Fe fydd Cefin Roberts yn gadael ei swydd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Golwg360 yn deall ei fod wedi cyhoeddi ei fwriad wrth aelodau’r staff ddoe ac fe gadarnhawyd y newydd gan y Cadeirydd, Ioan Williams, heddiw.

Y disgwyl yw y bydd yn gadael ddiwedd Mawrth ar ôl cyfarwyddo cynhyrchiad newydd y cwmni o’r Gofalwr gan Harold Pinter.

“Mae’n gadael gyda’n dymuniadau ni am bob llwyddiant a’n diolchgarwch mawr am ei gyfraniad pwysig i fywyd y cwmni ers ei ddechreuad,” meddai Ioan Williams.

Roedd y cwmni wedi diddymu dwy swydd yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ – gan gynnwys un y cyfarwyddwr arall, Judith Roberts – ond roedd Ioan Williams yn pwysleisio nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng hynny a phenderfyniad Cefin Roberts “i symud ymlaen”.

Fe fydd y cwmni’n mynd ati ar unwaith i benodi Cyfarwyddwr Artistig newydd.

Cefin Roberts – y cefndir

Cefin Roberts oedd y Cyfarwyddwr Artistig cynta’ ar y cwmni ac mae’r ymateb i’r cynyrchiadau wedi bod yn gymysg.

Yn ogystal â rhai llwyddiannau mawr, sydd wedi cael canmoliaeth eang, fe fu beirniadu ar rai cynyrchiadau a dewisiadau, ac yn arbennig un o’r cynyrchiadau diweddara’ o ddrama gan Meic Povey.

Mae Cefin Roberts hefyd yn cael ei ystyried yn un o’r actorion a’r perfformwyr gorau ac yn enwog am ei waith gyda’r ysgol ddrama, Ysgol Glanaethwy, yr oedd wedi ei sefydlu gyda’i wraig, Rhian.

Mae hefyd wedi dechrau gyrfa yn nofelydd, gan ennill y Fedal Ryddiaith a chyhoeddi ail nofel y llynedd.

Llun (Gerallt Llewelyn)

Cyfweliad gyda Cefin Roberts – adran Theatr a Sgrin