Fferm Ysgubor Ynysgyffylog

Fferm Ysgyffylog ger Dolgellau


Sue a Jim Alger
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Fferm Ysgyffylog ger Dolgellau sy’n cael sylw nesaf…

Prynodd Sue a Jim Alger eu torllwyth gyntaf o 8 mochyn er mwyn clirio’r tir ar y fferm roedden nhw newydd ei phrynu, Ynysgyffylog, Arthog ger Dolgellau ym mis Ionawr 2005. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Sue a Jim yn awr yn magu eu cenfaint o foch buarth yn rhydd o GM ac yn gwerthu eu cynnyrch porc eu hunain yn syth i gwsmeriaid ar hyd a lled Gwynedd a thu hwnt.

Yn ôl Sue, “Mae ein holl gig yn cael ei baratoi ar y fferm ac rydym hefyd yn halltu ein cig moch ein hunain ac yn gwneud dewis o selsig porc traddodiadol a blas. Mae ein moch yn cael eu magu yn yr awyr agored, fel y gallant borthi ac ymdrybaeddu a gwneud yr holl bethau mae moch yn hoffi’u gwneud yn naturiol.”

Ac nid Sue a Jim yw’r unig rai sydd wedi gwirioni ar eu moch, “Dros y blynyddoedd fe gawson ni lawer o bobl yn galw heibio’r fferm ac mae ein hychod hynaf wrth eu boddau’n sefyll o flaen y camera gyda’u moch bach.”

Mae porc ac wyau buarth Fferm Ysgubor Ynysgyffylog ar werth ym marchnad ffermwyr Dolgellau ar y 3ydd Sul yn y mis, marchnad Porthmadog bob dydd Gwener a marchnad Machynlleth bob dydd Mercher. Mae eu cynnyrch hefyd ar gael wedi’i becynnu ymlaen llaw a gellir prynu eu hwyau trwy flwch gonestrwydd wrth gât y fferm. Mae Ynysgyffylog hefyd yn cyflenwi nifer o westai, tafarnau a lleoedd gwely a brecwast yn ardal Dolgellau.

Dweud eich dweud