Mae myfyriwr o Gaerdydd wedi gwadu mai fo oedd yn gyfrifol am y graffiti baentwyd ar wal ‘Cofiwch Dryweryn’ ar ôl cael ei enwi gan rai ar wefan Twitter.

Bore ddydd Mercher diwethaf, daeth i’r amlwg fod y wal eiconig ger Llanrhystud wedi ei ddifetha gan graffiti.

Dywedodd Ifan Lewis, myfyriwr Celf blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, bod y graffiti “ddim byd” i’w wneud gyda fo, er ei fod yn dweud bod yr ymateb i’r digwyddiad wedi bod yn “ddifyr”.

Dywedodd wrth Golwg360 bod yr holl son amdano ef yn “fwy o ffuglen i fod yn onest” ac nad oedd yn siŵr “pa sail” oedd i’r cyhuddiadau.

Er ei fod yn “cefnogi’r gofod” ac yn “genedlaetholwr”, fe ddywedodd wrth Golwg360 ei fod yn “eithaf diddorol gymaint o bobl sydd wedi ymateb yn ffyrnig i’r peth”.

“Pwy sydd berchen y peth beth bynnag?” meddai cyn dweud ei fod o’n “graig mewn man cyhoeddus”.

‘Darn bach o garreg a phaent’

“Mae’n ddiddorol bod pobl yn teimlo eu bod nhw eisie’ darn bach o garreg a phaent i gofio Tryweryn,” meddai.

Ychwanegodd ei fod o’n “ddiddorol” bod pobl yn ymateb mor ffyrnig i “beintio graffiti ar hen beth oedd yn graffiti yn y lle cyntaf”.

“Maen nhw’n ymateb mor ffyrnig i baent ar garreg – ’chydig mwy o baent sy’ arno nawr,” meddai’r artist ifanc o Gaerdydd sydd a’i fryd ar fynd ymlaen i astudio M.A. cyn ceisio ennill bywoliaeth fel artist.

“’Dw i wedi gweld gwell graffiti – dydi o ddim yn ddeniadol. Dydi o ddim yn graffiti gwreiddiol, roedd well gen i Cofiwch Dryweryn.”

Cafodd y wal ei phaentio’n wreiddiol gan y llenor Meic Stephens, tad y DJ Huw Stephens sy’n gyflwynydd ar BBC Radio 1, yn 1965.