Ffasiwn a ffyrdd – sioe unigryw i hybu diogelwch

Mae Wythnos Diogelwch Y Ffyrdd yn wythnos allweddol er mwyn cysylltu gyda phobl ac ar gyfer codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

Eleni, mae’r wythnos wedi torri tir newydd, trwy gysylltu negeseuon diogelwch gyda ffasiwn a dillad a chynnal sioe ffasiwn unigryw.

Fe gafodd casgliad arbennig ei greu yn defnyddio negeseuon diogelwch ar y ffyrdd gyda’r nod o newid ymddygiad pobl ifanc a’u hagweddau at ddiogelwch ar y ffyrdd.

R’yn ni wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru, gyda chefnogaeth Road Safety Designs a’n partneriaid o fewn Diogelwch Ffyrdd Cymru dros y misoedd diwethaf ar y prosiect cyffrous ac arloesol yma.

Daeth y misoedd o waith caled, paratoi a chynllunio i uchafbwynt yn ystod Wythnos Diogelwch Y Ffordd ar 22 Tachwedd gyda’r sioe ffasiwn yn cael ei chynnal yn awyrgylch ysblennydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Mae yna un tebygrwydd mawr rhwng diogelwch ar y ffyrdd a ffasiwn – maen nhw’n effeithio ar bob un ohonon ni bob dydd.

Mae diogelwch ar y ffyrdd yn effeithio ar bawb; boed yn gerddwyr, yn feicwyr, yn feicwyr modur, yn farchogion neu’n fodurwyr.

R’yn ni i gyd yn defnyddio’r ffyrdd ac r’yn ni i gyd yn gwneud penderfyniadau wrth ddefnyddio’r ffyrdd, penderfyniadau a all effeithio nid yn unig ar ein diogelwch ni ein hunain ond ar ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd eraill o’n cwmpas.

Rhoddodd y noson gyfle i bobl ifanc ymgysylltu â GoSafe a dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd mewn ffordd hwyliog, greadigol ac ymhollyd. Drwy roi llwyfan iddynt fynegi eu syniadau am ddiogelwch ffyrdd drwy gyfrwng ffasiwn, fe helpoddd gyda’n gwaith o godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith gyrwyr ifanc. Mae dyfodol diogelwch ar y ffyrdd yn eu dwylo nhw.

 

Meddai Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Eleni, yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, roedd GanBwyll am gysylltu gyda gyrwyr ifanc, carfan p bobl sy’n ystadedgol yn wynebu risg uwch ar ein ffyrdd. Roedden ni am wneud hyn mewn ffordd greadigol, addysgol ac arloesol a fyddai’n cynyddu eu gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd ac yn eu hannog i ymwneud gyda diogelwch ar y ffyrdd ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl o’r un oed.

R’yn ni i gyd wedi clywed am “Wythnos Ffasiwn” ac roedden ni am gysylltu hynny gyda “Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd”.

Mae ffasiwn hefyd yn effeithio ar bob un ohonon ni bob dydd, hyd yn oed os nad ’yn ni’n meddwl amdano neu’n sylweddoli ei fod yn digwydd.

Felly, mae’r myfyrwyr ar y cyrsiau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn ymchwilio i ddiogelwch ar y ffyrdd ac wedi dylunio a chreu casgliad ffasiwn a ysbrydolwyd gan negeseuon, arwyddion ac ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd gyda’r nod o newid ymddygiad ac agweddau pobl ifanc tuag at ddiogelwch y ffyrdd ac mae’n anrhydedd i ni gydweithio gyda nhw ar yr ymgyrch yma.

Gallai’r penderfyniadau dyddiol a wnawn wrth ddefnyddio’r ffyrdd arbed bywydau. Gwisgo eich gwregys diogelwch, gyrru i amodau’r ffordd, gwisgo dillad addas, bod yn ymwybodol o’r amgylchfyd o’ch cwmpas, peidio â defnyddio ffôn symudol – penderfyniadau bach, ond gall gwneud y dewis anghywir arwain at ganlyniadau difrifol.”

Roedd y noson, a  oedd wedi’i noddi gan Road Safety Design, a chyda cefnogaeth Brake, yr elusen diogewlch ar y ffyrdd sy’n cydlynu Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd ledled y Deyrnas Unedig a pphartneriaid eraill, yn llwyddiant ysgubol.

Roedd dyluniadau’r dylunyr ifanc a gymerodd ran yn wallgof, yn ddiddorol ac yn cyfleu negeseuon pwysig diogelwch ar y ffyrdd drwy lwyfan gweledol ffasiwn a dylunio.”

 

Meddai Carol Gillanders, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Masnachol Road Safety Designs:

“R’yn ni’n falch iawn o fod wedi cydweithio mewn partneriaeth gyda GanBwyll ar y Sioe Ffasiwn Wythnos Diogelwch Y Ffordd gyntaf erioed.

Gallwn oll wneud rhywbeth i wella diogelwch ar y ffyrdd, a dyna pam y gwnaethon ni sefydlu ein busnes a chynllunio’r triongl rhybudd BriteAngle i helpu i gadw modurwyr yn ddiogel a’u gweld ar ochr y ffordd.

Pwy oedd yn gwybod y byddai hefyd yn dyblu fel y ategolyn perffaith ar gyfer llwyfan? R’yn ni wedi gweld dyluniadau anhygoel gan fyfyrwyr ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru ac r’yn ni’n falch o fod wedi helpu i roi llwyfan iddyn nhw arddangos eu creadigaethau gwych a’r cyfan wedi’u hysbrydoli gan ddiogelwch ar y ffyrdd.”

Dweud eich dweud