RSS

Golwg360

MwyCau 
Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth

Yn enw’r mawredd

Cyhoeddwyd Chwefror 12, 2016 gan Dylan Iorwerth.

Tagiau: enwau hanesyddol, Newborough Hall, Plas Glynllifon


Efallai y bydd ailenwi hen Blas Glynllifon ger Caernarfon yn gwneud byd o les. Ac nid dim ond am fod Newborough Hall mor hyll a diddychymyg.

Dyma, gobeithio, fydd yr un cam haerllug yn rhy bell a fydd yn sicrhau bod Llywodraeth a Chynulliad Cymru yn gweithredu.

Mae’n ymddangos bod yna awydd bellach i addasu’r Bil Treftadaeth i gynnwys cymal yn gwarchod enwau hanesyddol.

Ond os ydi’r frwydr o ran egwyddor yn cael ei hennill, mae’r manylion yn bwysig hefyd.

Nid gwarchod enwau lleoedd hanesyddol sydd ei angen, ond gwarchod enwau hanesyddol ynddyn nhw eu hunain.

Dilyn yr arfer Seisnig ydi rhoi’r pwyslais i gyd ar adeiladau; mae llawer o hanes Cymru ynghlwm yn y ddaear a’r enwau sy’n perthyn iddi.

Oes mae angen gwarchod enw Plas Glynllifon – a’r adeilad ei hun – ond mae angen diogelu enwau eraill o bob math, er nad yw’r adeiladau efallai yr un mor bwysig. Yn yr enw ei hun y mae’r hanes.

Mwy na nodau


Gareth Williams - dylanwad caneuon Cymraeg
Wrth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd fynd rhagddi yn nyffryn Wysg, Dylan Iorwerth sy’n edrych yn ôl ar ŵyl fawr y cwm drws nesa’, Gŵyl Jazz Aberhonddu …

Efallai nad oes cymaint o sêr mawr Americanaidd yn dod i Aberhonddu ag oedd yn yr 1990au ond, rhywsut, mae’r Ŵyl Jazz yn gwreiddio’i hun yn ddyfnach yn ei thir ei hun.

A lle’r oedd hi ar wasgar mewn pebyll a than drionglau o gynfas lliw, mae hi bellach yn gwneud defnydd llawnach o ychydig o adeiladau’r dre’.

Un o’r mwya’ trawiadol o’r rheiny ydi’r Eglwys Gadeiriol a’r cyfuniad o awyrgylch defosiynol ac acwstig da yn troi ambell i gyngerdd yn brofiad dwys.

Roedd hi’n freuddwyd cael chwarae yno, meddai’r enwoca’ o jazzwyr y penwythnos, Courtney Pine a’i fersiwn o ‘Amazing Grace’ ar y clarinet bas yn dangos pam. Roedd yn ddigon call i’w chadw hi’n berffaith syml a phur, heb ddim ond newid cyweirnod ac ambell i nodyn plyg.

Syml oedd cyfeiliant y bianyddes Zoe Rahman hefyd a’i gwallt yn llythrennol yn cyrraedd at sêt y piano. Ond pan oedd angen, ar ganeuon eraill, roedd hithau’n tynnu seiniau dwfn, clasurol bron, o’r offeryn i redeg hyd y muriau cerrig.

Pan grwydrodd Courtney Pine i gefn yr eglwys, y tu cefn i’r gynulleidfa, roedd y sain fel pebai’n dod o’r awyr ac yntau wedyn yn cerdded i lawr trwy’r canol, fel offeiriad yn ei ddu a’r clarinet fel thuser yn gwasgaru nodau.


Andrea i Joan - Motis a Chamorro
Cadw’r gân yn syml a wnaeth Andrea Motis hefyd wrth roi fersiwn o Hallelujah Leonard Cohen – hi, y ferch 16 oed a’i band o Barcelona. Hi’n dangos aeddfedrwydd rhyfeddol gyda llais a thrwmped ac ambell gên Gatalan yn gymysg â ffefrynnau Saesneg.

Y tu cefn iddi, roedd Joan Chamorro ar fas a sacs – y dyn a ddaeth o hyd i’r gantores yn blentyn 11 oed. Roedd rhywfainto rhyddmau’r Môr Canoldir yn y gerddoriaeth, yn arwydd o allu jazz i lyncu a thrawsffurfio dylanwadau.

Sŵn emynau a chaneuon Cymraeg oedd yr islais yn nwy o alawon Gareth Williams a’r Power Trio – un brydferth, hiraethus, i gofio am Hedd Wyn ac Alun Lewis, beirdd y ddau ryfel byd, ac un arall, leddf, yn deyrnged i’r hanner Cymro, Bill Evans, un o fawrion gwirioneddol piano jazz.

Dyw Gareth Williams ddim yn siarad Cymraeg ond mae’n adnabod y caneuon a recordiau’r tenor David Lloyd yn ddylanwad pwysig arno. Gyda dau gerddor o Gymru, Laurence Cottle ar y bas a’r drymiwr Ian ‘Ianto’ Thomas, mae’r triawd yn gyfuniad o bwer a swyn, yn enwedig mewn ೢcân fel a Welshman in New York, sydd wedi ei hysbrydoli’n rhannol gan dafarn Dylan Thomas, y White Horse.

Un o’r cerddorion Cymreig mwya’ gwreiddiol ydi Huw Warren, o Abertawe gynt, bellach o gylch Porthmadog. Mae’n rhan o bob math o brosiectau gwahanol ac yn gerddor preswyl Gŵyl Aberhonddu, gan dynnu gwahanol gyfuniadau at ei gilydd.

‘Tails for Wales’ oedd ei brosiect y tro yma a chaneuon wedi eu hysbrydoli’n rhannol gan ei brofiadau ei hun. Roedd Dylan Thomas yma eto ond dyfeisgarwch di-ildio Huw Warren ydi ei gryfder mawr a’r tro yma, roedd ei fab, Zoot, ar y drymiau a’r basydd o Gymro Cymraeg, Huw Vaughan Williams, yn uned dynn wrth ei ochr.

Huw Williams fydd un o sêr jazz y dyfodol, ac yntau’n arwain ei fand ei hun o gerddorion ifanc oedd yn gyd-fyfyrwyr yn Llundain. Yn llinach rhai fel Charles Mingus, mae’n arwain o’r cefn ac ef yw cyfansoddwr y caneuon.

A dyna sut y daeth un o gerddi mawr T.H. Parry-Williams i Ŵyl Jazz Aberhonddu am y tro cynta’; mae ‘Hon’, sy’n enw ar y prosiect hefyd, yn gân llawn gwrthdaro i gyfleu agweddau cymysg y bardd – a’r cerddor – at eu diwylliant eu hunain.

I fi, roedd yna sŵn canu gwerin a hyd yn oed organ capel yn yr ychydig fariau cynta’ cyn i’r pump cerddor gydio yn y darn. A nhwthau i gyd yn cyd-ddyfeisio – yn hytrach na bod rhai’n chwarae a’r gweddill yn cyfeilio – mae band fel hyn yn creu siapiau sain yn fwy nag alawon traddodiadol.

Ond roedd yna un gân arall, wirioneddol gofiadwy, ar ôl, gan y gitarydd Martin Taylor, sydd wedi bod yn ymweld ag Aberhonddu ers 30 mlynedd a mwy ac yn un o noddwyr y clwb jazz lleol.

