gan y meddyliwr Edmund Burke, gyda’i bwyslais ar y “little platoons” hynny oedd yn sail i gymdeithas sifig lwyddiannus, megis y teulu, cymdeithasau a rhwydweithiau lleol oedd yn cynnig sefydlogrwydd a gwreiddiau i unigolion.

Yn ail, ceir y Geidwadaeth farchnad-rydd, sy’n pwysleisio rol hanfodol masnachu mewn bywyd, ac mai trwy ganiatau marchnad rydd di-lyffethair y mae sicrhau ffynniant unigolion a gwledydd unigol. Efallai mai Margaret Thatcher oedd y Prif Weinidog Ceidwadol a nodweddai’r geidwadaeth hon orau,a hynny yn ystod yr 80au.

Y math o geidwadaeth olaf yn y drindod yw Ceidwadaeth Genedlaetholgar sydd yn draddodiadol wedi dyrchafu rol Prydain yn y byd ac yn mynnu bod yna ryw neilltuolrwydd( exeptionalism) yn perthyn iddi. Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar, mae’n bosib dadlau bod Theresa May eisoes yn ymgorffori’r math hwn o Geidwadaeth, gyda’i geiriau am “a red, white and Blue Brexit” a’i hymffrost fod Brydain megis “unstoppable force” yn y byd sydd ohoni.

Beth am Gymru?

Yma yng Nghymru, bu disgwyl mawr mewn rhai cyfeiriadau am weld cenedlaetholdeb Lloegr yn deffro yn y gred y byddai hynny rywfodd o fudd i Gymru, ac yn pwysleisio’r ffaith ein bod yn ddwy wlad hollol wahanol. Ac wrth gwrs, does dim amheuaeth mai cenedlaetholdeb Seisnig amrwd sydd yn gyrru’r agenda wleidyddol ar hyn o bryd.

Ond y caswir ydi bod y cenedlaetholdeb hwn eisoes wedi ail- wisgo mantell cenedlaetholdeb Prydeinig er mwyn delio gyda’r heriau o wynebu bywyd y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd. Mae pob argoel y bydd y Ceidwadwyr yn mynd ati i geisio gwanio seneddau Cymru a’r Alban o hyn allan er mwyn gallu sefyll yn unol fel Prydain eto ar lwyfan y byd.

Diau y clywir son mawr am y “Single British Market” dros y misoedd nesaf fel cyfiawnhad dros hynny. Ac er y gwag obeithio Cymreig, does dim arwydd o gwbl fod arweinwyr ceidwadol Lloegr hyd yn oed wedi dechrau meddwl am fodloni byw fel Lloegr o hyn allan – mae “Prydain” yn parhau’n llawer rhy bwysig iddyn nhw o ran eu seicoleg, eu hanes, eu statws ac o ran y modd y maen nhw’n gweld eu dyfodol.

Tybed ai’r hyn sy’n digwydd o’n blaenau heddiw yw fod hanes ar fin dal i fyny gyda rhithdybiaethau y Ceidwadwyr sy’n gymaint rhan o rithdybiaethau Prydain Fawr amdani hi ei hun ddoe a heddiw?

BLOG: Maen nhw’n dechrau dawnsio ar y dibyn


GO brin fod Nicola Sturgeon, Arweinydd yr SNP, wedi clywed am y dywediad Cymraeg “Os na fydd gryf, bydd gyfrwys”, a ddeilliodd heb os o brofiad gwlad fach yn byw yng nghysgod ei chymydog mawr am ganrifoedd.

Ond, a welwyd erioed enghraifft well o’r dywediad hwn ar waith yn y byd gwleidyddol wedi ei chyhoeddiad fore Llun y bydd ei Llywodraeth yn cynnal Refferendwm arall ar Annibyniaeth i’r Alban cyn 2019?

Roedd y Prif Weinidog Theresa May yn paratoi  i gyhoeddi Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon yn dilyn cwblhau’r broses drafod yn Nhy’r Cyffredin heno. Byddai wedi rhagweld bonllefau o gymeradwyaeth o’r wasg boblogaidd ac y byddai hynny oll yn rhoi gwynt yn ei hwyliau wrth baratoi ar gyfer y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropaidd.

