C a G Morgan a’r Mab

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc. Teulu Morgan, Gellifeddgaer ger Pen-y-bont ar Ogwr


Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Teulu Morgan, Gellifeddgaer ger Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cael ein sylw heddiw…

Mae’r teulu Morgan wedi ffermio fferm 330 erw Gellifeddgaer, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr ers naw cenhedlaeth. Cyrhaeddodd y Morgan cyntaf yng Ngellifeddgaer yn denant ynghanol yr 1700oedd, prynwyd y fferm oddi wrth y tir berchnogion ynghanol yr 1960au ac ychwanegwyd 150 erw ati ddeng mlynedd yn ôl pan brynwyd y fferm gyfagos. Charles, Gillian a’u mab Richard yw’r Morganiaid sy’n byw yno ar hyn o bryd a rhyngddynt rhedant y fferm a’u busnes cig, C & G Morgan & Mab.

Ddeng mlynedd yn ôl, sylweddolodd y teulu fod angen iddynt arallgyfeirio a dyma benderfynu gwerthu eu cig o ansawdd trwy farchnadoedd ffermwyr ac o’u fferm eu hunain.

Mae gan y fferm fynydd Gymreig nodweddiadol hon 700 o ddefaid magu a 35 o wartheg sugno. Mae’r holl gig yn cael ei fagu’n naturiol, mae’r ŵyn yn aros ar y caeau trwy gydol y flwyddyn, ac maen nhw’n cael eu bwydo ar wair a gwellt ym misoedd y gaeaf. Mae nifer fechan o foch Cymreig hefyd yn cael eu magu ar y fferm, yn bennaf i’w gwerthu o’r fferm ac yn y marchnadoedd ffermwyr lleol, gan gynnwys marchnad ffermwyr Pen-y-bont a gynhelir ar y pedwerydd Sadwrn yn y mis yn neuadd yr henoed Awel-y-Mor ym Mhorthcawl.

Yn ôl Gillian, “Pan ddechreuon ni werthu’n hunain, roedden ni braidd yn nerfus, gan nad oedden ni’n gwybod sut byddai pethau’n mynd. Fe gymeron ni anadl dwfn a mynd amdani. Gyda chyngor gan swyddogion Safonau Masnachu ac Iechyd yr Amgylchedd, dyma gychwyn ar daith lle buon ni’n ffodus i ennill Gwobrau Gwir Flas am ein cig oen a’n porc a chanmoliaeth am ein cig eidion. Yn 2009 cawsom Aur 3-seren yn y Gwobrau Blas Gwych am ein cig eidion.”

Mae gofalu am yr amgylchedd hefyd yn ffactor pwysig iawn wrth redeg y fferm ac mae Gellifeddgaer wedi bod yn rhan o gynllun Tir Gofal ers sawl blwyddyn.

“Rydyn ni wastad wedi anelu at gynnyrch o ansawdd, mae ein heidion yn cael ei grogi am gyfnod o15-21 niwrnod gan ein bod yn credu fod hynny’n gwella ei wead a’i flas. Mae’r cwsmeriaid yn cael eu hannog i ymweld â’r fferm ac rydym yn croesawu ymweliadau ysgol fel y gall y genhedlaeth nesaf ddeall o ble mae eu bwyd yn dod.”

Dweud eich dweud