Sŵn canu gwerin yr Alban oedd yn y dôn a sgrifennodd o i gofio ei fab, a fu farw yn 21 oed pan oedden nhw’n byw yng ngorllewin y wlad. Am rai blynyddoedd, mi fethodd y cerddor a gwneud dim, nes i ychydig nodau dreiddio i’w feddwl a throi yn alaw ‘One Day’.

Eisteddfod y cojar canol oed – rhan 2

Cyhoeddwyd Awst 12, 2013 gan .

Tagiau: edward h dafis, Eisteddfod Genedlaethol 2013, meic stevens


Y dorf yn gwylio Edward H Dafis nos Wener

Dylan Iorwerth sy’n blogio am ei brofiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Ninbych.

Nos Fawrth

Sipwyr Cêt … noson y beirdd yn y Clwb Rygbi. Dim ond awr a hanner yn hwyr oedden nhw’n dechrau.

Noson deyrnged i Kate Roberts a llenorion eraill yr ardal oedd hi a’r cyfraniadau’n amrywio o’r cynnil (e.e. Arwyn Groe ar ddiffyg enwogion Dinbych, Llyr Lewis ag obsesiwn am T.Gwynn Jones ac Ifan Prys, efo enwau go iawn rhai o’r beirdd) i berfformiad rhyfeddol Gwyneth ‘Kate’ Glyn ac Aneirin ‘Saunders’ Karadog … bardd plant Cymru. Digon ydi deud fod y gwersi addysg rhyw yn eitha’ diogel hefyd.

Dydd Mercher

Hen draddodiad wedi ei atgyfodi … ciwiau hir y tu allan i doilets y merched. Roedd hynny’n arfer bod yn gymaint o ran o’r Eisteddfod â’r Pafiliwn ei hun. Ond pam na all merched cael toilets agored fel dynion … rhes o orseddau di-giwbicl … ac arbed lot o amser? Mae angen cydraddoldeb.

Problemau traffig o fath newydd yn yr Eisteddfod. Hanesion fod cyn Archdderwyd yn mynd fel y cythrel mewn bygi i bobol ag anableddau. Nid gwahardd na cyfyngiadau cyflymder ydi’r ateb chwaith, ond gwahodd Robyn Lewis i wneud arddangosfa yn Llanelli y flwyddyn nesa’ … fel y bois yna ar eu motobeics yn y Sioe Fawr. Whilis dros Gymru.

Dadlau wedi dechrau am gynnwys Saesneg mewn gweithiau celf yn yr Eisteddfod. Geiriau Saesneg yng ngwaith enillydd y Fedal Aur a hyd yn oed mewn llun o sgrifen gan Iwan Bala (enillydd gwobr wladgarol Ifor Davies). Problem arall … a ydi’r beirniaid yn ddigon hyddysg yn y Gymraeg i adnabod cyfeiriadau diwylliannol?

Nos Fercher – angen mwy na Meic

Roedd nodau Dic Penderyn yn yr awyr pan gyrhaeoddon ni Neuadd y Dre’. Meic Stevens yn canu efo Anthony Griffiths ar y gitêr a Ci ar y bas.

Potel ddŵr, nid gwin, yn ei law ar ôl ei salwch a’r gwallt bron iawn yn glaerwyn. Y llais yn eitha cry, ond ddim yn ddigon cry i foddi’r swn diawledig yn y neuadd. Pobol reit yn y ffrynt yn gweiddi siarad a Meic yn edrych yn ddigalon.

(Roedd ein cenhedlaeth ni’n ofnadwy am siarad mewn gigs, ond mae pethau’n mynd yn waeth. Ydi’r gred fod pobol yn gallu edrych ar y teledu, gwrando ar y radio a ffonio yr un pryd yn gweithio trwodd i’r byd cerddorol.)

Toni Schiavone oedd yr arwr yn y diwedd, yn gwneud y peth anodd o fynd i’r llwyfan i ofyn am dawelwch. Mi gafodd hynny ac mi weddnewidiodd y noson … Meic yn mwynhau, pawb yn cydganu a’r clasuron yn llifo.

Roedd y sŵn yn ôl erbyn i Plu ganu ond doedd o ddim yn ddigon i sbwylio’r harmonïau clos a chyfraniad mawr arall at atgyfodiad canu gwerin Cymraeg.

Dydd Iau

Llai o ruthro. Cyfle i edrych ar ambell i stondin. Llyfrau ail-law wrth reswm. Un efo llofnod David Lloyd George ac un gyfrol gan R S Thomas nad o’n i wedi clywed amdani o’r blaen. Ond penderfynu bod gormod o lyfrau heb eu darllen eisoes …

Ro’n i wedi cymryd rhan mewn sesiwn ddoe am ddyfodol y wasg brint … yr ymateb yn annisgwyl. Lot o bobol wedi mwynhau er ei bod hi wedi mynd yn dding-dong rhwng y ddau Fonwysyn, Gwilym Owen a Vaughan Hughes. Dyfodol y wasg brint mor niwlog ag erioed.

Penderfynu cael chydig o ddiwylliant … mynd i weld dramâu. Dwy am Kate Roberts gan Theatr Bara Caws, yn Theatr Twm o’r Nant, adeilad annisgwyl o fawreddog yr olwg yng ngwaelod y dre’.

Un ddrama oedd ‘Cyfaill’ gan Francesca Rhydderch, yn codi o gyfeillgarwch rhwng Kate Roberts a gwraig yn yr Almaen … ond drama oedd hi mewn gwirionedd am golli a galar ac am lwyddiant neu fethiant i ymdopi â hynny.

Mae hi’n rhoi golwg newydd ar Kate … yn benderfynol a bregus yr un pryd, yn galed ond eto’n ansicr … a gwahanol weddau ar hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr Almaenes hefyd.

Wedyn Te yn y Grug … addasiad newydd gan Manon Williams o’r straeon. ‘Cynhyrchiad syml’ meddai’r theatr ei hun a dyna oedd ei angen. Ond mae yna fwy iddo fo na hynny hefyd.

Y perfformiad canolog ydi un Manon Wilkinson yn rôl Winni Ffini Hadog. Mae ganddi’r gallu i gyfleu grym a gwendid, sicrwydd a diffyg hyder, rhywioldeb oedolyn a breuder plentyn. I raddau, roedd hynny i’w weld yn ‘Cyfaill’ hefyd, lle’r oedd hi’n actio merch yr Almaenes, a ddaeth draw i Ddinbych at Kate.

A dyna oedd yn dda – roedd yna adleisiau rhwng y ddwy ddrama, o ran symudiadau ac edrychiadau, ac ambell i frawddeg hefyd. Dyna pam ’mod i eisio’u gweld nhw eto …

(Un nodyn – pam fod actorion gwrywaidd Cymraeg yn troi’n edlychod hanner wrth actio bechgyn bach o ardal y chwareli? Qv sawl cynhyrchiad o bethau fel Un Nos Ola Leuad. Felly, ar ôl pefformiad cry iawn yn ‘Cyfaill’ (yn actio rheolwr y wasg) mae Rhodri Sion yn Te yn y Grug yn dechrau gwneud mosiwns rhyfedd, yn cerdded yn rhyfedd ac yn gwneud edrychiadau rhyfedd. I’r gwrthwyneb, roedd Fflur Medi Owen yn rhan Begw yn naturiol a hudolus)

Dydd Gwener

Diwedd y daith bron iawn, ond un dasg fawr yn aros … cyfarch bardd y gadair. Mewn gwewyr – prin wedi sgwennu dim ers mis Mawrth y llynedd a’r arfau’n fwy rhydlyd nag arfer. Ar ben hynny, tydach chi ddim yn cael gwybod pwy sy’n ennill, hyd yn oed ar y funud ola’. Trio gwneud rhywbeth cyffredinol, ond shimpil iawn.

