Gwregys – achub bywyd, osgoi cosb

Ers 1983 mae gwisgo gwregys wrth yrru wedi bod yn ofyniad cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig – yr amcangyfri yw fod y gyfraith yma wedi achub tua 50 miliwn o fywydau!

Yn ôl arolwg diweddar gan Lywodraeth Prydain roedd 96.5% o yrwyr ym Mhrydain yn gwisgo gwregys ar ein ffyrdd. Rydym yn gwybod felly mai lleiafrif o bobl sydd heb fod yn gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru.

Dyna’r lleiafrif yr ydym eisiau eu targedu.

Rhwng 11 a 24 Mawrth, roedd pedwar llu Heddlu Cymru yn cynnal Ymgyrch Wregys Ddiogelwch ar hyd a lled y wlad.

Pwrpas yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru, yn ogystal a’r pwysigrwydd o wisgo gwregys os ydych yn deithiwr yn y car. Gall yr un weithred yma achub eich bywyd a golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw mewn damwain car.

Da yw gallu darllen yn yr arolwg diweddar bod nifer y gyrwyr sy’n gwisgo gwregys wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r mileniwm; gyda’r cynnydd mwya’ sylweddol i’w weld yn y defnydd o wregys mewn teithwyr sedd gefn.

Roedd 54% o deithwyr sedd cefn yn gwisgo gwregys yn 1999 gyda chynnydd i 78.9% yn 2017!

Mae faniau camerâu diogelwch wedi bod yn nodi gyrwyr sydd heb wregys ers cryn dipyn o amser bellach, yn ogystal â gyrwyr sy’n defnyddio ffonau symudol a gyrwyr sy’n goryrru. Gallwch gael dirwy o hyd at £500 os nad ydych yn gwisgo gwregys!

Yn 2018 roedd 2775 cofnod o droseddau lle nad oedd gyrwyr yn gwisgo gwregys.  Ein gobaith yw gallu cofnodi nad oedd yr un drosedd o beidio â gwisgo gwregys ar ffyrdd Cymru yn y dyfodol.

Roedd ymgyrch mis Mawrth yn gam ar y llwybr yna wrth i ni geisio addysgu gyrwyr am beryglon peidio gwisgo gwregys.

Nod strategol GanBwyll yw gwneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu ac achub bywydau. Dim ots pa mor gyfarwydd neu fyr yw’r siwrne, gall gwisgo gwregys achub eich bywyd!

Felly, tra’n gyrru ar ffyrdd Cymru cofiwch wisgo eich gwregys, gyrrwch yn ofalus ac fe fyddwch chi’n cyfrannu at ddiogelwch ein ffyrdd!

Dweud eich dweud