Y Scarlets yn herio cynhyrchwyr lleol Cymru!

Rhanbarth rygbi’r Scarlets yw’r diweddaraf i arwyddo addewid i brynu bwyd yn lleol ac yn uniongyrchol

Rhanbarth y Scarlets yw’r diweddaraf i gefnogi ymgyrch Fforch i Fforc sy’n hybu’r cyhoedd i brynu bwyd yn lleol ac yn uniongyrchol. 

Fe arwyddodd chwaraewyr y Scarlets, Jon Davies a Rob McCusker gerdyn addewid dros eu cyd-chwaraewyr ym Mharc y Scarlets heddiw.

Mae addewid y rhanbarth Cymreig yn codi nifer yr addewidion, ers lansiad yr ymgyrch ym mis Awst, i 3,000.  

Fe ddaeth Davies a McCusker wyneb yn wyneb a chynhyrchwyr Cynnyrch Uniongyrchol Sir Benfro, sy’n cyflenwi bwyd ffres lleol ar-lein i’w ddosbarthu yng Ngorllewin Cymru ac sy’n cynrychioli dros 70 o  gynhyrchwyr rhanbarthol.

Fe deithiodd y cynhyrchwyr i Barc y Scarlets gydag amrywiaeth o gynnyrch a oedd wedi ei dyfu, magu neu eu creu o fewn y sir, gan gynnwys cig lleol o siop fferm Bethesda, menyn o Bethesda Milk, hufen ia o Mary’s Farmhouse, a chacennau heb glewten o bopty Caboose yn Solfach. 

‘Safon gorau posib’

 “Rydym yn cefnogi addewid Fforch i Fforc ac rydym wrth ei bodd taw’r Scarlets ydy’r 3,000 i arwyddo’r addewid, er mwyn, lle mae’n bosib prynu’n uniongyrchol wrth gynhyrchwyr lleol,” meddai’r canolwr Jon Davies.  

“Fel chwaraewyr proffesiynol, rydym yn deall gwerth bwyta’n iach, ac wrth brynu’n lleol ac yn uniongyrchol rydych yn derbyn y cynnyrch yn y safon gorau posib. Dylai bwyta’n iach fod yn gôl i bob un ohonom, nid yn unig ni chwaraewyr.”

Fe gymerodd McCusker a Davies y cyfle i flasu peth o’r cynnyrch rhanbarthol, tra bod y cynhyrchwyr yn cymryd y cyfle i gasglu llofnodion, ymarfer cicio, ac archwilio safon y gwair. Byddai cae tua maint cae chwarae Parc y Scarlets yn medru tyfu 51 tunnell o datws pob blwyddyn. 

“Fel rhywun o Ogledd Cymru, sy’n byw yn Ne Cymru, mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod da wrth flasu cynnyrch y rhanbarth ac i weld pa gynnyrch sydd ar gael yn Ne Cymru a chael cwrdd â’r cynhyrchwyr, maen nhw’n bobol anhygoel,” meddai McCusker. 

‘Hanfodol’

Mae James Ross o Gynnyrch Uniongyrchol Sir Benfro wedi croesawu cefnogaeth y Scarlets.  

“Mae’n grêt fod y Scarlets yn cefnogi addewid Fforch i Fforc i brynu’n lleol ac yn uniongyrchol, a bod ein cynhyrchwyr ni wedi dod lawr i’r Stadiwm yma heddiw i arddangos y cynnyrch sydd ar gael gennym,” meddai James Ross. 

“Mae rhanbarth y Scarlets, sy’n cynnwys Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, gyda chyfoeth mewn cynhyrchwyr bwyd lleol, marchnadoedd fferm, siopau fferm, a nifer o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â bwyd ar draws y flwyddyn”

“Mae cefnogi cynhyrchwyr a phrynu’n lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol iach i economi gwledig y rhanbarth, ac yn sicrhau fod ymwelwyr yn cael y cyfle i flasu’r hyn sydd yn Ne Orllewin Cymru.”

Mae’n bosib arwyddo’r addewid ar-lein ar www.fforchifforc.org.uk gwefan yr ymgyrch.

Mi fydd y rheini sy’n arwyddo’r addewid nid yn unig yn derbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd o’r ymgyrch, ond hefyd yn cael ei rhoi yn awtomatig i mewn i raffl fisol Fforch i Fforc.