Cerdded i mewn efo’r gyfarchwraig, Dorothy Jones Llangwm, a’r ddau ganwr. Rhys Meirion yn hymian rhywbeth dan ei wynt. Ddim yn swnio fel cân y cadeirio ond be wn i.

Tydw i ddim yn or-hoff o ddillad yr Orsedd ond Meistres y Gwisgoedd yn glên iawn ac yn garedig at ddyn sy’n edrych fel Kermit efo sbectol o dan yr amdo gwyn.

Y feirniadaeth … o dipyn i beth, mae’n dod yn amlwg na fydd yna Gadeirio. Anferth o benderfyniad anodd i feirniaid – mae yna lot o bwysau (nid gan yr Eisteddfod ond oherwydd disgwyliadau pobol). A ddylwn i ddiolch nad y tri yma oedd wrthi’r llynedd?

O leia’ does dim rhaid darllen y cyfarchiad tila … ac nid allan o diwn oedd Rhys Meirion.

Edward H

Ar ôl dyddiau o ddisgwyl a phob math o straeon gwirion, mi ddaeth yr awr fawr. Edward H yn canu eto. Cymysgedd ddiddorol o bobol yno, o blant bach bach i blant mawr mawr. Y rhai mawr oedd y gwiriona’.

Prin sylwi eu bod wedi dechrau – y PA yn wan. PA yn wan beth bynnag, meddai’r gwybodusion, a’r Eisteddfod yn ofni amharu ar y Pafiliwn. Y sŵn yn codi wrth i’r noson fynd yn ei blaen a’r gig yn gwella. (Nid fod Edward H erioed wedi canu mewn gig).

Gweld Llion Jones, y trydarwr trawiadau. Roedd o wrthi (yn trio trydar).

Pa sens mewn cael grŵp o sêr

A PA heb ddim pwer?

Piti na fasa honna i mewn am y Gadair. Ond oherwydd yr holl fynd ar y ffonau symudol, doedd y neges ddim yn cael ei hanfon. Braidd fel fy nghyfarchiad innau.

Toeddan nhw ddim cystal, wrth reswm, ond roedd y co’ yn llenwi’r bylchau a phawb yn cyd-ganu beth bynnag. Digwyddiad yn fwy na gig.

Dydd Sadwrn

Y peth mawr ydi’r sesiwn panel holi i ddathlu pen-blwydd Golwg yn 25. Tri o’r colofnwyr ar y panel – Angharad Mair, Alun Wyn Bevan y dyn rygbi, Mari Jones Williams (yr Hogan Wyllt gynt a Rupert Murdoch Penllyn h.y. perchennog newydd papur y Cyfnod).

Mynd yn ddigon hwyliog a phobol yn ymuno o’r gynulleidfa i roi barn – diolch i rai fel Geraint ‘Twm’ Trefor, yn fachog fel arfer. Gwyl Golwg fydd nesa, rhwng 5 a 7 Medi … nid brolio ydi’r pwrpas ond mae’r cyfan gobeitho yn dangos fod Golwg wedi gwneud cyfraniad i fywyd trwy’r Gymraeg, ac yn dal i wneud.

HELP!

Ond roedd yna gwmwl … mae fy nghamera a fy nghyfrifiadur wedi diflannu o stafell y wasg. A ydi fy anghofrwydd/didoreithdra wedi mynd cynddrwg fel fy mod yn anghofio be wnes i efo nhw. Ond ro’n i wedi eu gadael yno i fynd i Edward H a heb symud oddi yno. Ac roedd y swyddfa wedi ei chloi. Dwyn? Nage, gobeithio. Ond os oes yna rywun wedi gweld cyfrifiadur Toshiba mewn ces du a chamera Canon mewn bag bach llwyd a du, plis dywedwch. Nid y peiriannau sy’n bwysig ond y pethau sydd arnyn nhw … yn benna’ lluniau sawl taith ac ambell i ddarn o farddoniaeth.

Tydw i ddim yn llwyddo i sgwennu’n aml ac mae’n biti i’r cwbl lot fynd yr un fordd â’r cyfarchiad.

Eisteddfod y cojar canol oed

Cyhoeddwyd Awst 6, 2013 gan .

Tagiau: Eisteddfod Genedlathol


Dydd Llun, 5 Awst

Yr ateb i boblogrwydd yr Eisteddfod fyddai creu pabell gwynion. Mi fyddai pawb yn heidio yno, yn enwedig ar ddechrau’r wythnos.

Dyna sy’n cadw pobol i fynd tan y Coroni – ffeindio beiau a’u lleisio nhw’n uchel o gwmpas y maes. Siom fawr i bawb ydi fod y traffig wedi mynd fel wats – hyd yma.

Ond mae gen i gwyn sylweddol iawn, iawn ar ran y werin datws.

Mae yna ddau ran bellach i’r maes carafanau – un i garafanau (glei) a’r llall i bebyll. Yn rhan y carafanau, mae yna gasgliad o doiledau a chawodydd digon dymunol. Yn rhan y pebyll, rhes bitw o bortalŵs.

Rŵan, mae pawb sydd wedi gwersylla mewn pabell (fel fi) yn gwybod mai ni sydd fwya’ o angen cyfleusterau molchi a ballu. Mae’r carafanau crand yn llawn dop o drugareddau fel toiledau cemegol a jacwsis a phyllau nofio.

Felly cyngor i awdurdodau’r eisteddfod – trowch bethau fel arall a rhoi’r toiledau a’r cawodydd moethus yn yr adran bebyll.

Cyngor i eisteddfodwyr – cadwch yn glir o babellwyr neu, o leia’, sefwch rhyngddyn nhw a’r gwynt.

Nos Lun

Am y Gild – tafarn gigiau Cymdeithas yr Iaith. Mae’n dda gallu mynd i mewn i’r dref – yr elfen sy’n mynd ar goll yn yr Eisteddfod fodern.

Plwyf Llanwenog a Beirniad Eisteddfodol wedi meddiannu un gornel. Y gwin yn llifo i gyfeiriad y Beirniad nes i’r lleill sylweddoli nad oedd hi’n beirniadu ar eu cystadleuaeth nhw.

Syniad da cael lle ar gyfer nosweithiau acwstig, mwy clos, ond fod bar yn yr ystafell yn golygu criw swnllyd yn boddi llawer o geinder y sŵn i bawb oedd yn hanner cefn y stafell.

Clywed digon i wybod bod Kizzy Crawford yn dipyn o seren a bod Gwyneth Glyn yn hael wrth gydweithio efo gweddill yr artistiaid, a’r amrywiaeth o’i chwmpas yn cryfhau ei chaneuon unigol hithau.

Rhywdro, am ryw reswm, tua hanner ffordd trwy set Gareth Bonello, mi dawodd y terfysgwyr a mynd – mewn pryd i werthfawrogi manylion y gwaith gitâr a’r fenter ysgubol (a llwyddiannus) o orffen efo cân offerynnol.

