Tatws Bryn

Y cyntaf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr.


Dyma’r cyntaf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Cwmni Tatws Bryn sy’n cael ein sylw gyntaf…

Fe gymerodd Chris yr awenau ym musnes llysiau ei deulu yn yr 1980au oddi wrth ei dad, Kenneth Jones, a sefydlodd y fenter yn yr 1950au.

Mae’n tyfu amrywiaeth o lysiau yn ei Fferm Bryn Hafod y Wern yn Llanllechid, gan gynnwys tatws, moron, ffa, cennin, chard, cêl a bresych. Yn ddiweddar mae wedi arbrofi gyda llysiau megis ysgewyll piws a pak choi. Caiff y llysiau i gyd eu hau â llaw o’r hedyn, eu tyfu heb unrhyw gemegion a’u cynaeafu â llaw, ac mae gweithwyr ychwanegol yn cael eu cyflogi ar yr adegau prysuraf.

Yn ôl Chris, “Dylid mwynhau bwyd lleol gan mai dyma’r cynnyrch gorau mae’r rhanbarth yn ei gynnig. Nid yn unig mae’n dda i’n hiechyd ond mae hefyd yn dda i’r economi leol.”

Yn ogystal â gwerthu’r cynnyrch o’i fferm ac ym marchnad ffermwyr Llangefni, mae Chris wedi sefydlu cynllun bocs llysiau, sy’n dosbarthu o fewn radiws 10 milltir.

“Mae’r cynllun bocs llysiau’n boblogaidd iawn, yn enwedig gyda theuluoedd ifanc – mae’n gyfleus ac mae’n cwsmeriaid yn cael llysiau ffres tymhorol yn syth i’w cartrefi. O’r cae i’r plât mewn 24 awr – ni allai fod yn fwy ffres.”

Mae Chris hefyd yn anelu i ehangu’r busnes ar y we yn ogystal â chreu cynnyrch newydd gan gynnwys colslo cartref.

Yn ôl un o gwsmeriaid ffyddlon Chris, “Mae bob tro’n hapus i siarad â chi am ei gynnyrch a sut mae’n eu tyfu. Mae’n eich annog i ymweld â’r fferm i weld lle caiff y llysiau eu tyfu. Mae’n hyfryd gwybod fod y llysiau i gyd yn dod yn syth o’i gaeau”.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.tatwsbryn.co.uk