Beth yw gwerth yr alwad neu’r neges testun yna?

Sawl un ohonoch chi sydd wedi bod yn gyrru ar hyd y ffordd ac yn clywed y ffôn symudol yn canu, neu sain neges testun yn cyrraedd eich ffôn?

Sawl un ohonoch chi sydd wedi estyn am y ffôn symudol i ateb yr alwad neu i edrych lawr ar eich sgrin am rai eiliadau i weld pwy sydd wedi cysylltu gyda chi?

Dwi’n siŵr bod y mwyafrif ohonom wedi cael ein temtio i wneud hynny ar ryw adeg neu’i gilydd. Ond ydych chi wedi meddwl am eiliad beth all canlyniad y weithred yna fod?

Wrth yrru ar gyflymder o 30 milltir yr awr, os edrychwch chi i lawr ar sgrin eich ffôn am ddim ond 4.6 eiliad, , byddwch yn teithio 63medr, neu bron i hyd chwech bws dau lawr!

Beth gollwch chi wrth dynnu eich llygaid oddi ar y ffordd yn y 4.6 eiliad yna? Plentyn yn camu allan i ganol y ffordd? Beic yn paratoi i droi cornel? Car yn brecio’n gyflym? Gall y 4.6 eiliad yna olygu’r gwahaniaeth rhwng gallu ymateb yn gyflym a damwain.

Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Iechyd Y Byd mae gyrwyr sy’n defnyddio ffonau symudol yn:

  • llawer llai ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar y ffordd o’u hamgylch
  • methu â gweld arwyddion ffyrdd
  • methu â chynnal safle’r lon briodol a chyflymder cyson
  • fwy tebygol o yrru’n rhy agos at y car o’u blaen
  • ymateb yn arafach ac yn cymryd mwy o amser i stopio
  • fwy tebygol o fynd i mewn i fylchau anniogel mewn traffig
  • teimlo dan fwy o straen a rhwystredigaeth

Rhwng y 15 a 25 Ebrill bydd Ymgyrch Ffonau Symudol yn cael ei chynnal ar draws pedwar llu heddlu Cymru gyda’r bwriad o addysgu’r cyhoedd o beryglon defnyddio’r ffon wrth yrru a’r canlyniadau posib.

Er ein bod yn erlyn tros droseddau defnyddio ffonau symudol, ein gobaith yw nad welwn ni fodurwyr yn defnyddio eu ffonau symudol trwy gydol yr ymgyrch na chwaith ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Cofiwch hefyd fod camerâu symudol GanBwyll, yn ogystal â nodi throseddau goryrru, eisoes yn dal modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol a modurwyr sydd heb fod yn gwisgo gwregys.

Mae rhai pobl yn meddwl bod GanBwyll yn chwilio am droseddwyr ac yn gosod camerâu mewn llefydd er mwyn dal pobl. Y gwirionedd yw mae ein gobaith a’n nod ni yw gweld ein camerâu yn dod yn ôl heb ddal yr un modurwr yn troseddu ar ein ffyrdd; dyna ydy diwrnod llwyddiannus i GanBwyll.

Dweud eich dweud