Georgia Ruth yn cloi efo’r rhan fwya’ o’r Cowbois yn gefndir. Cyfuniad o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol a’r cyfan yn yr un ysbryd o draddodiad sy’n tyfu a chyfoethogi.

Bron cystal â iodlwr Llanwenog yn y bws bach ar y ffordd yn ôl.

Twyllo

Wedi cael clywed am ffyrdd newydd o dwyllo wrth ddod i mewn – yn dilyn stori’r diwrnod am ffugio.

Un tric ydi siarad efo’r bobol wrth y gat a sganio tocyn plentyn. Un arall ydi mynd yn ôl ac ymlaen trwy’r gât a chasglu bandiau i’w rhannu. Ydi’r rhain yn gweithio? Dwnim.

Mawrth, 6 Awst

Mae eisio gwahardd sbectols haul oddi ar faes yr Eisteddfod.

Does dim posib nabod teulu na chydnabod o tanyn nhw. Yn waeth byth, does dim modd methu eu hadnabod chwaith.

Yr unig ffordd i ddelio efo sbectols haul ydi gwenu a nodio a deud ‘Smai’ ar bawb sy’n eu gwisgo nhw – rhag ofn eich bod yn eu nabod.

A chael eich arestio am fod yn neis.

Co-ron

Wedi cael cip ar gerddi’r Goron. Ifor ap Glyn, bron yn gofi dre bellach. Un gerdd yn mynnu aros yn y meddwl.

Cerdd am Ystrad Fflur a chymharu gweddillion grisiau troellog i gorcsgriw sy’n agor potel o hen win y gorffennol.

Syniad mentrus. Fydd pawb ddim yn ei licio ond mae’n enghraifft o wreiddioldeb Ifor ap Glyn ar ei orau.

Cerdd arall – a’r cyfan yn codi o’r ffigurau Cyfrifiad – yn sôn am ward Peblig, Caernarfon, y ward Gymreicia’ yn y byd, ac un o’r rhai tlota’ yng Nghymru, yn ôl y ffigurau swyddogol.

Dim ond yn Gymraeg y gallai honno fod – yn wahanol i’r maestrefi dosbarth canol.

Y llyfr

Lansio llyfr i ddathlu pen-blwydd Golwg yn 25 – yn Eisteddfod Casnewydd 1988 roedden ni’n rhoi copi o rifyn enghreifftiol yn rhad ac am ddim. Casgliad o ddyfyniadau o erthyglau nodwedd a cholofnau’n benna’ a’r amrywiaeth yn syndod, hyd yn oed i fi.[MSOffice1]


[MSOffice1]

Cwcw gynta’r flwyddyn

Cyhoeddwyd Ebrill 20, 2013 gan .

Tagiau: adar, llanybydder, y gog


Cyw cog (Per Harald Olsen CCA 3.0)
Un o ddigwyddiadau mawr papur y Times erstalwm oedd y llythyr cynta’ i sôn am glywed y gwcw.

Hyd y gwn i, dyma’r blog cynta’ i ddweud ei bod hi wedi cyrraedd Cymru eleni.

Neithiwr – nos Wener 19 Ebrill – uwchben Llanybydder, roedd o leia’ un aderyn yn ôl ac yn canu nerth ei big.

Maen sawl un yn dod i’r ardal bob blwyddyn – y llynedd, mi glywson ni un am y tro cynta’ ar 15 Ebrill.

Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r goedwig fach lle’r oedd o ac mae’n ymddangos ei fod o wedi curo cogau Ceredigion sydd wedi cael eu tagio gan yr Ymddiriedolaeth Ornitholegol.

Yn ôl eu gwefan nhw, dim ond un o’r Cardis – Dafydd – sydd o fewn cyrraedd. Ddydd Mercher, roedd o’n gorffwys yn Extremadura, Sbaen, ar ôl hedfan ar draws y Sahara.

Wrth gwrs, mae’n bosib ei fod o wedi cyrraedd erbyn hyn achos maen nhw’n gallu hedfan cannoedd o filltiroedd mewn diwrnod.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi tagio pum cwcw o Geredigion, roedd Dafydd – yn anffodus, David y maen nhw’n ei alw fo – wedi aros am ychydig yn yr anialwch, efallai oherwydd llwch neu wynt.

Mae’n ymddangos mai dim ond un arall o’r pump sy’n dal i fod yn fyw ac mae Llwyd yn dal i lusgo’i draed yn yr Arfordir Ifori.

Dylan Iorwerth

Talwrn y Beirdd – pam cyhoeddi stori’r streic

Cyhoeddwyd Chwefror 20, 2013 gan .


Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, sy’n ymateb i gwestiynau sydd wedi codi ynglŷn ag erthygl ddiweddar ar Golwg360.

Mae yna sylwadau wedi bod am stori Golwg360 am Dalwrn y Beirdd a ‘streic’ rhai o’r cyfranwyr.

Roedd yna sylw arall yn sôn am godi sylw oddi ar ‘Facebook’ mewn teyrnged i’r diweddar Enid Jones, yr athrawes o  Harlech.

Mae’n bwysig ateb, gan fod y cwestiynau’n ymwneud â newyddiaduraeth yn y byd digidol. Er eu bod nhw, mewn gwirionedd, mor hen â newyddiaduraeth ei hun.

A oedd y beirdd yn hapus?

A chymryd stori Talwrn y Beirdd. Mae yna ddau benderfyniad allweddol fan hyn.

  • Un gan berson oedd yn rhan o’r gadwyn negeseuon a oedd yn amlwg yn teimlo y dylai’r drafodaeth fod yn wybodaeth gyhoeddus.
  • Roedd y llall gan Golwg 360 yn penderfynu cyhoeddi stori – am y penderfyniad hwnnw y mae Golwg360 yn gyfrifol.

Penderfyniad rhywun i roi gwybodaeth i’r wasg neu’r cyfryngau ydi sail y rhan fwya’ o straeon (ar wahân i rai PR). Does dim yn sylfaenol wahanol rhwng gollwng gwybodaeth am lythyr neu drafodaeth ar lafar a gollwng gwybodaeth o drafodaeth e-bost.

Mae hynny wedi digwydd erioed ac yn sail i lawer o straeon y byddai Aneirin a Geraint siŵr o fod yn eu clodfori – heb i neb ofyn caniatâd. Go brin y byddai’r un stori o sylwedd yn cael ei chyhoeddi fyth pe bai hynny’n digwydd.

Dw i’n poeni am Geraint – o ddefnyddio’r pren mesur sydd ganddo, ddylai o ddim darllen yr un papur na gwrando ar yr un bwletin newyddion fyth eto.

Er fod llawer o bobol fel petaen nhw’n credu hynny, nid gwaith y wasg Gymraeg ydi cuddio gwybodaeth anghyfleus rhag ein darllenwyr. Siawns nad oes gan y gynulleidfa hawl i wybod be sy’n digwydd.

Roedd Golwg360 yn ystyried cyhoeddi stori’n dweud fod y beirdd wedi penderfynu bod y streic ar ben  pan ddaeth hi’n  amlwg nad oedd llawer o’r beirdd yn cytuno â hynny. Be ddylen ni ei wneud – cyhoeddi’r wybodaeth neu gyhoeddi celwydd?

