Lleu Bleddyn o Lanbrynmair yw Gohebydd newydd Bro360

Diweddarwyd  

Pam wnaethoch chi benderfynu ymgeisio am swydd Gohebydd Bro360?

Dwi di bod â diddordeb mewn newyddiaduraeth ers yn ifanc, ac ar ôl cwblhau gradd mewn Cymraeg a Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd mae’r swydd hon yn gyfle i mi ehangu a datblygu’r sgiliau hynny yn bellach.

Beth fyddwch chi’n ei wneud yn y swydd o ddydd i ddydd?

Nid oes un diwrnod na’r un stori’r un fath, ac felly mae’r swydd yn un sydd yn amrywio o ddydd i ddydd. Er mai gweithio o’r swyddfa yn Aberystwyth fydda i yn bennaf, dwi’n edrych ‘mlaen i grwydro o amgylch Gogledd Ceredigion ac Arfon yn siarad a phobl a chwilio am straeon ar gyfer y gwefannau bro.

Pam bod newyddion lleol yn bwysig?

Ers y saithdegau mae’r papurau bro wedi bod yn ran annatod o’n diwylliant ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’n gofnod o ffor o fyw, ond mae hefyd a’r gallu i ddod a pobol ynghyd. Cam naturiol felly yw i roi llwyfan i newyddion lleol ar-lein er mwyn i genedlaethau newydd fedru mwynhau a dysgu am eu bro.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y swydd yma?

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd treuliais chwe wythnos fythgofiadwy yn dilyn Cymru o amgylch Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Beth yw eich swydd orau hyd yn hyn?

Hyfforddi rygbi yn Ne Affrica.

Beth yw’r potensial i gyfryngau digidol yng Nghymru heddiw?

Mae nifer o heriau yn wynebu newyddiaduriaeth yng Nghymru a thu hwnt, ond rydym ni hefyd yn byw yn un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes newyddiadura. Mae’r cyfryngau digidol yn newid yn gyflym, ac mae’n bwysig i ni beidio aros yn ein hunfan, yn hytrach rhaid addasu i’r galw er mwyn datblygu ffyrdd newydd o adrodd straeon.

Pwy yw eich ysbrydoliaeth, neu pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnoch yn eich gyrfa?

Nain, Gatland a Huw Edwards – y cyfuniad perffaith.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer gwefannau newyddion lleol Bro360?

Y gobaith yw gallu datblygu rhwydwaith eang o wefannau bro ar draws y ddwy ardal, llwyfannau fydd nid yn unig yn rhoi lle i  newyddion lleol Cymraeg ar lein ond hefyd yn llwyddo i wneud gwahaniaeth yn yr ardaloedd.

Penodiadau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn