Gwobrau i gynnyrch organig

Busnesau bwyd organig yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru


Carwyn Adams - Caws Cenarth
Mae’n ymddangos bod busnesau bwyd organig yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru ar ôl i nifer ddod i’r brig yng Ngwobrau’r ‘Gwir Flas’ yr wythnos diwethaf.

Cynhaliwyd y gwobrau am yr unfed flwyddyn ar ddeg ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn gyfle i ddathlu’r bwyd a’r ddiod orau sydd gan Gymru i’w cynnig.

Ac roedd y sector organig yn sicr yn dathlu ar ôl perfformiad rhagorol a gipiodd wyth o wobrau i gynhyrchwyr – dwy Wobr Aur, pedair Arian a dwy Efydd.

Ymhlith yr enillwyr oedd Caws Cenarth o Aberteifi adre â Gwobr Arian y Cynhyrchydd Bach am eu caws Cenarth Aur.

‘Yma yn Caws Cenarth rydyn ni wastad wedi credu bod defnyddio llaeth organig yn cynhyrchu caws” meddai Carwyn Adams o’r cwmni.

“Mae’r wobr hon yn ychwanegu at yr anrhydeddau niferus sydd wedi’u casglu gan ein cawsiau organig dros y blynyddoedd.  Heb os, mae’n dangos bod llawer o bobl eraill yn gwerthfawrogi blas bendigedig ac yn cytuno ag ethos cynhyrchion organig.”

“Mae’r gwobrau hyn yn gamp wirioneddol gadarnhaol i nwyddau organig Cymru ac yn wobr ffantastig i’r dynion a merched busnes arloesol a mentrus ym myd ffermio organig” meddai Neil Pearson, Rheolwr Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru.

“Mae’n dangos yn glir bod busnesau organig yn cynhyrchu bwyd sy’n blasu’n rhagorol yn ogystal â chydymffurfio â chanllawiau moesegol ac amgylcheddol llym ffermio organig.”

Dim ond 8% o ffermydd Cymru sy’n cynhyrchu bwydydd organig ond llwyddodd y sector i greu tipyn o argraff ar banel beirniaid y Gwir Flas.

Cynhyrchwyr organig hefyd a gyrhaeddodd y brig o ran perfformiad mewn marchnadoedd allforio dros y 12 mis diwethaf gan roi hwb arall i’r sector i’w groesawu.

Enillwyr Organig Gwobrau’r Gwir Flas 2012-2013

Cig Oen

ARIAN
Dofednod Organig Capestone Cyf
Lwyn Cig Oen Organig Paradwysaidd

EFYDD
Cynhyrchwyr Organig y Graig
Ffolen Cig Oen wedi’i Rhostio

Caws (cynhyrchydd bach)

ARIAN
Caws Cenarth
Cenarth Aur

EFYDD
Caws Teifi
Caws Teifi

Llaeth, iogyrt, menyn a chaws (cynhyrchydd mawr)

AUR
RACHEL’S
Iogyrt Difraster Organig Rachels gydag Eirin Gwlanog a Granadilas

ARIAN
RACHEL’S
Iogyrt Difraster Organig Rachels gyda Mefus a Riwbob

GWOBR CYMRU CYFLAWNI DRWY ALLFORIO
AUR
Fferm Organig y Rug
Pasteiod Cig Oen, Eidion, Porc, Cyw Iâr Organig, Cig Carw Gwyllt, Helgig Gwyllt

ARIAN
Y Profiad Celtaidd Cyf
Cwrw’r Celt

Dweud eich dweud