Facebook – math newydd o gyhoeddi

Mae’r pwynt arall – am godi dyfyniad neu wybodaeth o Facebook – yn llawer symlach. Dull o gyhoeddi ydi Facebook – boed i nifer gyfyngedig neu i bawb.

Yn yr achos yma, y nod oedd defnyddio’r dyfyniad i dalu teyrnged i wraig oedd yn dymuno hynny – yn union fel y mae dyfyniadau wedi cael eu codi at bwrpas tebyg o bob math o gyhoeddiadau eraill.

Hen Ddyn Gwyrdd

Cyhoeddwyd Awst 20, 2011 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: Dyn Gwyrdd, Gentle Good, Villagers, Y Niwl


Y dyn gwyrdd
Mae yna rai llefydd y byddwch chi’n mynd iddyn nhw ac yn teimlo’n gartrefol ar unwaith. Dau gam i mewn i’r lle, ac mi fydd beichiau’r byd yn diflannu. Lle felly ydi Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mi allwch chi ddweud llawer am ŵyl o weld y swyddfa docynnau. Doedd yna neb yn cwyno, neb ar frys na neb yn harthio ar ei gilydd.

Ychydig gannoedd o lathenni wedyn, trwy jyngl o bebyll, ac roedd stad Glanusk yn agor o’ch blaen a’r dorf yn eistedd a gorweddian ar yr amffitheatr naturiol o amgylch y Prif Lwyfan, fel chwarel lechi liwgar.

Mae yna deimlad ffair i rannau o’r safle – nid am fod yno olwyn fawr ond oherwydd y stondinau bach hynod sydd yma ac acw a’r pebyll bwyd ecsotig – o fwyd y soukh i gyrris o Goa a chacenni cartref a Chai Wallah, lle mae pobol yn sugno ar bibelli mwg.


Rhan o'r ssafle
Syniadau i’r Eisteddfod

Mi fyddai’n llawer mwy anodd creu awyrgylch tebyg yn yr Eisteddfod, lle mae yna gystadlu a gweithgareddau mwy swyddogol, ond mi fyddai dod ag elfen o’r Dyn Gwyrdd i’r Brifwyl yn gweddnewid y Maes.

Y twtsh anffurfiol ydi’r peth … tydi popeth ddim yn sgwâr, yn syth ac unffurf ac mae yna gorneli bach tawel ac annisgwyl … anodd ei wneud, ond gwerth chweil. Does dim rhaid i bopeth fod yn soled a sylweddol – mae’r ysgafn a’r meddal a’r symudol weithiau’n llawer gwell.

Yn sicr, mi fyddai’n werth mabwysiadu’r cae plant –Cenedlaethau’r Dyfodol – lle mae yna bob math o weithgareddau y tu ôl i ffens fach liwgar.

Ac, wrth gwrs, mi ddylai’r Eisteddfod ffeindio maes bob blwyddyn sydd mewn lle mor brydferth â Dyffryn Wysg yng nghysgod y Mynydd Du.

Y wlad sy’n rhoi teimlad Cymreig i’r ŵyl ond mae yna ymgais o ddifri’ i gynnwys y Gymraeg hefyd, gyda nifer o artistiaid Cymraeg a fersiwn cwbl Gymraeg o raglen y penwythnos. Gwers i wyliau eraill fan’na – Y Gelli a Jazz Aberhonddu, er enghraifft.

Ac o sôn am artistiaid … mae yna gerddoriaeth hefyd …


Y prif lwyfan

Y gerddoriaeth

Dal diwedd y Gentle Good yn y Babell Mas Draw … anferth o babell dywyll yn y pen ucha’ gydag un ochr wedi’i hagor.

Roedd Gareth Bonello a’i gerddorion yn cael cymeradwyaeth frwd gyda’u sain swynol, gyfoethog yn gefndir i ganeuon hardd.


Gentle Good
Mi orffennodd efo cân Gymraeg, Cysgod y Dur, am y gwaith sydd ger ei gartre’ yn ne Caerdydd. Roedd clindarddach peiriannau’n troi’n sain llawn … gwynt neu fôr falle … gyda fiolin, soddgrwth a banjo.

Mae yna ddogn go lew o fandiau Ewropeaidd hefyd. Treefight for Sunlight, er enghraifft. O Gopenhagen. Fel bandiau jazz Llychlyn, maen nhw’n dda am greu awygylch reit fesmeraidd … yn enwedig pan lwyddodd un o’r cerddorion – dyn – i ganu Wuthering Heights Kate Bush yn y falsetto gwreiddiol.

Ei lais ef oedd yn gwneud iddyn nhw swnio weithiau fel Queen hefyd ac, wrth iddyn nhw ganu, roedd swigod mawr yn cael eu gollwng o rwyd gan rywun, i hwylio ar draws yr awyr.

Ar lwyfan Tafarn y Dyn Gwyrdd yr oedd Y Niwl, y band offerynnol sŵn-glan-môr o ogledd Cymru. Mae’n rhan o’r safle sy’n defnyddio’r stad yn berffaith – un rhan o’r hen ardd furiog yn Ardd Einstein, sy’n dathlu rhyfeddodau gwyddoniaeth, y llall yn neuadd gyngerdd berffaith yn yr awyr iach.


Y Niwl
Byr a bywiog a di-enw ydi caneuon Y Niwl – “ddus us un  deg pedwar” meddai Alun Tanlan ac i mewn â nhw i’r alaw sydd bellach yn enwog ar Football Focus. Bas a drymiau cry’ a gitâr glir yn codi atgofion am y Beach Boys, y Shadows a hyd yn oed Morricone.

Rhuthro draw i’r Mas Draw i weld Wibidi, cyfuniad o rai o gerddorion gorau Tiger Bay, y Super Furry Animals a’r peth, gyda chymeriad bownsiog lliwgar, Rashid Omar, yn brif lais ac ysbrydoliaeth. Efo Suicide Baby a Some People, roedd y babell yn siglo … rhy bwerus  a thrwm falle i rai o dyrfa’r Dyn Gwyrdd … ond roedd yna sŵn reggae, ffync a roc yn y gymysgedd a’r chwarae’n dynn a chryf. Mae’r albwm cynt’ – Tigerbaby – ar y ffordd.

Er gwaetha’ argymhelliad hen hipi – pobol ifanc yn eu 20au a theuluoedd ifanc ydi mwyafrif y dorf, ond mae pawb yn cael eu derbyn – wnaeth Robyn Hitchcock ddim ohoni i fi, er ei fod o’r un genhedlaeth. Ambell gân iawn, a cherddorion da, ond personoliaeth llai cynnes na’r ŵyl. Cerddor cwlt, medden nhw … ac mae yna reswm am hynny.

Mae math arall o gerddoriaeth yn nodweddiadol o’r Dyn Gwyrdd. Stwff breuddwydiol, melodaidd, sy’n mynd â’r rhai sy’n cofio yn ôl i hipi-dod y 60au. Roedd yna bedair cerddor o Awstralia’n canu yn y gwyll ar Lwyfan y Dyn Gwyrdd – Emily Barker a The Red Clay Halo – gyda llinynnau’n gefndir. Y math o ganu gwerin modern meddylgar sy’n plesio mewn lle fel hyn.


