Fflur Jones, y gyfreithwraig cyflogaeth, sy’n ystyried gwerth rheol newydd, ganrif ers i’r menywod cynta’ gael yr hawl i bleidleisio …
A hithau’n ganrif ers i (rai) menywod dderbyn yr hawl i bleidleisio, byddai’n braf meddwl bod merched bellach yn profi cydraddoldeb yn eu gyrfaoedd, ac yn mwynhau’r gallu i godi drwy’r rhengoedd yn yr un modd â dynion.
Fel y gwyddom fodd bynnag, breuddwyd nad yw wedi ei gwireddu eto ydi’r ddelfryd hon, er gwaetha’ effaith deddfau pwysig megis Deddf Tâl Cyfartal 1970 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn anffodus:
- Yn y sector preifat, mae merched yn dal i gael eu talu ar gyfartaledd 18.1% yn llai yr awr na dynion.
- Yn 2015, roedd gwerth pot pensiwn merched ar gyfartaledd 25% yn llai nag un dynion.
- Mae’r bwlch rhwng cyflogau merched a dynion ar ei uchaf ar ôl i ferched a dynion droi’n 40 mlwydd oed. Mae hyn yn arwydd o sefyllfa’r rhan fwya’ o ferched sydd yn colli eu lle yn y gweithle ac yn ariannol oherwydd dyletswyddau gwarchod plant, sydd yn dal i gael ei wneud gan fwyaf gan ferched.
Dyletswyddau newydd
Yn sgil rhai o’r ystadegau yma, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno dyletswydd newydd ar rai cwmniau.
Erbyn 4 Ebrill 2018 felly, mae gofyn i gwmniau sydd â mwy na 250 o staff gyhoeddi eu ffigyrau ar y bwlch cyflog rhwng y dynion a’r merched yn eu gweithluoedd.
Mae disgwyl i oddeutu 9,000 o gwmniau gyhoeddi eu data cyn y dyddiad hwn, ac mae 750 o gwmniau eisoes wedi gwneud hynny.
Tra fod yr ystadegau a gyhoeddwyd gan y 750 cwmni yma yn creu darlun dyrys, dylid pwyllo cyn dadansoddi y rhain i geisio darganfod patrymau ac aros nes y bydd ychwaneg o gwmniau wedi gwneud yr un fath.
Y gwendidau
Mae’n bwysig nodi hefyd tra bod angen creosawu’r ddyletwydd newydd hon ar gyflogwyr mawr, mae’n amheus gennym ni a yw’n debygol o sortio’r bwlch cyflog dros nos, am y rhesymau canlynol:
- Dyw’r ddyletswydd ddim yn berthnasol i gwmniau bach a chanolig. Yng Nghymru, dyna yw proffil y ganran fwya’ o gwmniau, ac mae’r bwlch cyflog mwya’ mewn cwmnïau sydd yn cyflogi 20-99 o weithwyr.
- Dyw’r ddyletswydd ddim yn dilyn argymhelliad yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi awgrymu y dylai’r ddyletswydd fod yn berthnasol i gwmnïau sy’n cyflogi 50 neu fwy o weithwyr.
- Nid oes cosb ariannol os yw cwmniau yn penderfynu peidio adrodd eu hystadegau ynglyn â’r bwlch.
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd i fod i blismona’r ddeddfwriaeth, ond mae’n ddadleuol a oes ganddyn nhw yr adnoddau ariannol a staffio i wneud hyn yn effeithiol.
Amser a ddengys felly a fydd y ddyletswydd hon i adrodd ar y bwlch cyflog yn declyn effeithiol i daclo sefyllfa ddyrys a rhwystredig.
Yn sicr, dyw’r ddyletwydd ddim yn mynd i daclo un rheswm arwyddocaol iawn dros fodolaeth y bwlch cyflog, sef cost gofal plant.
Hyd nes y bydd y Llywodraeth yn gwneud rhywbeth i daclo hyn, mewn modd tebyg i’r hyn sy;n digwydd mewn gwledydd Sgandinafaidd, mae’n bur debygol y bydd y bwlch cyflog yn parhau yn ffactor rhwystredig am flynyddoedd i ddod, wrth i ferched roi gofalu am blant uwchlaw eu gyrfaoedd.
Mewn oes pan ydym yn ymfalchio yng ngwareidd-dra ein hymarferion yn y gweithle, mae’r ffaith fod y bwlch yn parhau mor sylweddol yn rhywbeth y dylen ni I gyd gywilyddio ynddo.
Mae Fflur Jones yn gyfreithwraig cyflogaeth yng nghwmni Darwin Gray ac yn un o sefydlwyr y rhwydwaith Cyfreithwyr.com. www.darwingray.com / www.cyfreithwyr.com