Yr ail a fydd flaena’

Sir Benfro oedd yn ail yng nghategori ‘Cyrchfan Bwyd’ yng ngwobrau Gwir Flas Cymru 2008, ond sir y wes, wes aeth a’r brif wobr llynedd.

Mae’r sir a ddaeth yn ail am wobr newydd y llynedd, wedi ei chipio eleni.

Roedd y wobr Cyrchfan Twristaidd yn cael ei rhoi am y tro cynta’ yn 2008 i wobrwyo esiamplau gwych o gydweithio yn y diwydiant bwyd i greu profiad twristaidd cynaladwy.

Sir Fynwy aeth â hi, gyda Sir Benfro’n ail. Lynedd, llwyddodd sir y Wes, Wes i ennill, er bod nifer y cynigion wedi mwy na dyblu ers y flwyddyn flaenorol.

“Mae gyda diwydiant bwyd cadarn sy’n tyfu,” meddai Kate Morgan, Swyddog Bwyd y sir ac un sy’n gweithio yn y maes ers blynyddoedd. “Dangoswyd hynny llynedd. Mae’r categori yn un cyffrous, blaengar a breintiedig dros ben, felly roedd rhaid ceisio eto!

“Gan fod modd defnyddio digwyddiad yn ganolbwynt, roedd Gŵyl Bysgod Sir Benfro yn ddewis naturiol, fel un o wyliau mwya’ poblogaidd a hirsefydlog y rhanbarth, ac fel esiampl berffaith o gydweithio rhwng cyngor sir a busnesau bwyd lleol.”

Dathlu deg

Dechreuodd yr ŵyl yn 1999, ar ôl i’r cyngor ddenu cystadleuaeth bysgota sewin i’r ardal a chreu rhaglen o weithgareddau o’i hamgylch.

Meddai Kate, “ Erbyn hyn mae’r ŵyl yn cynnwys dros 200 o ddigwyddiadau ac yn denu rhyw 20,000 o ymwelwyr. Yn ogystal â digwyddiadau bwyd, mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau chwedleua, cerddoriaeth a chelf a gweithgareddau di-ri’, digon i annog ymwelwyr i aros ymlaen ychydig yn hirach.

“Er taw’r cyngor sir sy’n marchnata ac yn cydlynu’r digwyddiad, r’yn ni’n annog ac yn dibynnu’n drwm ar fusnesau’r ardal – boed yn gynhyrchwyr, yn gychod pysgota neu’n westai – i gynnal digwyddiadau ar y cyd”.

Clod

Gan fod busnesau o Sir Benfro wedi cael clod mewn traean o holl gystadlaethau’r noson, roedd y wobr, meddai, yn glod iddyn nhw i gyd.

“Wrth gwrs, r’yn ni yn teimlo hefyd fod gan Sir Benfro ei niche a’i naws o le ei hun fel unig barc cenedlaethol arfordirol Prydain – mae’r cefn gwlad yn golygu cynhyrchwyr fferm diri a’r arfordir yn golygu bwyd môr o ansawdd – yn sicr, mae yna stamp rhanbarthol cryf ar ddiwydiant bwyd ein sir.”

Llun: Mecryll Sir Benfro (Hawlfraint y Goron)