Dathlu’r Pasg gydag Amgueddfa Cymru

Beth sydd ar y gweill yn Amgueddfa Cymru dros gyfnod y Pasg?

Dewch i fwynhau hwyl y Pasg gydag Amgueddfa Cymru.

Mae llu o weithgareddau yn digwydd ar draws gwyliau’r Pasg i helpu difyrru’r plantos.

  • Dewch i fwynhau Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar benwythnos y Pasg, 19-22 Ebrill. Dilynwch y cliwiau o gwmpas y safle i ddod o hyd i wobr wych!
  • Mae CoedLan, cwrs rhaffau Sain Ffagan wedi ailagor ar gyfer tymor yr haf. Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd trwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn.
  • Profwch hud o’r oes a fu yn y Ffair Draddodiadol yn Sain Ffagan – hwyl a sbri i’r plantos bach. Bydd cyfle i gyfarfod y crefftwyr yn y Farchnad Grefftau a dysgu mwy am eu gwaith wrth iddyn nhw gynnal gweithdai ac arddangosiadau trwy’r wythnos.
  • Ewch i Big Pit i fwynhau helfa Basg, crefftau a phaentio wynebau. Dilynwch y cliwiau o gwmpas Big Pit i ddod o hyd i’r wyau Pasg arbennig sydd â llythrennau i wneud gair, datrys y pos ac ennill gwobr! Mae’r helfa Basg yn digwydd rhwng 13 a 22 Ebrill a phaentio wynebau a chrefftau ar gael ar 17-19 Ebrill a 24-26 Ebrill.
  • Dewch o hyd i olygfeydd a synau Blaenafon yn oes Fictoria gyda phrofiad rhithwir newydd. Mae’r profiad rhithwir 360° newydd sbon yn rhoi blas i chi o fywyd fel yr oedd yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
  • Dewch i fwynhau Helfa Basg yn yr Amgueddfa Lechi ar 16-22 Ebrill. Dilynwch y trywydd trwy’r gweithdai. Dewch o hyd i bob eitem i ennill gwobr! Bydd cyfle hefyd i wneud crefftau Pasg yn y gweithdai crefft.
  • Draw yn Amgueddfa Wlân Cymru, mae’r ŵydd aur wedi dianc ac mae ei holl wyau wedi eu cuddio. Dewch i ddatrys y cliwiau a dod o hyd iddyn nhw cyn y bydd y cawr yn gwneud hynny. Mae’r helfa Basg yn digwydd 6 – 28 Ebrill. Ewch i’r Gorlan Grefftau i greu cwningen giwt o hosan neu ludwaith cwmwl ar 18-19 a 25 a 26 Ebrill.
  • Dewch i gwrdd â’r dinosoriaid gyda’r hwyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 13 Ebrill. Ymunwch â Ha Ha Harries a Becky Kitter o Cbeebies am Sioe Wyddoniaeth Wallgof yn llawn balŵns o bob math ar 14 Ebrill. Mwynhewch ffilm yn yr Amgueddfa ddydd Sul y Pasg, ac wedyn galwch heibio i addurno pot planhigion a phlannu hedyn yn barod am yr haf.

Bydd tâl ar gyfer rhai gweithgareddau. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw ar gyfer Dinosoriaid Gyda’r Hwyr. Am fwy o wybodaeth, ewch i amgueddfa.cymru

Dweud eich dweud