Connor O'Brien ar y sgrin
A fersiwn pwerus o hynny oedd gan Villagers ar y prif lwyfan. “Dim ond yr ail dro i fi berfformio yng Nghymru,” meddai’r Gwyddel, Connor O’Brien, sy’n eu harwain. “Mae hynny’n wirion a ninnau drws nesa’.”

Mae yna angerdd yn ei ganu a’r geiriau’n bwerus, am drais ar y strydoedd ac, yn aml, am fethiant geiriau a theimladau. Caneuon gwerinaidd ydyn nhw, ond efo cyfeiliant pwerus sydd bron â throi’n anthemaidd ac yntau’n udo’i boen. Dim ffys, dim ond cerddorion da, o ddifri.

Sŵn gwerin mwy traddodiadol sydd i Bellowhead, ond efo ymyl rocaidd hefyd, a llwyth o offerynnau. Mae’r miloedd o flaen y prif lwyfan yn bownsio yn y tywyllwch a’r swigod mawr yn dal i hwylio ar draws yr awyr.

Gadewch i’r plant bychain

Mae rhai o’r plant ar eu traed o hyd; mae pawb yn gymysg yma. Rhai o’r rhai bach yn cysgu yn y trolis lygej, eraill wedi eu troi’n llwyfannau neu drampolîn. Dim ond un a welais i’n crio; chlywais i’r un rhiant yn dweud y drefn.

Mae yna rai llefydd y byddwch chi ynddyn nhw am ychydig oriau ac mae’n teimlo fel eich bod wedi bod yno erioed. Mae’r Dyn Gwyrdd yn un o’r rheiny.


Nos da

Bendith yn y Bannau

Cyhoeddwyd Awst 15, 2011 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: allen toussaint, courtney pine, gwyl jazz, zoe rahman


Courtney Pine
Hanner dydd

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi newid. Er gwell ac er gwaeth.

Does dim angen mynd yn agos at y dre’; mae’r rhan fwya’n digwydd ar feysydd trwsiadus ysgol fonedd Coleg Crist.

Criw Gŵyl y Gelli sy’n rhedeg y sioe bellach ac maen nhw’n gwybod sut i redeg sioe. Trefn ar bopeth, popeth mewn trefn … ond tipyn o’r hen ysbryd ar goll.

Mae hi’n braf iawn wrth i bobol eistedd a lled orwedd rhwng y stondinau ar y brif lawnt ond does dim teimlad o’r dre’.


Plant a phobol ifanc yr ysgol haf
12.20 – gadewch i blant bychain

Mae’r hen ysbryd yn fyw yn y Neuadd Chwaraeon, a’r llwyfan yn llawn o bobol ifanc. A dyma’r prif berfformiad gan artistiaid o Gymru.

Criw rhwng 8 ac 18 oed ydyn nhw sydd wedi bod yn rhan o gwrs haf yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd – o bianyddion sy’n methu â chyrraedd y pedalau i gantorion, sacsaffonwyr a basyddion sy’n llawn o hyder yr arddegau.

Dan arweiniad cerddorion proffesiynol, maen nhw wedi eu rhannu eu hunain yn fandiau o wahanol oed, efo enwau fel Paula’s Pandas from Pluto, ac mae’n gyfle delfrydol i ddeall sut mae jazz yn gweithio.

Criw o’r rhai ieuenga’ sy’n taclo un o glasuron Theolonius Monk, Blue Monk, gan roi gwedd New Orleans iddi. Mae’r canolbwyntio’n glir ar bob wyneb.

Y peth mawr cynta’ ydi cael yr amser yn iawn. Mae’r bît ara’n cael ei osod a’i gynnal ac wedyn yr unawdwyr yn gosod ychydig nodau o unawd ar ei ben … yn ofalus a llawn bwriad.

Mae Lee’s Lunar Lions yn hŷn ac yn fwy mentrus a phawb yn chwarae amrywiaeth o batrymau ar ben y rhythm mwy cymhleth. Mae technegau clasurol perfformio jazz yn dechrau dod i’r amlwg, efo’r sŵn yn chwyddo’n raddol cyn gostwng eto ac ambell i berfformiwr, fel sacsaffonydd o’r enw Ben, yn swnio fel cerddorion profiadol.

Y rheiny sy’n gorffen y set – pedwar darlithydd yr ysgol haf yn dangos sut i wneud pethau dan arweiniad y basydd, Paula Gardiner.

Lle’r oedd unawdau’r plant yn cael eu gosod ynghanol y gerddoriaeth, fel ceiriosen ar ganol cacen, mae unawdau’r cerddorion proffesiynol yn tyfu o’r alawon –Paul Jones a’i rediadau ar nodau ucha’r piano, Lee Goodall yn gwau nodau ar y sacs, Mark O’Connor ar y drymiau’n cynyddu’r tempo a’r sŵn a Paula Gardiner ei hun yn awdurdodol ar y bas.

Dechrau da ac amser ymuno yn y ciw ar gyfer y babell fawr.


Zoe Rahman
2.30 – rhaeadr o wallt a phiano

Y gwallt sy’n eich taro chi gynta’. Llifeiriant ohono fo yn cyrraedd at sedd y piano.

Mae Zoe Rahman yn cael ei hystyried yn un o bianyddion gorau gwledydd Prydain ac mae’n edrych yn drawiadol hefyd.

Ar y ffordd draw, roedd ei gyrrwr wedi awgrymu fod ganddi dipyn o liw haul. Hi sy’n dweud y stori. Mae ei thad o Fangladesh.

Mae hynny’n berthnasol i’r set – yn enwedig gan fod ei nain ar ochr ei mam yn dod o Iwerddon a hithau a’r band wedi bod yn teithio trwy’r Ynys Werdd.

Mae seiniau cerddoriaeth draddodiadol y Bengaliaid a rîls Gwyddelig i’w clywed yn glir yn un o’r caneuon a fydd i’w clywed ar ei CD nesa’, Kindred Spirits. Mae’n dangos sut y mae jazz yn gallu bod yn sail i bob math o wahanol draddodiadau.

Erbyn hyn, mae brawd Zoe Rahman ar y llwyfan hefyd – clarinetydd sy’n gwneud i’w offeryn hedeg tros biano cyhyrog, miniog ei chwaer. Os oedd adran rhythm y plant yn bendant a phwyllog, mae drwm a bas yn mynd ar wib.

Ac wedyn darn ara’, a’r clarinét breuddwydiol a thincial nodau ucha’r piano’n creu darluniau o orllewin Iwerddon, yn llynnoedd, mynyddoedd a mawn.

“Dw i’n mynd i wneud Shirley Bassey rŵan – gan fy mod i yng Nghymru,” meddai Zoe Rahman. “Dw i’n mynd i newid fy nillad.”

Mewn deg munud, Zoe Rahman fydd y pianydd ym mand newydd y cawr Courtney Pine.

3.55 – Pine, y gerddoriaeth sy’n gwella’r byd

Does ganddo fo ddim sacs. Dim ond rhywbeth sy’n edrych yn debyg i sacs wedi ei stretsio i tua phum troedfedd o hyd. Mae’r dyn yn egluro. Clarinét bas ydi hwn.



Ond mae’r dechneg ryfeddol yr un peth. Nodau dyfnion fel taranau a’r rhai ucha’ fel ehedyddion. Mae Pine yn ddyn mawr a’i ysgyfaint yn fwy.

