Sut i ddelio â straen gwaith

Cyngor i gyflogwyr a gweithwyr gan Joanna Adams, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol gyda Darwin Gray.

Llun o belen straen yn cael ei gwasgu a darn o allweddell cyfrifiadur a theleffon yn gefndir

Llun: golwg360

Cyngor i gyflogwyr a gweithwyr gan Joanna Adams, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol gyda Darwin Gray.

Straen. Mae’n air sydd yn cael ei ddefnyddio byth a hefyd ac mae’r ffigyrau yn dangos pam:

  • Dros hanner miliwn o bobl yn diodde o straen, iselder neu gorbryder yn deillio o’r gweithle.
  • Colled o 12.5 miliwn o ddyddiau gwaith o achos straen yn y gweithle [HSE, ffigyrau 2016/2017].

Pam hynny?  Beth yw’r rheswm fod y gweithle modern yn creu y fath anhwylder?

Pam?

Mae’n annhebyg fod yna un ffactor syml  wedi achosi’r cynnydd mewn straen, ond heb os, ers y cwymp ariannol ddegawd yn ôl rhoddwyd pwysau ar yr economi oedd yn drymach nag o’r blaen.  Fyth ers hynny mae pobl wedi gorfod gwneud mwy am lai i gadw’r economi a’i ben uwchben y dŵr. A gyda mwy o ofynion gwaith, fe ddaw straen.

Un ffactor arall sydd wedi newid wyneb ein byd yn ddi-os yw’r defnydd mewn technoleg symudol. Bellach, does dim ffin rhwng gwaith a chartref ac mae hyn wedi ychwanegu at iechyd meddwl gwael y gweithlu cyfoes.

Daw straen yn amlwg mewn amryw ffyrdd – ymddygiad gwael yn y gwaith, diffyg hyder ac, yn y pendraw, dyddiau o salwch, yn unol â ffigurau’r HSE.

Felly sut mae adnabod, cydnabod ac arbed straen yn y gweithle?

Adnabod – brwydro ymlaen?

Cyhoeddwyd holiadur ‘Iechyd a Lles yn y Gweithle’ gan fudiad CIPD ar Mai 2 eleni a hwnnw’n datgelu bod cynnydd aruthrol yn nifer y gweithwyr sy’n mynd i’w gwaith ere u bod yn sâl.  Mae’n dweud bod y ffigwr wedi treblu ers 2010.

O’r mwy na 1,000 a atebodd, roedd 86% yn dweud bod enghreifftiau yn eu cwmnïau o bobl yn dod i’r gwaith pan oedden nhw’n sâl – cynnydd aruthrol ers 2010 pan oedd y ffigwr yn ddim ond 26%.

Roedd yr holiadur yn awgrymu hefyd bod llawer mwy o bobl yn defnyddio eu gwyliau blynyddol i barhau i weithio.

Felly, gwell yw adnabod a oes yna straen, rhoi cyfnod o amser o’r gwaith i’r gweithiwr gymryd stoc, gwella ei berspectif a’i wydnwch cyn i’r cyflwr wyro tuag at bryder, iselder neu waeth.

Mae caniatáu i straen gynyddu yn gallu arwain at gyfnodau hirach o salwch, os na chaiff ei daclo yn brydlon.

Cydnabod – gonestrwydd

Wedi i weithiwr ddychwelyd ar ôl anhwylder, dylai’r rheolwr llinell a’r aelod staff gwrdd am sgwrs er mwyn deall beth oedd wrth wraidd yr anhwylder. Mae gonestrwydd y gweithiwr bryd hynny yn holl bwysig er mwyn i’r cyflogwr cydwybodol adnabod os oes modd hwyluso’r sefyllfa.  Wedi’r cyfan, mae gan y cyflogwr gyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch y gweithiwr ac mae hyn yn cwmpasu iechyd meddwl y gweithiwr.

Atebion – gweithio’n hyblyg

Gall y cyflogai ystyried cyflwyno cais i weithio’n hyblyg i leihau’r pwysau gwaith sydd arnyn nhw.  Mae gan staff (sydd ag o leiaf 26 wythnos o wasanaeth) yr hawl i gyflwyno cais gweithio hyblyg waeth beth fo’u rheswm. Rhaid i’r cyflogwr ystyried y cais yn drwyadl ac os na ellir ei ganiatau mae’n rhaid darparu rhesymau llawn.

Atebion – bodlonrwydd yn y gwaith

Yn syml, mae angen i gyflogwyr sylweddoli bod lles corfforol a meddyliol eu gweithwyr, eu hasedau mwyaf, yn hanfodol er mwyn creu gweithle cynhyrchiol a bodlon.

I’r perwyl yma, mae rhai cyflogwyr yn cynnig hyfforddiant i geisio cydbwyso gwaith a bywyd personol yn effeithlon.

Mae eraill yn cynnig rhaglen gymorth i weithwyr (EAPs) gyda llinellau ffôn i staff allu manteisio ar gymorth cyfrinachol.

Heblaw am y cynlluniau defnyddiol yma, mae arweinyddiaeth dda a diwylliant cefnogol yn ffactorau allweddol i greu awyrgylch llesol yn y gwaith.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dweud eich dweud