Ond cafodd hynny oll ei danseilio’n ddiseremoni gan gyhoeddiad annisgwyl ac hynod gyfrwys Prif Weinidog Yr Alban, yn y datganiad urddasol a wnaed ganddi yn Bute House, Caeredin. Gyda chymaint yn tybio y byddai’n gwneud y cyhoeddiad hwn yng nghynhadledd yr SNP, roedd gwneud hynny yn rhinwedd ei rol fel Prif Weinidog yr Alban, yn hytrach nag arweinydd yr SNP yn symudiad meistrolgar ar ei rhan.

Ar yr olwg gyntaf felly, mae’n ymddangos fod Sturgeon wedi cyflawni stroc go iawn fan hyn trwy achub y blaen ar Theresa May,  ac yn wir wedi gwanio sefyllfa Prif Weinidog Prydain yn ddifrifol.

Wedi’r cwbwl, roedd Theresa May wedi’i hargyhoeddi ei hun nad oedd Nicola Sturgeon o ddifrif am gynnal ail refferendwm ac mai bygythiadau gwag oedd ei rhybuddion am y posibiliad hwnnw. Oherwydd y dybiaeth honno, teimlodd nad oedd rhaid iddi gyfaddawdu o gwbl gyda galwadau yr SNP i geisio sicrhau lle arbennig i’r Alban yn y Farchnad Sengl fel rhan o ddêl Brexit Prydain.

Mae’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar grebwyll gwleidyddol Theresa May. O gofio bod hyn yn dilyn yn sgil y penderfyniad i gosbi’r hunan-gyflogedig yn y gyllideb wythnos ddiwethaf a thorri addewid sylfaenol ym maniffesto y Torïaid- y cwestiwn amlwg sy’n codi rwan ydi, a yw May allan o’i dyfnder yn Brif Weinidog?

Fydd hyn ddim yn syndod o gwbwl i’r rhai sydd yn gwylio ei pherfformiadau prennaidd ac aneffeithiol yng nghwestiynau’r Prif Weinidog pob dydd Mercher. Does dim o’r sglein a’r rhwyddineb ar ei draed a oedd yn nodweddu David Cameron yn perthyn iddi o gwbwl, a Jeremy Corbyn er mor anobeithiol ydi’r creadur hwnnw fel cyfathrebwr yn cael y llaw uchaf arni yno yn amlach na pheidio.

Yn fwy difrifol, mae datganiad Nicola Sturgeon yn golygu y bydd llaw negydu Llywodraeth Prydain yn llawer iawn gwannach wrth baratoi i drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd rwan. Yn gyntaf wrth gwrs bydd dim modd i’r Prif Weinidog ddatgan ei bod yn siarad ar ran Prydain “Unedig” wrth ddechrau trafod.

Yn ail, roedd hawliau i bysgota oddi ar arfordir yr Alban a chyfoeth olew a nwy Yr Alban yn rhan allweddol o  gynllun negydu y Llywodraeth wrth geisio taro bargen gydag Ewrop. Mae’r tships bargeinio hynny wedi eu cipio’n ddramatig oddi ar y bwrdd bellach. Roedd mandarins yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi penderfynu i yrru bargen galed iawn gyda Llywodraeth Phrydain.

Bellach, mi fyddan nhw am droi’r sgriws hyd yn oed yn dynnach. Dydi o ddim yn amhosib y byddan nhw hefyd yn ceisio hwyluso dadl Yr Alban y dylent etifeddu aelodaeth Undeb Ewropaidd yn ddi-dor wrth i Lywodraeth Prydain adael yn 2019.

Mae’n bosib y gall Theresa May geisio ad-ennill peth o’i hygrededd wleidyddol wrth benderfynu na chaiff Yr Alban gynnal ei refferendwm tan fod Brexit wedi ei gwblhau. Ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, mae’n anodd peidio dod i’r casgliad ei bod hi’n nesau’n beryglus at y dibyn bellach.

