Ffocws ar: Iechyd Meddwl

Joanna Adams, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol gyda chwmni Darwin Gray, yn ystyried cyfrifoldebau cyflogwyr a hawliau eu staff.

Delweddau symbolaidd o sgwrsio, bwyta'n iach, cadw'n heini a wyneb yn gwenu

Delweddau sy’n cael eu defnyddio gan y Sefydliad Iechyd Meddwl ym maes iechyd meddwl yn y gwaith

Joanna Adams, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol gyda chwmni Darwin Gray, yn ystyried cyfrifoldebau cyflogwyr a hawliau eu staff.

Mae iechyd meddwl yn cael cryn sylw ar hyn o bryd.  Yn ddiweddar, bu’r cyflwynydd Sean Fletcher yn bwrw golwg ar drybini gwasanaethau iechyd meddwl plant mewn rhaglen Panorama ar BBC1, a’r actor Ioan Gruffudd yn cyfaddef yn gyhoeddus ei fod yn dioddef o orbryder.

Tynnu sylw a thorri ar y stigma yw effaith ymgyrchoedd o’r fath ac mae’n digwydd ar adeg helbulus o ran ystadegau iechyd meddwl ein gwlad.  Yng Nghymru fe ddywed ein meddygon teulu bod 40% o’u hapwyntiadau yn delio ag achosion yn ymwneud â iechyd meddwl.

Yn wir fe fydd un o bob pedwar o’r boblogaeth yn dioddef o gyflyrau salwch meddwl ac, ar unrhyw adeg, mae un o bob chwech o’r gweithlu yn dioddef o straen, gorbryder neu iselder.

Beth yw cyfrifoldebau cyflogwyr am iechyd meddwl eu gweithwyr?

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tuag o ran iechyd eu gweithwyr ac mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl y gweithlu.

Sut felly all gyflogwyr hyrwyddo iechyd meddwl da?

  1. Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Egluro i bawb yn y busnes bod iechyd meddwl da yn bwysig i iechyd y busnes ei hun.
  2. Danfon neges glir fod rhoi gwybod am salwch meddwl yn iawn.
  3. Casglu data am resymau am salwch drwy wneud cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith yn gyson ac yn drwyadl. Heb adnabod y rhesymau am salwch does dim modd i’r busnes helpu’r unigolyn yn iawn na deall os oes rhywbeth sy’n deillio o systemau gwaith yn achosi neu ychwanegu at y symptomau.
  4. Bod yn weithredol drwy apwyntio ‘Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl’ i godi ymwybyddiaeth am ffyrdd o wella cyflwr iechyd meddwl gweithwyr.
  5. Hyfforddi staff fel ‘Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl’ i adnabod yr arwyddion a delio â staff sy’n dioddef.
  6. Ystyried defnyddio meddygon a nyrsys iechyd galwedigaethol yn fwy buan nag o’r blaen fel modd i ddeall y broblem ac estyn help llaw yn gynt.
  7. Ystyried addasiadau rhesymol, dros dro neu barhaol. i hwyluso profiad gweithwyr sy’n dioddef o anhwylder neu afiechyd meddwl.

 

 

 

Dweud eich dweud