Dair gwaith yn ystod y set, mae’n cyflawni camp fawr y sacsaffonydd, yn cynnal un nodyn di-dor am funudau, gan chwythu ac anadlu’r un pryd.

Mae yntau’n dangos dylanwad mathau eraill o gerddoriaeth – o siantio eglwysig i gerddoriaeth dawnsio gwerin Lloegr.

Mi fyddai un gân, They Came From The North, yn gyfeiliant perffaith i ffilm am ryfelwyr o Lychlyn.

Mae’r curiad i ddechrau’n gadarn a dramatig a’r cyfuniad o’r clarinét bas, fiola a fiolin drydan yn anthemaidd o urddasol, cyn i Zoe Rahman (yn ei ail ffrog) dorri’r rhythm ac amrywio a rhaeadru’r sŵn yn ôl ac ymlaen o ochr dde’r piano.

Am ychydig, mae Amanda Drummond ar y fiola yn canu ei hofferyn a’i llais yr un pryd a’r sŵn fel llafarganu o oes arall. A Courtney Pine yn chwarae’r un patrwm o nodau, gan ddringo’r sgêl yr un pryd. Y cyffro’n cynyddu, cyn troi’n ôl at y curiad defodol, crefyddol bron i orffen.

Darnau o Symffoni rhif 9 gan Beethoven sydd nesa’ – a’r dorf yn clapio a chydganu i sain yr Ode to Joy. Mae yna ferch fach yn eu canol, tua thair oed efallai o dan ei het haul fach strepiog. Mae wrth ei bodd efo’r clapio, ei llygaid yn llawn rhyfeddod a’i gwên fel pelydryn o haul. Wrth iddi weiddi unwaith, mae hyd yn oed yn cael sylw Pine – mae ymyrraeth plentyn yn siwtio’r gân i’r dim.

Mae hon yn rhan o CD Europa. Un o negeseuon cyson Courtney Pine yw fod cerddoriaeth yn tynnu’r ddaear at ei gilydd.

“Os ydych chi eisio ysbrydoli pobol ifanc, dywedwch wrthyn nhw chwarae cerddoriaeth,” meddai. Ac yntau wedi dod o Lundain ar ddiwedd wythnos o derfysg, does dim angen dweud mwy.

Heblaw hyn: “Gŵyl Jazz Aberhonddu ydi un o’r rhai gorau yn y byd.” Mae’n gwybod sut i blesio.

6.00 – pianydd mewn poen

Tawel, addfwyn eu ffordd ydi Paula Gardiner a Zoe Rahman yn eu dull cyflwyno. Dyn sioe ydi Courtney Pine.


Elan Mehler
Mae Elan Mehler a’i driawd yn ddifrifol, yn ddifrifol iawn. Y pianydd, y basydd a’r drymiwr yn wynebu’i gilydd yn fwy na’r dorf. Nid fod gwahaniaeth – mae eu llygaid ynghau am y rhan fwya’ o’r set. Mae’r triawd o  Brooklyn yn edrych fel petaen nhw mewn poen.

Ond dyma un o bianyddion mwya’ addawol y byd jazz rhyngwladol ac mi allwch chi ddeall pam. Mae’r brawddegau hir yn llifo yn ôl ac ymlaen a chyfuniadau bach annisgwyl o nodau yn ei osod ar wahân.

Erbyn hyn, mae’r jazz wedi gadael patrymau pendant y plant ar ddechrau’r bore. Mae’r tri cherddor fel petaen nhw’n dilyn eu trywydd eu hunain ond gyda’i gilydd yr un pryd.

Yr uchafbwynt ydi hen gân gospel a’r alaw o wreiddiau jazz yn swynol ac urddasol. Yn raddol, mae’r amrywio’n dechrau. Y nodau’n dechrau amrywio, y curiad yn cael ei dorri a’i chwalu ychydig.

Ac wedyn mae’n cael ei throi tu chwith. Lle’r oedd yr amrywiadau’n lliwio ychydig ar yr alaw, cyn hir nodau gwreiddiol yr alaw sy’n lliwio’r chwarae mentrus, i’ch atgoffa chi o ble y daeth y cyfan.

Mae’r basydd a’r drymiwr yn gwneud llawer mwy na chadw amser. Maen nhw’n creu trwy’r amser.

Ac mae yna jôc hefyd. Ar ôl i’w fodryb argymell tabledi at ddolur gwddw, fe addawodd Mehler enwi cân ar ei hôl. Auntie-biotics yw honno.

7.30

Cyfle am hanner o gwrw lleol – Cerdyn. Da iawn. Mymryn o fwyd – mae Blas ar Gymru yma, un o’r ychydig elfennau Cymreig. Ac o dan goeden ar y lawnt, y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a’i wraig, yr AC Julie.

8.00 – siwt hanesyddol o goch

AW! Mae hi’n brifo’r llygaid. Y siwt. Coch llachar, efo brodwaith aur. Tei goch, efo patrwm sgwarog aur a chrys … coch.

Ac mae gan Allen Toussaint holl driciau’r perfformiwr, efo’i wên barod, ei lais melodaidd a’i foesgarwch mawr.

Dyma un o gewri New Orleans, yn awdur a chynhyrchydd caneuon i bob math o gerddorion – o Lee Dorsey i Otis Redding – ers diwedd y 50au. Mae hefyd yn ganwr blws a jazz yn ei rinwedd ei hun a chorwynt Katrina, meddai, wedi ei orfodi i fynd ar y llwyfan.


Allen Toussaint
Dim ond y fo sydd yna, y fo, ei biano – a’i siwt.

Mae’n dweud straeon rhwng y caneuon … am un canwr coci. “Dw i’n hoffi coci … mae’n golygu y byddwch chi naill ai’n filiwnydd neu yn y carchar. Ac mi ddof i’ch gweld chi y naill ffordd neu’r llall.”

Ym mhiano Toussaint, mi allwch chi weld sut yr aeth ragtime a ‘stride’ yn ganu roc a rôl, o Fats Waller i Jerry Lee Lewis ac mae un medli o ganeuon fel hanes cerddoriaeth tros hanner canrif.

“I reckon I’m in Brecon” meddai amrywiad bach taclus ar un o’i hen ganeuon. Ac mae’n ddigywilydd yn ei ganmoliaeth … “Mae hi mor brydferth yma, does gyda chi unman i fynd ar ôl marw.” Does neb yn coelio, ond mae pawb yn esgus eu bod nhw.

Y stori ydi’r uchafbwynt. Stori hir, hamddenol am ei blentyndod, yn cael ei hadrodd tros dincial y piano, sydd weithiau yn lliwio’r dweud. Mae’n sôn am adael y ddinas fawr i ymweld â pherthnasau yn y wlad, lle’r oedd pobol yn siarad Creole ac yn eistedd ar eu portsh fin nos yn adrodd straeon a chreu cerddoriaeth.

Rhwng y piano a’r llefaru swynol, mae’r darlun yn dod yn fyw a’r plentyn oedd yno 65 o flynyddoedd yn ôl wedi dod yn fyw unwaith eto. Roedd yn teimlo’n saff a diogel, meddai Toussaint – neges arall i’r oes.




Amanda Drummond

Y wasg felen, yr heddlu a ni

Cyhoeddwyd Gorffennaf 7, 2011 gan Prydain.