Does ryfedd fod Michael Gove a Boris Johnson ill dau wedi cynyddu eu proffiliau unigol yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf. Tybed yn wir oedd y ddau wedi rhagweld o’r cychwyn mai traed moch fyddai’n digwydd gyda Brexit ac y byddai’n well i’r ddau ohonynt gadw eu powdr yn sych am y tro?

Ond mae’n ddawns ddigon peryglus i Nichola Sturgeon hithau. Hyd yn oed pe bai hi’n cael ei dymuniad i gynnal refferendwm yn ystod y cyfnod y mae’r negydu yn mynd rhagddo hefo’r Undeb Ewropeaidd, gan y byddai sylw Llywodraeth Prydain wedi ei rannu rhwng dau elyn, mae pob refferendwm yn loteri llwyr mewn gwirionedd.

Mae yna hefyd berig mawr o “voter fatigue” o gofio’r holl etholiadau/refferenda sydd wedi eu cynnal yn Yr Alban ers 2014, ac y caiff yr SNP ei beio am lusgo pobl i bleidleisio unwaith eto.

Ac os oes rhaid iddi ildio i ddymuniad May i gynnal y refferendwm yn dilyn cwblhau Brexit, does dim sicrwydd o gwbl y byddai gan yr SNP fwyafrif i allu galw annibyniaeth yn y Senedd yn Holyrood erbyn 2020.  Byddai’r SNP wedi bod mewn grym am 13 o flynyddoedd erbyn hynny, a’r etholwyr efallai wedi cael digon arnynt.

Ond efallai mai’r elfen anoddaf un i Nichola Sturgeon yw sefyllfa’r Undeb Ewropaidd ei hun dros y blynyddoedd nesaf. A fydd y ddadl ddiamwys fod Yr Alban wedi dewis aros yn yr Undeb Ewropaidd yn y refferendwm y llynedd yn wahanol i Loegr yn cario cymaint o bwysau mewn sefyllfa lle y gallai bodolaeth yr Undeb honno ei hun fod mewn perig?

Yr wythnos hon, mae etholiad cyffredinol yn yr Iseldiroedd, ac mae’n debyg iawn y bydd pleidiau sydd am adael yr Undeb yn gwneud yn dda iawn. Y mis nesaf, mae etholwyr Ffrainc yn cael dweud eu dweud, ac unwaith eto y mae yna deimladau cryfion yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd ac awydd am weld sofraniaeth gwadwriaeth Ffrainc yn cael ei ail-sefydlu yno.

A fydd y prosiect Ewropeaidd yn cael ei chwalu neu o leiaf yn cael ei ail- ddychmygu’n sylweddol iawn dros y 18 mis nesaf? A fyddai hynny yn cyfiawnhau’r penderfyniad a wnaeth Lloegr a Chymru i adael y llynedd, ac yn tanseilio dadl yr SNP am aros mewn UE sydd ddim yn bodoli mwyach?

Os mai NA fydd hi eto yn yr ail refferendwm, dyna ddiwedd ar yrfa Nichola Sturgeon. A dyna berig fydd diwedd y freuddwyd o annibyniaeth i’r Alban hefyd.  Mewn amgylchiadau felly, mae’n anorfod y byddai Llywodraeth Llundain yn deddfu yn erbyn cynnal unrhyw pleidlais arall ar refferendwm am genhedlaeth arall o leiaf. Mae’n fwy na thebyg hefyd y byddent yn dewis tynnu llawer o bwerau o Holyrood a’u hail-sefydlu yn San Steffan.

O gofio hyn, mae yna risgiau anferthol yn wynebu Nichola Sturgeon mewn galw refferendwm yn y sefyllfa gyfnewidiol iawn sydd ohoni ar hyn o bryd. Ond tybed ydi hi eisoes yn meddwl am ddull arall, rhagor na chynnal refferendwm ymrannus ac ansicr arall? Hynny ydi, galw Etholiad Cyffredinol yn Holyrood rhywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda’r SNP yn sefyll ar docyn o  ddatgan annibyniaeth pe baent yn ennill mwyafrif arall.

