Yr economi gig: galwadau newydd am ddiwygio hawliau gweithwyr

Mae adroddiad pwysig wedi argymell y dylid creu categori pellach o weithwyr mewn cyfraith cyflogaeth er mwyn atal cyflogwyr rhag cymryd mantais o weithwyr hunangyflogedig.

Cafodd Adolygiad Taylor o Arferion Gweithio Modern ei gomisiynu er mwyn edrych ar y gwahanol fathau o drefniadau gweithio sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig, ac yn benodol i archwilio hawliau cyflogaeth unigolion sy’n weithwyr hunangyflogedig honedig, ond sydd o dan reolaeth busnes penodol – gweithwyr “yr economi gig”.

Daeth hyn yn sgil nifer fawr o achosion Tribiwnlys Cyflogaeth yn erbyn busnesau fel Uber a Deliveroo, cwmnïau a oedd yn honni bod eu gyrwyr a’u rhedegwyr yn gweithio iddyn nhw fel contractwyr annibynnol (yn hytrach na fel “gweithwyr” neu “weithwyr cyflogedig”, sydd â statws uwch mewn cyfraith cyflogaeth) ac nad oedd hawl ganddyn nhw i hawliau sylfaenol fel yr isafswm cyflog a gwyliau ac absenoldeb salwch â thâl.

Bellach, mae Adolygiad Taylor wedi gwneud yr argymhellion pwysig canlynol:

– Bod categori cyfreithiol newydd o “gontractwr dibynnol” yn cael ei gyflwyno er mwyn amddiffyn pobl sy’n hunangyflogedig, ond sydd o dan reolaeth cyflogwr.

– Bod hawl gan yr unigolion hynny i gael isafswm cyflog, o leiaf, pan fyddan nhw’n gweithio.

– Bod tâl salwch statudol yn dod yn hawl cyflogaeth sylfaenol ar gyfer pob gweithiwr.

 

Mae hon yn erthygl noddedig gan ein partneriaith masnachol, cyfreithwyr Darwin Gray.

Dweud eich dweud