Tagiau: News of the World


Dylan Iorwerth
Dylan Iorwerth yn croesawu trafferthion y News of the World…

Does dim amheuaeth – dyma un o’r cyfnodau gwaetha’ erioed i ‘newyddiadurwyr’ y wasg felen a’r papurau capiau coch. Ar yr un pryd, mae’n gyfnod arbennig o dda i newyddiaduraeth go iawn.

Oni bai am bapur newydd y Guardian, ac un neu ddau arall yn ei sgil, fyddai’r wybodaeth ysgytiol am ddulliau’r News of the World ddim wedi dod i’r amlwg.

Roedd prif weinidogion a’r rhan fwya’ o wleidyddion wedi methu’n llwyr â galw Rupert Murdoch i gyfrif. Ar y gorau, roedd yr heddlu wedi helpu i gadw pethau’n dawel; ar y gwaetha’, o gofio’r honiadau am daliadau cildwrn, roedden nhw ynghanol y busnes.

Hyd yn oed rŵan, dim ond ar ôl iddi ddod yn amlwg bod y farn gyhoeddus yn troi yn erbyn papurau Murdoch y mae David Cameron wedi bod yn ddigon dewr i wneud safiad.

Mae eraill, fel AS y Rhondda, Chris Bryant, a Tom Watson o West Bromwich, yn haeddu clod am leisio barn yn llawer cynt ond fydden nhw, chwaith, ddim wedi gallu gwneud hynny heb ymgyrch newyddiadurol ddygn y Guardian tros gyfnod o bum mlynedd.

Cyfle i garthu’r stablau

Bellach, mae hwn yn gyfle i garthu’r stablau o ddifri’. Roedd llawer yn amau, neu hyd yn oed yn gwybod, am ddulliau gwaetha’r papurau adloniant; erbyn hyn, mae yna brawf ac angen i weithredu.

Does dim gwahaniaeth am wendid neu gryfder Comisiwn Cwynion y Wasg; mae’r ddadl am breifatrwydd enwogion a gwleidyddion yn amherthnasol; mae’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn groes i’r gyfraith ac yn llwgr.

O ran teuluoedd fel rhai Milly Dowler, merched Soham, meirwon Llundain a milwyr Afghanistan, mae’r gweithredu wedi bod yn gwbl anfoesol hefyd.

Mae tawelwch y papurau coch eraill yn awgrymu eu bod nhw’n rhan o’r un math o weithredu.

Yr heddlu at eu gyddfau

Yr hyn sy’n anodd ei ddeall ydi sut y gall Heddlu Llundain ymchwilio i hyn, gan ei bod yn ymddangos eu bod nhwthau at eu gyddfau yn y budreddi.

Mae’n ddigon posib hefyd y bydd News International yn gallu pwyntio bys at rhyw un swyddog ‘drwg’, fel y gwnaethon nhw efo gohebydd brenhinol y News of the World.

Doedd hynny ddim yn ddigon da yn 2007 a dydi o ddim yn ddigon da rŵan. Mae’n anodd credu nad oedd gan swyddogion uchel iawn yn y cwmni wybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd.

Os nad oedden nhw’n gwybod, mi ddylen nhw fod, fel y mae’r Sun a’r News of the World mor hoff o ddweud wrth weinidogion llywodraeth. Ac, yn amlwg, roedd yna ddiwylliant yn y cwmni oedd yn gyfforddus efo ymddygiad o’r fath.

‘Ymddygiad troseddol difrifol’

Wrth ddedfrydu’r gohebydd Clive Goodman a’r ditectif preifat Glenn Mulcaire yn 2007, mi ddywedodd y barnwr hyn: “Roedd hyn yn ymddygiad troseddol difrifol na ddylen ni ddod i’w dderbyn.”

Mae angen ymchwiliad cyhoeddus i ymddygiad y News of the World a phapurau eraill, oes; mae angen ymchwiliad heddlu go iawn, oes, ac ymchwiliad i’r heddlu. Mae angen hefyd i wleidyddion ystyried o ddifri pam eu bod nhw’n rhy ofnus i wneud safiad yn erbyn Murdoch.

Dim ond lles a ddylai ddod o olchi’r dillad budron yma. Mi ddylai arwain at drafodaeth go iawn am ymddygiad yr heddlu a gwleidyddion ac, yn fwy na dim, am ryddid y wasg – a hynny ar dir uwch na rhincian dannedd am hawliau ychydig o selebs.

Mae angen gwarchod y gorau a chondemnio’r gwaetha’n llwyr.

Dyna pam, mewn ffordd ryfedd a thrist, y gall y rhain fod yn ddyddiau da.

Problem Ieuan, cysur Carwyn

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2011 gan Cymru.

Tagiau: Ieuan Wyn Jones


Ieuan Wyn Jones
Dylan Iorwerth yn ystyried arwyddocâd go iawn y gwyliau yn Ne Ffrainc…

Nid colli’r Agoriad Swyddogol oedd problem fawr Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru. Llawer gwaeth oedd colli dyddiau cynta’r sesiwn newydd.

Roedd hynny wedi pylu min ymosodiad ei blaid ei hun ar Carwyn Jones a Llafur – eu bod nhw’n llaesu dwylo ers yr etholiad a bod Cymru’n cael ei chario gan y llif.

Roedd gan y Prif Weinidog ateb hawdd i’r ymosodiadau yn Siambr y Cynulliad – dyw eich arweinydd chi ddim hyd yn oed yn trafferthu bod yma. Ac mae Carwyn Jones yn effeithiol iawn pan ddaw cyfle fel yna ar blât.

Gyda ffrindiau fel hyn …

Bellach, beth bynnag ydi dymuniadau Ieuan Wyn Jones, mi fydd rhaid i’r Blaid symud yn gynt i gael arweinydd newydd. Fel arall, mi fydd yn darged hawdd iawn yn y dyfodol hefyd.

Un o’r rhai sy’n sôn am sefyll i fod yn Ieuan Heir ydi Dafydd Elis-Thomas. Yn yr un sesiwn, mi wnaeth job  effeithiol iawn o danseilio cwestiynau ei gyd-aelod o Blaid Cymru, Simon Thomas, ynglŷn â phenodi Cwnsel Cyffredinol.

Mae hyn i gyd – a brwydr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr a  gwendid y Democratiaid Rhyddfrydol – yn dangos y gallai hi fod yn gymharol hawdd i Lafur lywodraethu heb fwyafrif clir.

Y Dimocratiaid Rhyddfrydol

Efo dim ond tri aelod ar hyn o bryd, mae plaid Kirsty Williams mewn mwy o strach fyth. Y dyfalu ydi na fydd y ddau aelod colledig – Aled Roberts a John Dixon – yn cael dod yn ôl. Mae mwyafrif llethol yr aelodau Llafur yn erbyn a llawer o ACau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr hefyd.

O ganlyniad, dim ond hi ei hun a Peter Black o Abertawe fydd cnewyllyn y blaid – er bod gan eilydd Aled Roberts, Eleanor Burnham, rywfaint o brofiad, mae wedi ymosod ar ei harweinydd ei hun a galw’i harweinyddiaeth yn “shambls”.

O ystyried faint o ddatganiadau polisi neu areithiau mawr sydd wedi eu gwneud, mae’r cyhuddiad yn erbyn Carwyn Jones o orffwys ar y rhwyfau’n ymddangos yn un digon teg.

Ond dyma’r pwynt: yn wleidyddol does dim rhaid iddo fo wneud affliw o ddim.