Efallai y bydd yna bethau yn digwydd dros y misoedd nesaf allai gyfiawnhau hynny-  megis Llywodraeth Prydain yn ymddwyn yn eu dull trahaus arferol tuag at Yr Alban. Trwy ddulliau confensiynol fel hyn y mae’r rhan fwyaf o wledydd wedi ennill eu hannibyniaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf, a dim ond dyrnaid o wledydd sydd wedi gwneud hynny trwy refferendwm mewn gwirionedd.

Ac wrth gwrs, byddai’n haws i’r SNP sicrhau eu bod yn llwyddiannus y tro hwn trwy ddilyn y trywydd hwn.

“Events dear boy, events” oedd ateb Harold Wilson i gwestiwn ynghylch beth oedd y broblem fwyaf a wynebai unrhyw wleidydd.  Wrth i Theresa May a Nichola Sturgeon ddawnsio ill dwy ar ben y dibyn gwleidyddol dros y misoedd nesaf, diau y caiff hyn ei wireddu eto fyth yn hanes y ddwy arweinydd a fydd yn brwydro am einioes wleidyddol y naill a’r llall yn y frwydr fawr sydd i ddod. Mae’n anodd dychmygu sefyllfa lle na fydd un o’r ddwy yn plymio dros y dibyn hwnnw maes o law.

BLOG: Annibyniaeth yw’r unig ffordd o newid Cymru


Joe Chucas
Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Gymru. Yr ydym yn dal i fod o dan Lywodraeth geidwadol, er nad ydi’r Ceidwadwyr erioed wedi ennill mwyafrif o seddi yma.

Derbyniwn yr un model o wleidyddiaeth adain dde Brydeinig o hyd; y fath o wleidyddiaeth ‘synnwyr cyffredin’ sy’n golygu cymorthdaliadau i’r cwmnïau tanwydd ffosil, talu am arfau niwclear allem ni fyth defnyddio, gostyngiadau trethi i’r cyfoethog a lleihau budd-daliadau i bobol anabl.

Mae gan y Deyrnas Unedig y gyfradd isaf o symudedd cymdeithasol (hynny yw, gallu person i godi yn statws economaidd) yng ngorllewin Ewrop, ac rydyn ni nawr wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn rhoi £245m yn fwy i Gymru nag oedd Cymru yn talu iddo.

Ar ben hynny, mi fydd Brexit yn debygol o effeithio ein heconomi’n wael, yn ystod cyfnod pryd mae Cymru’n parhau i fod yn wlad dlotaf y Deyrnas Unedig.

Ymddengys ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd gorwelion ynysig wleidyddol Prydain- adlewyrchiad o’r agweddau ymerodraethol sydd nawr yn trechu’r Unol Daleithiau ar ôl etholiad Trump. Ceir system dwy blaid sy’n fwyfwy seiliedig ar gae ffiniau, osgoi trafnidiaeth agored pobol, diwylliannau a chynhyrchion a- medd cefnogwyr Ukip- ‘gofalu am ein pobol ein hunain’.

Beth yw ein dyfodol fel cenedl?

Pam ddylen ni ddilyn yr un llwybr fel Teyrnas Unedig sy’n difetha’r amgylchfyd, gorfodi pobol dlawd i ddefnyddio banciau bwyd, bomio pobol ddiniwed ac wedyn gwrthod mynediad y bobl ddiniwed yma- gan gynnwys plant – i’r wlad sydd wedi difetha eu bywydau?

