Rownd y Dref

GanBwyll yw’r bartneriaeth fwyaf o’i math yn y Deyrnas Unedig ac mae newydd gynnal cynllun gweithredu newydd sbon i leihau nifer y gyrwyr sy’n torri’r gyfraith ac i atal anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd.

Bwriad cynllun Amgylchynu’r Dref, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yng Nghasnewydd, oedd i gefnogi pobl y ddinas a’u galluogi i fyw, gweithio ac ymweld mewn awyrgylch diogel.

Mae GanBwyll yn cynnwys 27 partner cyfartal, gan gynnwys y 22 Awdurdod Unedol yng Nghymru, y pedwar Heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

Gydol mis Hydref, roedd GanBwyll yn cydweithio gyda’n partneriaid yn ardal Casnewydd i “Amgylchynu’r Dref” (Surround The Town).

Roedd y Cynllun Gweithredu’n yn cynnwys nifer o weithgareddau gwahanol, gan gynnwys:

  • Swyddogion Heddlu yn stopio ceir mewn ardaloedd sy’n peri pryder o amgylch y ddinas
  • Swyddogion Yr Awdurdod Lleol yn cysylltu gyda thrigolion ynghylch materion megis tai, sbwriel a cherbydau wedi eu gadael.
  • GanBwyll a’r Heddlu yn gorfodi cyfyngderau cyflymder ac yn gweithredu yn erbyn gyrwyr oedd yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru, rhai oedd heb fod yn gwisgo gwregys a rhai oedd yn cyflawni troseddau ffordd eraill.
  • Addysgu’r cyhoedd ar ddiogelwch y ffordd gan swyddogion.
  • Sesiynau addysg gan y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Gweithredu Close Pass

“Mae gennym ni i gyd yr hawl i ddefnyddio’r ffyrdd yn ddiogel a thrwy gydweithio fel partneriaid rydym yn gobeithio y bydd ein negeseuon yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud Casnewydd yn lle mwy diogel i bawb,” meddai’r Rhingyll Jason Williams, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Gwent,

Rydym yn gwybod bod mwyafrif defnyddwyr y ffordd yn cydymffurfio gyda’r cyfyngderau cyflymder, nad ydyn nhw’n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru a’u bod yn gwisgo gwregys.

Mae’r Cynllun Gweithredu yma yn targedu’r lleiafrif sydd heb fod yn cydymffurfio gyda’r gyfraith a, thrwy eu addysgu am y peryglon a’r canlyniadau, gobeithiwn weld cynnydd yn y nifer sy’n ufuddhau.

“Roedd Amgylchynu’r Dref yn gyfle gwych i weithio mewn partneriaeth i leihau digwyddiadau ar ein ffyrdd,” meddai Stuart Townsend, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth tân ac Achub De Cymru. “Mae ein timau tân yn ceisio defnyddio addysg ac atal a byddant wrth law i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar bob mater yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd gan gynnwys amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r  5 Angheuol.

“Mae llawer gormod o bobl yn cael eu hanafu’n ddifrifol ac yn cael eu lladd ar ein ffyrdd, felly mae unrhyw beth y gallwn ei wneud sy’n hyrwyddo’r neges am fod yn ddiogel, yn synhwyrol ac yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill yn hollbwysig.”

Yn dilyn llwyddiant y Cynllun Gweithredu yng Nghasnewydd rydym wedi penderfynu cynnal Cynllun Gweithredu arall ddiwedd mis Tachwedd yng Nghwmbran.

 

Dweud eich dweud