Siop Fferm Llwynhelyg


Teifi a Jenny yn eu siop
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Llwynhelyg yn Sarnau ydy’r ddiweddaraf yn y gyfres…

Dechreuodd Teifi a Jenny Davies eu menter siop fferm yn 1984 er mwyn creu ffordd o werthu’r ffrwythau a llysiau o’u fferm yn Sarnau. Chwe blynedd ar hugain yn ddiweddarach ac mae Siop Fferm Llwynhelyg wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys arian yng nghategori Adwerthwr Gwir Flas y Flwyddyn 2009 am ansawdd ac amrywiaeth ei chynnyrch, y rhan fwyaf ohono’n cael ei dyfu a’i gynhyrchu ar y fferm, yr ardal leol ac o rannau eraill o Gymru.

A hithau ar agor 6 niwrnod yr wythnos, mae’r siop fferm wedi’i lleoli ar yr A487 rhwng pentrefi Tan y Groes a Sarnau, ac mae wedi ehangu’n ddiweddar trwy gael mynedfa newydd a mwy o leoedd parcio.

Yn ôl Teifi, “Rydyn ni’n gwerthu tato cartref a chnydau salad o’r fferm, a ffrwythau a llysiau tymhorol gan dyfwyr lleol. Mae cacennau cartref, pwdinau, pasteiod safri a quiches hefyd yn boblogaidd iawn gyda’r cwsmeriaid. Mae’r siop hefyd yn adnabyddus am ei dewis helaeth iawn o gawsiau gwlad o Gymru, gan fod gennym 80 math gwahanol yn y siop.”

Mae Siop Fferm Llwynhelyg yn gwerthu dros 650 o gynhyrchion gan 120 o gynhyrchwyr bach, 85% ohonynt o Gymru, gan gynnwys selsig, cig moch wedi’i halltu, cynnyrch llaeth, caws, mêl, jamiau, picl a llawer mwy.

“Mae gan ein staff dwyieithog cyfeillgar wybodaeth fanwl am y cynnyrch sydd ar gael – pwy a’i gwnaeth, ble maen nhw’n byw a sut flas sydd ganddo!.” meddai Teifi.

“Rydyn ni wastad wedi rhoi pwyslais ar werthu bwyd a diod lleol o ansawdd da, y rhan fwyaf ohono gan gynhyrchwyr bach, ac ar wasanaeth da,” meddai cydberchennog y siop Jenny Davies.

Mae’r siop fferm hefyd yn darparu ar gyfer ymwelwyr â’r ardal gyda’u hamper ‘Croeso i Gymru’, sy’n cynnwys detholiad o ddanteithion cartref o Gymru sy’n aros yr ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd eu bwthyn gwyliau fel y gallant flasu te Cymreig a mwynhau cynnyrch lleol ar gyfer brecwast a chinio’r diwrnod wedyn.

Dweud eich dweud