Marchnad Glanyrafon

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc


Marchnad Glanyrafon, Caerdydd (Llun Fforch i Fforc)

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Marchnad Glanyrafon yng Nghaerdydd sy’n cael ein sylw yr wythnos hon…

Mae marchnadoedd ffermwyr i’w disgwyl mewn trefi a phentrefi gweldig, ble mae galw mawr am gynnyrch lleol. Ond nid ar chwarae bach mae llwyddo mewn trefnu marchnadoedd rheolaidd mewn dau o ddinasoedd mwyaf De Cymru; a dyma beth mae Riverside Community Markets Association wedi’i wneud.

Sefydlwyd Cymdeithas Marchnadoedd Cymunedol Glanyrafon gan Stephen Garrett i sefydlu marchnadoedd stryd ledled Caerdydd ar foreau Sadwrn a Sul. Y syniad yw dod â chynhyrchwyr a phrynwyr ynghyd, cysyniad a ddaeth yn llwyddiannus iawn. Mae hyd at 50 stondinwyr yn bresennol bob wythnos ym Marchnad Bwyd Go Iawn Glanyrafon ac mae’r dewis helaeth o gynnyrch yn denu mwy na 1,000 o gwsmeriaid bob dydd Sul. Ac i brofi p?er eu llwyddiant, yn ôl papur newydd y Times, mae marchnad Glanyrafon ymysg y deuddeg gorau ym Mhrydain.

Mae’r cysyniad wedi agor drysau i lawer o fusnesau bach ac mae wedi profi’n fodel o farchnad gynaliadwy gyda photensial i’w weithredu ledled Cymru. Mae’r trefnwyr yn galw ar gwsmeriaid i gefnogi eu heconomi lleol tra’n gwarchod yr amgylchedd – ynghyd ag arbed arian; mae’r RCMA yn ymroddedig i gadw bwyd lleol mor fforddiadwy ag sy’n bosib.

Mae’r RCMA wedi llwyddo i gynyddu’r lefel gyflenwi o gynnyrch lleol dros y 10 mlynedd diwethaf, a hynny yng nghanol manwerthwyr cystadleuol iawn, ac maent yn parhau i ddenu cwsmeriaid a chynhyrchwyr a hynny mewn cyfnod sy’n ariannol anodd i’r naill a’r llall.

Dweud eich dweud