Rhy boeth i weithio?

Joanna Adams o gwmni Darwin Gray yn ystyried hawliau gweithwyr pan fydd hi’n wirioneddol dwym.

Llun agos o law yn gwasgu botwm peiriant dwr a'r dwr yn llifo ohono

Dwr yn llifo o beiriant swyddfa

Joanna Adams o gwmni Darwin Gray yn ystyried hawliau gweithwyr pan fydd hi’n wirioneddol dwym.

 Gyda’r haf ar y ffordd a’r tymheredd yn codi, mae mannau gwaith yn gallu bod yn lleoedd digon heriol yr adeg yma o’r flwyddyn. Yn wir, debyg fod yna demptasiwn i rai i aros o’r gwaith, smalio salwch a mynd am drip i’r traeth a hithau mor braf.

Ond beth yw dyletswydd cyflogwr at ei staff pan fo’r tywydd yn gynnes, a sut mae llwyddo i annog gweithwyr i roi o’u gorau tra bod yr haul yn gwenu?

Dyma ambell awgrym….

1. Ydy hi byth yn rhy boeth i weithio?

Dydy’r gyfraith ddim yn gosod trothwy tymheredd penodol ar hyn. Yn hytrach, yn ôl Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, rhaid i gyflogwr sicrhau fod tymheredd gweithle yn “rhesymol” ar gyfer ei staff. Os nad yw’r tymheredd yn “rhesymol” felly, mae’n bosibl i staff ddadlau nad oes disgwyl iddynt weithio o dan y fath amgylchiadau.

Mae’r gair “rhesymol” yn amwys dros ben wrth gwrs, ac mae’n debygol y bydd synnwyr cyffredin yn chwarae rhan fawr wrth asesu os ydy gweithle yn rhy gynnes i staff. O safbwynt y cyflogwr, mae systemau awyru, ffaniau, a chau bleinds rhag yr haul, yn gallu bod o help mawr.

2. Gwaith tu allan

Os oes disgwyl i staff weithio tu allan mewn tywydd poeth iawn, bydd disgwyl I gyflogwr wneud asesiad risg addas. Gallai hyn olygu argymell bod staff yn gwisgo dillad addas ac eli haul, neu bod yna gyfnodau o seibiant rheolaidd a rhywle i gysgodi o’r haul.

3. Dŵr yfed

Os ydy’r tywydd yn boeth iawn, byddai’n arfer da i gyflogwyr ddarparu dŵr yfed oer i’w staff.

4. Llacio’r côd gwisg

 Bosib na fyddai fflip-fflops yn briodol mewn nifer o weithleoedd ond byddai’n addas efallai i gyflogwr lacio’r disgwyliad i wisgo siaced a thei neu ddillad ffurfiol mewn amgylchiadau poeth iawn.

5. Hyblygrwydd oriau

Arfer da arall i gyflogwr fyddai caniatáu i bobl addasu eu horiau gwaith neu gyflwyno polisi gweithio o gartre’ er mwyn osgoi gorfod gweithio yn ystod adegau cynhesaf y dydd neu orfod teithio i’r gwaith ac oddi yno ar adegau prysur a chwyslyd. Serch hyn, rhaid cofio sicrhau cysondeb yn hyn o beth, achos byddai cyflogwr eisiau osgoi amheuon ei fod yn ffafrio rhai aelodau o staff dros eraill.

6. Staff bregus

Byddai tywydd poeth yn cynnig heriau pellach i aelodau o staff mwy bregus, gan gynnwys y rheiny sy’n dioddef o anableddau, y rheiny sy’n feichiog, neu’r rheiny sydd yn ymprydio fel rhan o’u crefydd. Mae disgwyl felly i gyflogwyr wneud asesiad risg ac addasiadau i rolau rhai o’r rhain pan fo’r tywydd yn achosi problemau iddyn nhw.

Mae Joanna Adams yn ymgynghorwraig adnoddau dynol yn nghwmni cyfreithwyr Darwin Gray yng Nghaerdydd. www.darwingray.com

 

Dweud eich dweud