Mae angen i Gymru adfywio ei gwleidyddiaeth ac edrych ar ei hunan a gwledydd bychain eraill a sylwi ein bod ni’n gallu cyflawni cymaint mwy. Mae angen datganoli llwyr fel bod Cymru’n gallu penderfynu beth sydd orau i’w hunan, mae angen cytundebau masnach ledled y byd, a chytundebau amlochrog dros yr amgylchedd, hawliau dynol a safonau cynhyrchion, ac felly’r cymysgedd gorau o weithio ar y materion byd-eang a’r materion lleol yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Yn fyr, mae angen i Gymru edrych ar weithio tuag at annibyniaeth mewn Ewrop agored, yn yr un ffordd mae’r Alban yn edrych nawr. Dyw Cymru ddim yn fach. Mae hi’n fwy na 135 gwlad, ac os ydyn ni’n edrych ar y gwledydd sy’n cael eu llywodraethu gorau, fel arfer y rhai bach ydyn nhw!

Gwledydd bychain sy’n llwyddo

Yn yr esiamplau o wledydd bychain llewyrchus sy’n dilyn, prin sydd wedi cael unrhyw beth yn agos at y nifer o adnoddau naturiol mae Cymru wedi cael fel gwlad. Crud y chwyldro diwydiannol oedd Cymru – Amlwch ym Môn a wnaeth reoli pris copr ar farchnadoedd y byd; yn Sir Gaernarfon oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd; a’r Barri a Chaerdydd oedd y porthladdoedd mwyaf yn y byd.

Dylid ystyried datblygiadau gwledydd bychain eraill, yn enwedig y gwledydd nordig (ond allem ni ystyried datblygiadau yng ngwledydd fel Costa Rica, Ciwba, ac yn y blaen hefyd) a sylwi taw ni yn unig all newid ein dyfodol er gwell.

Dechrau da byddai mabwysiadu system llywodraethiant y gwledydd Nordig – system pleidleisio luosogaethol amlbleidiol sy’n seiliedig ar glymbleidiau a chytundebau yn lle gwrthwynebiaeth gyson afresymol rhwng dwy blaid.

Y sioc fwyaf i’r system fyddai’r ‘ddemocratiaeth gymdeithasol’ (Social democracy) y mae’r gwledydd yma yn ei dilyn- gyda gwariant cyhoeddus uchel, gwladwriaeth les mwy cyflawn sy’n seiliedig ar hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhyddid personol, tra bod y trethi uchel ar gyflog yn sicrhau anghyfartaledd a thlodi isel.

O ran yr economi, mae yna elfennau cyffredin ymysg y gwledydd nordig i gyd: system gorfforaethol lle mae cynrychiolwyr o undebau a chyflogwyr  yn trafod telerau a pholisïau’r farchnad lafur o dan gyfryngiad y Llywodraeth. Mae yna ymrwymiad tuag at feddiant preifat a chyfalafiaeth masnach rydd profedig- trafnidiaeth agored o bobol, cynhyrchion a chyfalaf. Mae hwn wedi galluogi iddynt gyrraedd safonau bywyd uchel.

Yn y gwledydd yma, mae pobol yn sylwi bod datblygiad angen pwrpas- os nag yn ni’n fwy addysgedig, iachus neu’n hapus, beth yw’r pwynt o gynyddu allbwn – sef CMC – y wlad? Mae angen ystyried mynegyddion eraill megis tlodi, anghyfartaledd, cyfeirnod GINI, ac ôl traed Carbon, a chreu cymdeithas lewyrchus ond hapus.

Ysbryd Lloyd George, Bevan a Gwynfor

Pam na ddylai Cymru adfywio ei gwleidyddiaeth yn ei modd arloesol ei hun, yn yr un ysbryd â Lloyd George, Aneurin Bevan a Gwynfor Evans? Tri dyn oedd yn hollol afresymol yn eu disgwyliadau am newid, a ysbrydolodd sefydliad y wladwriaeth lles a’r GIG, a llywodraeth i Gymru.

Mae cynnydd yn ddibynnol ar bobol afresymol. Trwy fod yn afresymol y gallwn ni greu Cymru sydd – trwy’r system nordig- ddim rhagor yn ddiurddas a ddinod, ond, yn llewyrchus a theg, yn agored ac yn gwneud penderfyniadau, chwedl Gwynfor, “gyda’n cefnau’n dipyn yn fwy syth, ac yn dal ein pennau’n dipyn yn uwch”.