Lansio prosiect i helpu achub bywydau

Noson Emosiynol ac Ysbrydoledig yn Aberystwyth

Ar y 26ain o Fedi, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth fe wnaeth GanBwyll lansio ein prosiect newydd – Y Prosiect Etifeddol – er mwyn helpu i wneud y ffyrdd yn fwy diogel.

Mae’r Prosiect Etifeddol yn rhoi llais i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganlyniadau digwyddiadau a gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru, gan ddefnyddio lleisiau pobl sy’n byw gyda’u colled a’u galar ac sydd eisiau defnyddio eu profiadau a’u storïau i ddylanwadu ac i newid agweddau ac ymddygiad pobl ar ein ffyrdd.

Wrth ddarllen yn y papur neu glywed ar y newyddion am ddamwain ar ein ffyrdd rydym yn ymateb mewn arswyd, gyda chydymdeimlad am ychydig cyn parhau gyda’n diwrnod.

I’r rhai hynny sydd wedi colli rhywun annwyl neu sy’n wynebu amgylchiadau sydd yn newid bywyd, dechrau yn unig yw’r ddamwain.

Drwy’r Prosiect Etifeddol rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r effeithiau hir dymor y mae digwyddiadau a gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd yn eu cael ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau; a sut y mae modd osgoi digwyddiadau o’r fath petai agweddau neu ymddygiad wedi bod yn wahanol.

Teuluoedd yn dweud eu stori

Mae pump teulu o bob cwr o Gymru wedi rhannu eu straeon gyda GanBwyll gan gynnwys teulu Miriam Briddon:

Ar y 29ain o Fawrth, 2014 fe adawodd Miriam ei chartref am y tro olaf. Fe adawodd hi yn hapus dan chwerthin am 6:30yh i fynd i weld ei chariad. Ychydig ar ôl 7yh roedd Miriam wedi marw.

Lladdwyd Miriam pan gollodd gyrrwr oedd yn gyrru o dan ddylanwad alcohol reolaeth ar ei gar wrth geisio troi cornel. Yn ei ymgais i droi’r cornel fe yrrodd ei gar i mewn i lwybr Miriam.

“Dim ond un person allai fod wedi achub bywyd Miriam y noson honno, y person nad oedd yn poeni digon am fywydau eraill ac a benderfynodd yrru dan ddylanwad alcohol.”

Richard Briddon, Tad Miriam


Ym mhresenoldeb Yr Anrhydeddus, Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Ddyfed a gwesteion eraill fe wnaeth y teuluoedd ysbrydoli pawb oedd yn bresennol gyda’u cryfder, urddas ac ymroddiad i gydweithio gyda’u gilydd i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffordd.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll: “Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r ffordd yn ddiogel ac mae angen i ni gyd rannu’r ffordd a parchu ein gilydd.

Rydym yn gryfach fel un llais, ac fe gydweithiwn tuag at etifeddiaeth o ffyrdd mwy diogel a gostyngiad yn y nifer o anafiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd.”

Arwerthiant

Rhan o’r lansiad oedd arwerthiant a gododd £1,145 er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Fe chwaraeodd yr Ambiwlans Awyr ran mawr yn Stori Jason a Stori Mandy, dau feiciwr a ddioeddefodd anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau. Diolch i ymroddiad ac arbenigedd yr Ambiwlans Awyr fe achubwyd bywydau y ddau.

Bydd y storïau sydd yn rhan o’r Prosiect Etifeddol yn chwarae rhan allweddol yn ein gweithgareddau am y 12 mis nesaf, gyda’r storïau a’r teuluoedd yn ein meddyliau a’n calonnau wrth i ni barhau gyda’n gwaith a gadw ffyrdd Cymru yn ddiogel.

Dweud eich dweud