Blaencamel


Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Fferm Blaencamel yn Nyffryn Aeron sy’n cael ein sylw nesaf…

Mae Blaencamel yn fferm fechan yn Nyffryn Aeron sy’n agos at dref glan môr ddeniadol Aberaeron, sy’n cael ei rhedeg gan Pete Seggers, un o symbylwyr gwreiddiol y mudiad organig, a’i bartner Anne. Am y 30 mlynedd diwethaf bu’r teulu’n cynhyrchu dewis helaeth o lysiau a salad organig i safonau Cymdeithas y Pridd.

Mae erw’r fferm o dai gwydr, er heb wres, yn caniatáu i Blaencamel gynhyrchu saladau ffres trwy’r flwyddyn. Yn y gaeaf ceir cymysgedd tymhorol o ddail, sbigoglys, gorfetys a pherlysiau. Yn yr haf mae digonedd o’u tomatos ceirios, ciwcymbyr, pupur a phlanhigion wy blasus. Mae Blaencamel hefyd yn tyfu ffa a phys ac yn wir mwy neu lai unrhyw beth y bydd hinsawdd Ceredigion yn ei gynnal.

Mae Blaencamel hefyd yn rhedeg cynllun blychau llysiau sy’n cael eu dosbarthu ar hyd a lled Caerdydd a’r cylch. Mae Blaencamel yn mynychu marchnadoedd ffermwyr Aberystwyth (1 & 3 Dydd Sadwrn y Mis) Riverside, Caerdydd (pob dydd Sul), y Rath, Caerdydd (bob bore Sadwrn), Grangetown, Caerdydd (3ydd dydd Iau y mis) a Cowbridge (1 & 3 dydd Sadwrn y mis.)

Dweud eich dweud