Cynorthwyydd Gohebiaeth – Menter a Busnes

5 Rhagfyr 2018

Manyleb Swydd

Teitl y Swydd:                        Cynorthwyydd Gohebiaeth

Prosiect:                                 Cyswllt Ffermio

Adran:                                     Gwledig

Lleoliad:                                  Aberystwyth

Rheolwr Atebol:                    Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth

Graddfa:                                 2

Cyflog:                                    £18,388 – £19,759

Cytundeb:                              Llawn amser

Sgiliau Dwyieithog:               Hanfodol

Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cyswllt Ffermio, rydym yn chwilio am  Gynorthwyydd Gohebiaeth i ymuno â ni.  Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant amaethyddol Cymru.

Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Nod y Rôl

  • Cydweithio gyda’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
  • Gweithio’n annibynnol er mwyn cynhyrchu gohebiaeth ar gyfer holl ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio gan gynnwys gwahoddiadau, negeseuon testun a newyddlen digwydiadau
  • Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Menter a Busnes

Prif Gyfrifoldebau

  • Gweithio’n annibynnol a bod yn gyfrifol am weithdrefnau creu gwahoddiadau o’r amser mae’r digwyddiad wedi ei gymeradwyo ar y CMS hyd nes y byddant wedi mynd allan i’r busnesau.
  • Cydlynu gohebiaeth yn amserol ar gyfer digwyddiadau sydd ar y gweill gan gynnwys gwahoddiadau, negeseuon testun a newyddlen digwyddiadau
  • Sicrhau bod y system CMS yn cael ei chadw yn gyfredol ac effeithiol er mwyn hwyluso’r broses o gynhyrchu gwahoddiadau’n brydlon
  • Sicrhau cywirdeb ieithyddol a thechnegol wrth lunio a pharatoi gwahoddiadau i ddigwyddiadau trwy gydweithio gyda’r adran gyfieithu a Swyddogion Datblygu a Thechnegol Cyswllt Ffermio
  • Sicrhau bod y gwahoddiadau’n barod i gael eu hanfon yn brydlon ac i’r cyfeiriadau cywir
  • Cynhyrchu rhestrau postio perthnasol ar gyfer digwyddiadau
  • Monitro’r broses argraffu er mwyn sicrhau bod y gwahoddiadau ar gael yn brydlon
  • Sicrhau bod yr holl ohebiaeth yn gywir ac o safon uchel
  • Cydweithio gyda’r tîm marchnata i sicrhau bod unrhyw ymgyrchoedd perthnasol yn cael sylw amserol ar wahoddiadau
  • Cyfathrebu gyda’r asiantaethau allanol perthnasol fel y bo’n ofynnol
  • Darparu cymorth a chefnogaeth ddibynadwy ac effeithiol yn y swyddfa

Arall

  • Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
  • Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw
  • Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Addysg hyd o leiaf NVQ lefel 3, neu’n uwch, a/neu brofiad gwaith dangosadwy mewn maes perthnasol
  • Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Publisher, cronfeydd data, yr e-bost a’r Rhyngrwyd
  • Sgiliau cydlynu gwych
  • Sgiliau cyfathrebu dwyieithog llafar ac ysgrifenedig gwych
  • Gallu mewnbynnu data’n gywir ac i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol
  • Sgiliau cydlynu a threfnu o safon uchel
  • Sgiliau ysgrifennu dwyieithog cywir
  • Sgiliau gwasanaeth y cwsmer da
  • Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddol /gwledig
  • Blaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Materion Gwledig
  • Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithlon
  • Gallu parhau gyda’ch gwaith eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm

Manteisiol

  • Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ei gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Gwenan Jones ar 01970 636296.

Cyfweliadau

Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd Iau, 20 Rhagfyr. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, 17 Rhagfyr 2018.

Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:

http://www.menterabusnes.co.uk/en/about/equality-and-diversity-policy

Dyddiad cau i ymgeiswyr
17 Rhagfyr 2018

Cofiwch sôn am adran swyddi Golwg360 wrth ymateb i’r hysbyseb hwn.